{"id":12282,"date":"2026-03-26T06:00:55","date_gmt":"2026-03-26T06:00:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12282"},"modified":"2026-05-29T17:21:55","modified_gmt":"2026-05-29T16:21:55","slug":"ccr-march-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ccr-march-26\/","title":{"rendered":"PSPRC yn Lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau wedi&#8217;i Adnewyddu gyda Mewnwelediadau Cyflogwyr ac Ieuenctid wrth ei Wraidd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ccr-march-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/CCRSP-Relaunch-Event-Loudspeaker-e1774293603210.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/CCRSP-Relaunch-Event-Loudspeaker-e1774293603210.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"274\" class=\"alignnone size-full wp-image-20470\" \/><\/a><\/p>\n<p>Cyrhaeddodd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC) garreg filltir bwysig ar 4 Chwefror gyda lansiad ei Chynllun Cyflogaeth a Sgiliau wedi&#8217;i adnewyddu yn yr Academi St\u00eam, Coleg Penybont. Daeth y digwyddiad \u00e2 chyflogwyr, darparwyr addysg, partneriaid a rhanddeiliaid o bob rhan o&#8217;r rhanbarth ynghyd i archwilio blaenoriaethau diweddaredig a fydd yn llywio datblygiad sgiliau dros y blynyddoedd i ddod.<\/p>\n<p>Un o nodweddion allweddol y gwaith adnewyddu eleni yw pwyslais cryfach ar gyfleoedd a heriau&#8217;r sector, gan sicrhau bod y Cynllun yn adlewyrchu&#8217;r farchnad lafur sy&#8217;n newid yn gyflym a chyfeiriad Llywodraeth Cymru. Mae uchelgeisiau Sgiliau Gwyrdd a Sero Net wrth wraidd y diweddariad, gan alinio blaenoriaethau rhanbarthol \u00e2 nodau cynaliadwyedd Cymru a pharatoi&#8217;r gweithlu ar gyfer y galw yn y dyfodol.<\/p>\n<p><strong>Cynllun Mwy Ymatebol, Wedi&#8217;i Alinio ar gyfer y Rhanbarth<\/strong><br \/>\nMae&#8217;r Cynllun wedi&#8217;i ddiweddaru yn ymateb i ddisgwyliad Llywodraeth Cymru am system sgiliau fwy ystwyth, sy&#8217;n seiliedig ar alw. Drwy fireinio blaenoriaethau&#8217;r sector, cryfhau&#8217;r ffocws ar sgiliau gwyrdd, a dyfnhau ymgysylltiad \u00e2 chyflogwyr, nod y Cynllun yw cadw Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gystadleuol, yn canolbwyntio ar y dyfodol, ac mewn sefyllfa dda ar gyfer twf cynhwysol.<\/p>\n<p>Rhoddodd y digwyddiad lansio gyfle cynnar i randdeiliaid archwilio&#8217;r cyfeiriad wedi&#8217;i adnewyddu a chyfrannu at y cam nesaf o gynllunio\u2019r gwaith cyflawni.<br \/>\nRhoi Ymgysylltu \u00e2 Chyflogwyr a Darparwyr wrth Wraidd y Cynllun.<\/p>\n<p>Fel rhan o&#8217;r lansiad, cynhaliodd PSPRC sesiwn ymgysylltu \u00e2 chyflogwyr gyda sefydliadau a darparwyr addysg o ystod eang o sectorau. Roedd trafodaethau wedi\u2019u hwyluso a gweithgareddau adborth byw yn gwahodd cyfranogwyr i brofi a dilysu them\u00e2u sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg yn y Cynllun.<\/p>\n<p>Defnyddiwyd yr un set o gwestiynau a ddefnyddiwyd yn ystod Sioeau Teithiol Llais Ieuenctid yr haf diwethaf eto, gan alluogi cymharu&#8217;n uniongyrchol rhwng safbwyntiau cyflogwyr a barn dros 90 o bobl ifanc o Goleg Merthyr, Coleg Caerdydd a&#8217;r Fro, Coleg y Cymoedd a Choleg Penybont. Mae&#8217;r dull hwn yn dangos ymrwymiad PSPRC i gynllunio sgiliau mewn ffordd gydweithredol sy&#8217;n ymgorffori lleisiau\u2019r gweithlu presennol a gweithlu\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p><strong>Aliniad Clir Rhwng Mewnwelediadau Cyflogwyr ac Ieuenctid<\/strong><br \/>\nRoedd canfyddiadau Sioeau Teithiol Llais Ieuenctid yn cyd-fynd \u00e2\u2019r mewnwelediadau a gasglwyd gan y cyflogwyr, sefydliadau a darparwyr addysg. Tynnodd y ddau gr\u0175p sylw at rwystrau allweddol sy&#8217;n cyfyngu ar allu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd, gan gynnwys heriau trafnidiaeth, diffyg llwybrau gyrfa lleol amlwg, a&#8217;r canfyddiad bod cyfleoedd yng Nghymru yn gyfyngedig.