{"id":12354,"date":"2026-05-07T09:48:54","date_gmt":"2026-05-07T08:48:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12354"},"modified":"2026-05-07T09:48:54","modified_gmt":"2026-05-07T08:48:54","slug":"cambrian-awards-finalists-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-finalists-26\/","title":{"rendered":"Rhestr fer y rownd derfynol ar gyfer gwobrau blynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-awards-finalists-26\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-finalists-26\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_20588\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Aaron-Jones-with-customers-e1778142834340.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20588\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Aaron-Jones-with-customers-e1778142834340.jpg\" alt=\"Aaron Jones with customers\" width=\"460\" height=\"326\" class=\"size-full wp-image-20588\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20588\" class=\"wp-caption-text\">Mae Aaron Jones o Benycae Inn yn awyddus i ychwanegu Prentis y Flwyddyn at y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig Unigolyn Rhagorol a enillodd y llynedd.<\/p><\/div>\n<p>Mae saith ar hugain wedi cyrraedd y rownd derfynol a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol ar gyfer gwobrau blynyddol mawreddog darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghrymu ym mis Mehefin.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi\u2019i leoli yn y Trallwng, a\u2019i bartneriaid. <\/p>\n<p>Mae tri ym mhob un o\u2019r naw categori ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn seremoni a gynhelir yng Ngwesty\u2019r Metropole, Llandrindod ar 2 Mehefin. <\/p>\n<p>Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw\u2019r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i\u2019r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni a\u2019i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd a gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egn\u00efol. <\/p>\n<p>Mae dau gydweithiwr yn Ysgol Pen Coch, y Fflint, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr <strong>Prentis Uwch y Flwyddyn<\/strong>. Bydd dirprwy penaethiaid, Samantha Stenhoff a Rebecca Kirkpatrick, yn wynebu Chris Prendergast, rheolwr gosodion yn Lloyd Morris Electrical, Wrecsam. <\/p>\n<p>Mae Adam Pike, cogydd ym Mhant yr Ochain, Gresffordd yn cystadlu am y Gwobrau Prentis Sylfaen ac Unigolyn Rhagorol.<\/p>\n<p><strong>Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yw:<\/strong> <\/p>\n<p><strong>Prentis Sylfaen y Flwyddyn:<\/strong> Ashley Watkins, cogydd yn Coldra Court Hotel, Casnewydd, Jacob Doggett, cogydd yn George IV Inn, Cwm-twrch Uchaf, Cwmllynfell ac Adam Pike.<\/p>\n<p><strong>Prentis y Flwyddyn:<\/strong> Aaron Jones, gweinydd blaen y t\u0177 ym Mhenycae Inn, ym Mhenycae, ger Abertawe, Ellen Whitehouse, arweinydd a hyfforddwr yn Safle Parc Cenedlaethol Bluestone, Arberth a Louise Mead, hyfforddwr personol yn Evo Fit, Cross Hands.<\/p>\n<p><strong>Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn:<\/strong> Oliver Addis-Fuller, rheolwr bar a digwyddiadau yn y Glyn Clydach, Casnewydd, Sophie Lawrence, rheolwr siop Boots yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd ac Adam Pike.<\/p>\n<p><strong>Ymarferydd y Flwyddyn:<\/strong> Andrew Addis-Fuller a Melanie Canning, swyddogion hyfforddi lletygarwch, a Sharon Roberts, swyddog hyfforddi gweithgynhyrchu bwyd a diod, i gyd o Gwmni Hyfforddiant Cambrian. <\/p>\n<p><strong>Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn:<\/strong> Dyfan James, cigydd yn Ken Davies Butchers, Crymych; Jasmine Miles, cydlynydd y Gymraeg yn Green Giraffe Nursery, Caerdydd, ac Olivia Browning, swyddog hyfforddiant yng Nghlybiau Plant Cymru Kids\u2019 Club, Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Bach y Flwyddyn:<\/strong> KC Accountancy Services, Llanfyllin, Penycae Inn, a Pontcysyllte Tea Rooms, Dyfrbont Pontcysyllte, Llangollen. <\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Canolig y Flwyddyn:<\/strong> Amberleigh Care, y Trallwng, Farmers Pantry, Llanilltud Fawr, a Th\u0177 Llandaf Care Home, Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Mawr y Flwyddyn:<\/strong> Farmfoods, Cymru gyfan, Kepak, Merthyr Tudful, a Morrisons, Cymru gyfan. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Faith O\u2019brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: <\/strong>\u201cRwy\u2019n edrych ymlaen at ddathlu teithiau personol nodedig pob un o\u2019r un a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y seremoni wobrwyo fis nesaf. Mae pob un ohonynt wedi dangos ymroddiad, gwydnwch a thwf, ac mae\u2019n wych gweld eu cyflawniadau yn cael eu cydnabod gan y beirniaid. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r digwyddiad hwn yn gyfle i anrhydeddu nid yn unig y prentisiaid a\u2019r cyflogwyr, ond hefyd y teuluoedd, y cydweithwyr, a\u2019r mentoriaid sydd wedi eu cefnogi ar hyd y ffordd. Gyda\u2019i gilydd, maent yn dangos y r\u00f4l hanfodol y mae prentisiaethau yn ei chwarae wrth gryfhau economi Cymru a gosod y safon aur ar gyfer dysgu seiliedig ar waith.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/en\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae saith ar hugain wedi cyrraedd y rownd derfynol a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol ar gyfer gwobrau blynyddol mawreddog darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghrymu ym mis Mehefin. Mae\u2019r Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-finalists-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12354","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12354","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12354"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12354\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12356,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12354\/revisions\/12356"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12354"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12354"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12354"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}