{"id":1231,"date":"2012-03-28T10:30:14","date_gmt":"2012-03-28T10:30:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=1231"},"modified":"2012-05-10T10:32:25","modified_gmt":"2012-05-10T10:32:25","slug":"pum-tim-o-gymrun-cyraedd-rownd-derfyol-her-arian-am-oes","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pum-tim-o-gymrun-cyraedd-rownd-derfyol-her-arian-am-oes\/","title":{"rendered":"Pum Tim O Gymru&#8217;n Cyraedd Rownd Derfyol Her Arian Am Oes"},"content":{"rendered":"<p>Mae dysgu sut i drin eich arian yn her i bawb ond mae pum t\u00eem o bobl ifanc wedi dangos dealltwriaeth arbennig o\u2019r maes.<\/p>\n<p>Cafodd y timau eu dewis o blith 40 o dimau i gymryd rhan yn rownd derfynol Gymreig Her Arian am Oes yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 4 Ebrill. Yno, byddant yn cyflwyno\u2019u prosiectau rheoli arian i banel o feirniaid amlwg. Mae 110 o dimau wedi ymgeisio ledled y Deyrnas Unedig.<\/p>\n<p>Bydd y t\u00eem buddugol yn mynd trwodd i Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai. Yno, c\u00e2nt gyfle i ennill \u00a32,500 i elusen o\u2019u dewis nhw, gwerth \u00a3100 o Fondiau Bonws i bob aelod a mentor o\u2019r Lloyds Banking Group am flwyddyn.<\/p>\n<p>Y pum t\u00eem sydd yn rownd derfynol Cymru yw: Debtly Matters o Goleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd; Budget Brainstormers o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin; Don\u2019t Buy Posh &#8211; Save Your Dosh a Drive Well Spend Less o ACT Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, yn y drefn honno, ac Every Penny Counts o Ganolfan A4e Port Talbot.<\/p>\n<p>Dyma\u2019r syniadau dyfeisgar a gafodd y timau: gwefan i helpu pobl i arbed arian, cyngor ar sut i arbed arian yn rhedeg car, defnyddio drama a gweithdy i gyflwyno sgiliau rheoli arian i bobl ifanc a sut y gallwch dorri costau siopa trwy brynu brandiau\u2019r siopau eu hunain.<\/p>\n<p>Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i\u2019r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a\u2019u cymunedau. Roedd y timau\u2019n cael gwneud cais am grantiau bach i redeg gwahanol weithgareddau rheoli arian.<\/p>\n<p>Mae aelodau\u2019r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.<\/p>\n<p>Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy\u2019n bartneriaeth unigryw rhwng Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. <\/p>\n<p>Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: \u201cMae Her Arian am Oes wedi bod yn llwyddiant mawr eleni, gyda llu o dimau\u2019n cyflwyno prosiectau amrywiol a chyffrous. Mae gwreiddioldeb, creadigrwydd a brwdfrydedd y timau o bob rhan o\u2019r Deyrnas Unedig wedi creu argraff fawr arnaf.  Roedd yn dasg anodd iawn i\u2019r beirniaid orfod penderfynu pwy fyddai\u2019n cyrraedd Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r Her yn canolbwyntio ar ddangos i bobl ifanc sut orau i reoli eu harian, eu helpu i sylweddoli beth yw eu anghenion o ddydd i ddydd a\u2019u nodau mewn bywyd, a rhoi cyfle iddynt feithrin y sgiliau hyn a\u2019u rhoi ar waith. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn edrych ymlaen at groesawu\u2019r timau i\u2019r rowndiau terfynol cenedlaethol, gan weithio tuag at Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig ar 23 Mai.\u201d <\/p>\n<p>Y rhai a gyrhaeddodd y Rownd Derfynol<\/p>\n<p>T\u00eem o fyfyrwyr y celfyddydau perfformio yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, Caerdydd yw Debtly Matters. Cawsant syniad gwreiddiol, sef defnyddio drama i helpu myfyrwyr y chweched isaf i reoli eu harian.<\/p>\n<p>Yn yr hinsawdd economaidd presennol, mae llawer o fyfyrwyr yn gorfod ystyried yn ddwys a allant fforddio mynd i brifysgol. Dangosodd y t\u00eem &#8211; Otis Lloyd, Rhiannon Nogan, Joe Todd, Garin Wilcock a Kate Chadwick \u2013 bod hynny\u2019n bosibl trwy reoli eu harian yn ofalus.<\/p>\n<p>Mae eu drama 20 munud yn dangos canlyniadau gwahanol agweddau at reoli arian ac effaith pwysau\u2019r bobl o\u2019u cwmpas ar y ffordd y mae myfyrwyr yn gwario\u2019u harian.