{"id":12514,"date":"2026-06-03T06:00:38","date_gmt":"2026-06-03T05:00:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12514"},"modified":"2026-06-15T10:38:04","modified_gmt":"2026-06-15T09:38:04","slug":"cambrian-award-winners-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-award-winners-26\/","title":{"rendered":"Llwyddiant dwbl wrth i dad a mab ennill gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-award-winners-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20843\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Cambrian-Awards-Winners-2026-e1781509103469.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20843\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Cambrian-Awards-Winners-2026-e1781509103469.jpg\" alt=\"Group photo of award winners.\" width=\"460\" height=\"263\" class=\"size-full wp-image-20843\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20843\" class=\"wp-caption-text\">Enillwyr Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian 2026.<\/p><\/div>\n<p>Dathlodd tad a mab lwyddiant dwbl yng ngwobrau blynyddol mawreddog darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru.<\/p>\n<p>Enwyd Andrew Addis-Fuller, swyddog hyfforddi lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn <strong>Ymarferydd y Flwyddyn<\/strong> yn y Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a Sgiliau a drefnwyd gan y darparwr dysgu a\u2019i bartneriaid.<\/p>\n<p>Enillodd ei fab, Oliver, rheolwr bar a digwyddiadau yn y Glyn Clydach, Castell-nedd, sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch Lefel 3, <strong>Gwobr Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn<\/strong>. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi\u2019i lleoli yn y Trallwng, a\u2019i bartneriaid.<\/p>\n<p>Roedd saith ar hugain ar y rhestr fer \u2013 tri ym mhob un o\u2019r naw categori \u2013 y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty\u2019r Metropole, Llandrindod. <\/p>\n<p>Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw\u2019r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i\u2019r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni a\u2019i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egn\u00efol. <\/p>\n<p><strong>I nodi dathliadau pen-blwydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn 30 oed, cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Oes arbennig i Arwyn Watkins, OBE, cyn rheolwr gyfarwyddwr a chadeirydd gweithredol Cwmni Hyfforddiant Cambrian a llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru.<\/strong><\/p>\n<p>Cafodd ei anrhydeddu am oes o arweinyddiaeth weledigaethol a drawsnewidiodd brentisiaethau, datblygu sgiliau a&#8217;r sector lletygarwch ledled Cymru. Mae ei ymrwymiad diwyro i feithrin talent, hyrwyddo bwyd a diod o Gymru a dyrchafu Cymru ar y llwyfan coginio byd-eang wedi gadael etifeddiaeth barhaol a fydd yn ysbrydoli&#8217;r cenedlaethau i ddod.<\/p>\n<p>Enillodd Penycae Inn, ym Mhenycae, ger Abertawe, a\u2019r gweithiwr Aaron Jones, gweinydd blaen y t\u0177, Gwobrau <strong>Cyflogwr Bach a Phrentis y Flwyddyn<\/strong>. Cyflawnodd Aaron llwyddiant dwbl, ar \u00f4l ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Unigolyn Rhagorol y llynedd. <\/p>\n<p>Ychwanegodd Adam Pike, cogydd ym Mhant yr Ochain, Gresffordd, Gwobr <strong>Prentis Sylfaen y Flwyddyn<\/strong> at ei restr gynyddol o anrhydeddau. Enillodd fedal aur yng nghystadleuaeth celfyddydau coginio ac a enillodd y prentis gorau yn rhanbarth Canolbarth Cymru yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. Roedd hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Unigolyn Rhagorol.<\/p>\n<p>Roedd Samantha Stenhoff, Ysgol Pen Coch, y Fflint, yn fuddugol dros ei chyd-bennaeth cynorthwyol, Rebecca Kirkpatrick, i ennill gwobr <strong>Prentis Uwch y Flwyddyn<\/strong>. Yr unigolyn arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Chris Prendergast, rheolwr gosodion yn Lloyd Morris Electrical, Wrecsam.<\/p>\n<p>Casglodd Jasmine Miles, cydlynydd y Gymraeg yn Green Giraffe Nursery, Caerdydd, Gwobr <strong>Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn<\/strong>. <\/p>\n<p>Aeth Gwobr <strong>Cyflogwr Canolig y Flwyddyn<\/strong> i Farmers Pantry, Llanilltud Fawr, ac enwyd Farmfoods yn <strong>Gyflogwr Mawry Flwyddyn<\/strong>. <\/p>\n<p>Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd: <strong>Prentis Sylfaen y Flwyddyn:<\/strong> Ashley Watkins, cogydd yn Coldra Court Hotel, Casnewydd, a Jacob Doggett, cogydd yn George IV Inn, Cwm-twrch Uchaf, Cwmllynfell. <\/p>\n<p><strong>Prentis y Flwyddyn: <\/strong>Ellen Whitehouse, arweinydd a hyfforddwr yn Safle Parc Cenedlaethol Bluestone, Arberth, a Louise Mead, hyfforddwr personol yn Evo Fit, Cross Hands. <\/p>\n<p><strong>Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn:<\/strong> Sophie Lawrence, rheolwr siop Boots yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. <\/p>\n<p><strong>Ymarferydd y Flwyddyn:<\/strong> Melanie Canning, swyddog hyfforddi lletygarwch, a Sharon Roberts, swyddog hyfforddi gweithgynhyrchu bwyd a diod, y ddwy o Gwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p><strong>Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn:<\/strong> Dyfan James, cigydd yn Ken Davies Butchers, Crymych, ac Olivia Browning, swyddog hyfforddiant yng Nghlybiau Plant Cymru Kids\u2019 Club, Caerdydd. <\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Bach y Flwyddyn:<\/strong> KC Accountancy Services, Llanfyllin a Pontcysyllte Chapel Tea Room, Dyfrbont Pontcysyllte, Llangollen. <\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Canolig y Flwyddyn:<\/strong> Amberleigh Care, y Trallwng a Th\u0177 Llandaf Care Home, Caerdydd. <\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Mawr y Flwyddyn:<\/strong> Kepak, Merthyr Tudful, a Morrisons, Cymru gyfan. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Faith O\u2019Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian:<\/strong> \u201cLlongyfarchiadau i\u2019r holl enillwyr a\u2019r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Mae pob un ohonynt wedi dangos ymroddiad, gwydnwch, a thwf ac mae\u2019n wych gweld eu cyflawniadau yn cael eu cydnabod.<\/p>\n<p>\u201cMae ein gwobrau\u2019n anrhydeddu nid yn unig y prentisiaid a\u2019r cyflogwyr, ond hefyd y teuluoedd, cydweithwyr, a mentoriaid sydd wedi eu cefnogi ar hyd y ffordd. Gyda\u2019i gilydd, maent yn dangos y r\u00f4l allweddol y mae prentisiaethau\u2019n ei chwarae wrth gryfhau economi Cymru a gosod y safon aur ar gyfer dysgu seiliedig ar waith.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dathlodd tad a mab lwyddiant dwbl yng ngwobrau blynyddol mawreddog darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru. Enwyd Andrew Addis-Fuller, swyddog hyfforddi lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn Ymarferydd y Flwyddyn yn y Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-award-winners-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12514","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12514","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12514"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12514\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12519,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12514\/revisions\/12519"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12514"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12514"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12514"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}