<\/p>\n<p>Pwysleisiodd pobl ifanc bwysigrwydd sgiliau rhyngbersonol a throsglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith t\u00eem a chreadigrwydd. Adleisiodd grwpiau cyflogwyr a darparwyr y blaenoriaethau hyn, tra hefyd yn tynnu sylw at faterion systemig ehangach sy&#8217;n dylanwadu ar wneud cynnydd. Gyda&#8217;i gilydd, mae&#8217;r mewnwelediadau hyn yn atgyfnerthu&#8217;r angen am wella mynediad, hyder ac ymwybyddiaeth o&#8217;r cyfleoedd sydd ar gael ledled Cymru.<\/p>\n<p><strong>Cryfhau Llwybrau a Chefnogi Dyfodol Gwyrddach<\/strong><br \/>\nElfen ddiffiniol o&#8217;r Cynllun wedi&#8217;i adnewyddu yw ei bwyslais cryfach ar Sgiliau Gwyrdd, cynaliadwyedd a Sero Net. Mae meysydd allweddol yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Paratoi dysgwyr a gweithwyr ar gyfer swyddi gwyrdd sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg<\/li>\n<li>Cefnogi cyflogwyr wrth iddynt drosglwyddo i arferion carbon isel<\/li>\n<li>Sicrhau bod y ddarpariaeth hyfforddiant yn adlewyrchu technolegau newydd a dulliau cynaliadwy<\/li>\n<li>Annog cydweithio i fapio anghenion gweithlu gwyrdd y dyfodol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Roedd y digwyddiad lansio yn galluogi cyflogwyr a phartneriaid i archwilio beth mae&#8217;r newidiadau hyn yn ei olygu yn ymarferol, gan dynnu sylw at heriau a chyfleoedd.<\/p>\n<p><strong>Dechrau Cydweithredol i Gam Nesaf y Cynllun<\/strong><br \/>\nTrwy roi ymgysylltu wrth wraidd y lansiad &#8211; a rhoi sylw i leisiau cyflogwyr ac ieuenctid &#8211; dangosodd y digwyddiad ymrwymiad PSPRC i ddull gweithredu cydweithredol ac ymatebol o gynllunio sgiliau.<\/p>\n<p>Wrth i PSPRC symud i&#8217;r cam cyflawni, bydd y mewnwelediadau hyn yn parhau i lywio\u2019r ffordd y rhoddir y cynllun ar waith, gan sicrhau bod system sgiliau&#8217;r rhanbarth yn parhau:<\/p>\n<ul>\n<li>wedi&#8217;i halinio ag anghenion y diwydiant<\/li>\n<li>wedi&#8217;i harwain gan leisiau dysgwyr<\/li>\n<li>yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd a thwf y dyfodol<\/li>\n<li>yn gyson \u00e2 chyfeiriad Llywodraeth Cymru<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r lansiad nid yn unig yn nodi\u2019r gwaith o gyflwyno&#8217;r Cynllun wedi&#8217;i adnewyddu, ond dechrau ymdrech ar y cyd o&#8217;r newydd i adeiladu gweithlu medrus, hyderus a pharod i&#8217;r dyfodol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ccrsp.co.uk\/cym\/data-observatory\">Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cyrhaeddodd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC) garreg filltir bwysig ar 4 Chwefror gyda lansiad ei Chynllun Cyflogaeth a Sgiliau wedi&#8217;i adnewyddu yn yr Academi St\u00eam, Coleg Penybont. Daeth y digwyddiad \u00e2 chyflogwyr, darparwyr addysg, partneriaid a rhanddeiliaid &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ccr-march-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12282","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12282","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12282"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12282\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12469,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12282\/revisions\/12469"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12282"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12282"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12282"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}