<\/p>\n<p>T\u00eem o bobl ifanc o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin yw Budget Brainstormers &#8211; Tomos Davies, Martin Dagnall, Thomas Dack, Jack Milsom a Gwion Davies. Maen nhw naill ai ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant neu mewn perygl o ddisgyn i\u2019r categori hwn. <\/p>\n<p>Maen nhw wedi rhoi hwb i\u2019w gobeithion o gael gwaith trwy ddatblygu Canllaw Rheoli Arian a gweithdy sy\u2019n canolbwyntio ar flaenoriaethau gwario. Gwnaethant gardiau i\u2019w helpu i sylweddoli ar beth roedden nhw\u2019n gwario gormod a pham nad oedd ganddyn nhw arian ar \u00f4l ar ddiwedd yr wythnos.<\/p>\n<p>Roedd staff ac ymddiriedolwyr Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin mor falch o gyflwyniad y gr\u0175p nes eu bod yn awyddus i rannu\u2019r gweithdy ar reoli arian yn dda gyda chanolfannau ieuenctid eraill ac ysgolion.<\/p>\n<p>Cyngor i bobl ifanc ar sut i arbed arian oedd gan d\u00eem Don\u2019t Buy Posh \u2013 Save Your Dosh o ACT Training, Pen-y-bont ar Ogwr. Cawsant eu hysbrydoli gan y cynnydd ym mhris bwyd a\u2019r ffaith fod llawer o bobl heb arian ar \u00f4l ar ddiwedd yr wythnos i brynu pethau hanfodol. Dangosodd y t\u00eem bod modd arbed arian trwy brynu brandiau y siopau eu hunain.<\/p>\n<p>Penderfynodd y t\u00eem &#8211; Paige Sparrow, Maria Williams, Ryan Gardner, Alex Mayhew, Shannon Mears a Natasha Badham &#8211; dargedu pobl ifanc eraill 16-18 oed yn eu canolfan hyfforddi nhw. Roedd nifer o\u2019r rhain yn gwario llawer ar fwyd heb sylweddoli faint o arian y gallent ei arbed.<\/p>\n<p>Targedwyd gr\u0175p cymunedol lleol, Mental Health Matters, hefyd gan drefnu sesiynau profi i ddangos sut yr oedd brandiau\u2019r siopau eu hunain gystal bob tamaid \u00e2 brandiau enwog. Fe wnaethon nhw sefydlu \u2018Value Caf\u00e9\u2019 hefyd yn ystafell gyffredin ACT gan ddefnyddio bwydydd rhatach ar y fwydlen.<\/p>\n<p>Y cynnydd yng nghost rhedeg car a ysbrydolodd d\u00eem Drive Well Spend Less o ACT Training, Caerdydd i ddangos sut i arbed arian ar danwydd a chostau eraill trwy gymryd nifer o gamau syml. <\/p>\n<p>Maent wedi paratoi gwefan &#8211; www.drivewellspendless.co.uk &#8211; i gynnig cyngor ymarferol ac wedi cyhoeddi taflenni i\u2019w dosbarthu i ddysgwyr, prentisiaid ac ati.<\/p>\n<p>Mae\u2019r wefan yn dangos y ffordd orau i yrru er mwyn arbed arian ac mae\u2019n rhoi cyngor am y tanwydd gorau i\u2019w ddefnyddio. Erbyn hyn, mae\u2019r t\u00eem &#8211; Ali Moshin, Karim Abdo, Scott Griffiths, Greg Bolton, David Morgan ac Ashley Durham \u2013 yn awyddus i ddatblygu\u2019r wefan trwy gynnwys elfen i gymharu costau rhannau a gwasanaethau yn ardal Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae t\u00eem Every Penny Counts o Ganolfan A4e, Port Talbot &#8211; Sophie Jones, Emily Jeffreys, Stacey Stead, Charlotte Piles, Joedan Rees, Jordan Ricketts a Rebecca Andrew \u2013 wedi sefydlu gwefan i roi cyngor i bobl ifanc am reoli arian.<\/p>\n<p>Penderfynwyd ffurfio\u2019r wefan \u2013 www.everypennycounts.me.uk &#8211; ar \u00f4l i gr\u0175p o bobl ifanc 17 a 18 oed o ardal Port Talbot fod yn trafod manteision ac anfanteision cardiau debyd siopau penodol. Mae\u2019n llawn cyngor defnyddiol i helpu pobl ifanc gadw allan o ddyled ac mae\u2019n cynnwys cyfrifiannell ar lein sy\u2019n dangos gwir gost cardiau siopau a smygu.<\/p>\n<p>Mae \u2019na syniadau am sut i arbed arian wrth siopa, gwybodaeth am wahanol fathau o gyfrifon banc a geirfa\u2019n esbonio geiriau o\u2019r byd ariannol sy\u2019n gallu bod yn gymhleth ac yn ddryslyd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae dysgu sut i drin eich arian yn her i bawb ond mae pum t\u00eem o bobl ifanc wedi dangos dealltwriaeth arbennig o\u2019r maes. Cafodd y timau eu dewis o blith 40 o dimau i gymryd rhan yn rownd derfynol &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pum-tim-o-gymrun-cyraedd-rownd-derfyol-her-arian-am-oes\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-1231","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1231","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1231"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1231\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1231"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1231"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1231"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}