{"id":12265,"date":"2026-03-26T06:00:31","date_gmt":"2026-03-26T06:00:31","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12265"},"modified":"2026-05-29T17:26:47","modified_gmt":"2026-05-29T16:26:47","slug":"lw-awards-march-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lw-awards-march-26\/","title":{"rendered":"Dathlu tiwtoriaid eithriadol Cymru mewn seremoni swmpus yn y Senedd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/lw-awards-march-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20442\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Learn-Work-Tutor-Award-winners-2026-e1774271453680.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20442\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Learn-Work-Tutor-Award-winners-2026-e1774271453680.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-20442\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20442\" class=\"wp-caption-text\">Tiwtoriaid a John Griffiths AS (ar y dde), a gafodd eu cydnabod yng Ngwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026.<\/p><\/div>\n<p>Cafodd cyfraniad hanfodol tiwtoriaid i Addysg Uwch ac Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Chymraeg i Oedolion ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo flynyddol a gynhaliwyd yn y Senedd, Caerdydd nos Fawrth.<\/p>\n<p>Anrhydeddwyd chwe tiwtor o Gymru am eu gwaith rhagorol wrth i\u2019w llwyddiannau gael eu dathlu yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026.<\/p>\n<p>Caiff tiwtoriaid eu gwobrwyo am eu gwaith mewn Addysg Uwch, Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Cymraeg i Oedolion.<\/p>\n<p><strong>Cafodd John Griffiths, AS Llafur Dwyrain Casnewydd a noddodd y digwyddiad yn y Senedd, wobr hefyd am ei gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes.<\/strong><\/p>\n<p>Bydd yn ymddeol fel AS ar 7 Mai ar \u00f4l gwasanaethu\u2019r Senedd ers ei ffurfio yn 1999, yn cynnwys mewn swyddi fel gweinidog a chadeirydd y Gr\u0175p Trawsbleidiol ar Addysg Bellach a Sgiliau.<\/p>\n<p>Canmolodd diwtoriaid am helpu dysgwyr i ddatblygu\u2019r sgiliau maent eu hangen i sicrhau swyddi safon uchel i gefnogi economi Cymru a chydlyniaeth y gymuned.<\/p>\n<p>\u201cMae Cymru yn dymuno bod yn genedl dysgu gydol oed a thiwtoriaid, dysgwyr a sefydliadau gwych sy\u2019n gwneud hynny\u2019n bosibl,\u201d meddai. Mae\u2019r gwobrau hyn mor bwysig wrth gydnabod yr holl ansawdd, gwerth a llwyddiant.<\/p>\n<p>Caiff eu gwobrau eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru a maent yn cydnabod tiwtoriaid eithriadol a aiff yr ail filltir i rymuso oedolion sy\u2019n ddysgwyr, trawsnewid bywydau a chryfhau cymunedau.<\/p>\n<p>Roedd enillwyr y gwobrau yn cynnwys Ruth Lloyd o Lanwrtyd, sy\u2019n diwtor Cymraeg Gwaith. Mae\u2019n gweithio i Dysgu Cymraeg Morgannwg, a gaiff ei redeg gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n addysgu yn y gweithle o lefel Mynediad i Uwch, gan ddefnyddio sgiliau a enillodd fel athrawes mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn gynharach yn ei gyrfa.<\/p>\n<p>Daw dau enillydd o Goleg G\u0175yr Abertawe. Mae Connie Henry yn Ymarferydd Sgiliau Hanfodol Cymru a Mentor Cymheiriaid Digidol sy\u2019n cefnogi dysgwyr ac addysgwyr o bob rhan o\u2019r byd i ddeall a rhoi arloesedd digidol ar waith mewn ffyrdd sy\u2019n wirioneddol yn gweithio iddynt.<\/p>\n<p>Mae Rabya Kadhim, Tiwtor a Mentor Addysg Bellach ac Addysg Uwch, wedi arloesi gyda datblygu a gweithredu rhaglenni Peirianneg Drydanol ac Electronig a Pheirianneg Fecanyddol i ateb y newidiadau yn anghenion diwydiant, ar \u00f4l ymgynghori yn eang gyda dysgwyr, cyflogwyr, partneriaid prifysgol a chyrff dyfarnu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r tiwtor a\u2019r mentor Sarah Cocchiara-Devine, sy\u2019n arwain Rhaglen Addysg Bellach Media Academy Cymru, yn trawsnewid bywydau ac yn ehangu mynediad i ddysgu gydol oes ledled Cymru. Mae\u2019n addysgu pynciau Cyfryngau Creadigol i 120 o oedolion y flwyddyn, rhai ohonynt wedi profi rhwystrau sylweddol i addysg.<\/p>\n<p>Cafodd dau diwtor gymeradwyaeth uchel \u2013 Dr Joanne Prescott sy\u2019n Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Wrecsam a Christopher Roberts o Goleg Penybont, sy\u2019n ddarlithydd mathemateg Dysgu Oedolion yn  Gymuned.<\/p>\n<p>Daeth addysg uwch yn llwybr yn \u00f4l i gyflogaeth i Joanne gan roi gobaith iddi yn dilyn llawdriniaeth i drawsblannu dwy ysgyfaint, a achubodd ei bywyd yn 2011. Mae wedi ymroi ei gyrfa i sicrhau y gall dysgwyr gael mynediad i\u2019r un cyfleoedd addysg sydd wedi trawsnewid ei bywyd.<\/p>\n<p>Mae Christopher yn gyrru arloesedd yn gyson i drawsnewid y ffordd mae\u2019n cyflwyno gwersi i ateb anghenion a gofynion y gymuned. Gan ddatblygu partneriaethau gydag Ysgolion Uwchradd Bryntirion, Porthcawl a Phencoed, mae\u2019n rhedeg dosbarthiadau Mathemateg ar gyfer Rhieni sydd o fudd i unigolion a hefyd eu teuluoedd a\u2019u cymunedau.<\/p>\n<p><strong>Cafodd yr holl enillwyr eu llongyfarch gan Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Addysg Uwch, a ddywedodd \u201cMae\u2019n bwysig ein bod yn cydnabod y tiwtoriaid gwych sy\u2019n gweithio ar draws addysg drydyddol sy\u2019n gwneud gwahaniaeth bob dydd.<br \/>\n <\/strong><br \/>\n\u201cRwyf wedi clywed gan lawer o oedolion sy\u2019n ddysgwyr a ddywedodd wrthyf fod dychwelyd i ddysgu wedi gwella eu bywydau. Gwyddom pan fod un person yn dysgu bod y manteision yn ymestyn ledled teuluoedd a chymunedau cyfan mewn ffyrdd sydd wirioneddol yn newid bywydau.\u201d<\/p>\n<p><strong>Fe wnaeth Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith, longyfarch yr holl enillwyr a diolch i Mr Griffiths am ei gefnogaeth faith fel hyrwyddwr addysg oedolion.<\/strong><\/p>\n<p>Dywedodd fod y bron gant o enwebiadau a gafwyd ar gyfer gwobrau eleni yn dangos \u201clled, dyfnder a chyrraedd sgiliau, ymroddiad a phroffesiynoldeb yn y sector\u201d, meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae dysgu gydol oes lle bynnag y mae\u2019n digwydd yn hanfodol i Gymru gyflawni ei huchelgeisiau cymdeithasol ac economaidd,\u201d ychwanegodd. \u201cMae\u2019n newid bywydau, yn cyfoethogi cymunedau ac yn tyfu\u2019r economi heb s\u00f4n dim am y budd iechyd a chymdeithasol ehangach. Mae ein tiwtoriaid yn sylfaenol i hynny.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y gwobrau eu cefnogi gan Colegau Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru, Prifysgolion Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a\u2019r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/learningandwork.org.uk\/cy\/?lang=cy\">Sefydliad Dysgu a Gwaith<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd cyfraniad hanfodol tiwtoriaid i Addysg Uwch ac Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Chymraeg i Oedolion ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo flynyddol a gynhaliwyd yn y Senedd, Caerdydd nos Fawrth. Anrhydeddwyd chwe tiwtor o Gymru am &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lw-awards-march-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12265","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12265","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12265"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12265\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12474,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12265\/revisions\/12474"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12265"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12265"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12265"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}