{"id":12520,"date":"2026-06-12T06:00:01","date_gmt":"2026-06-12T05:00:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12520"},"modified":"2026-06-15T11:11:25","modified_gmt":"2026-06-15T10:11:25","slug":"cambrian-awards-3-apprentices","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-3-apprentices\/","title":{"rendered":"Tri phrentis rhagorol yn ennill Gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-awards-3-apprentices\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20850\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Apprentice-awards-winners-with-Faith-e1781517384894.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20850\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Apprentice-awards-winners-with-Faith-e1781517384894.jpg\" alt=\"Three winners with Faith O&#039;Brien, Cambrian Training Managing Director.\" width=\"460\" height=\"340\" class=\"size-full wp-image-20850\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20850\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian Faith O\u2019Brien (dde) gyda (o\u2019r chwith) Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Adam Pike, Prentis y Flwyddyn, Aaron Jones, a Phrentis Uwch y Flwyddyn, Samantha Stenhoff.<\/p><\/div>\n<p>Enillodd tri dysgwr rhagorol gwobrau prentisiaeth yng ngwobrau blynyddol mawreddog Cwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru. <\/p>\n<p><strong>Enwyd Adam Pike, cogydd ym Mhant yr Ochain, Gresffordd, Aaron Jones, gweinydd blaen y t\u0177 ym Mhenycae Inn, ym Mhenycae, ger Abertawe, a Samantha Stennhof, pennaeth cynorthwyol yn Ysgol Pen Coch, y Fflint, yn brentis sylfaen, prentis, a phrentis uwch y flwyddyn, yn y drefn honno. <\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi\u2019i lleoli yn y Trallwng, a\u2019i bartneriaid.<\/p>\n<p>Roedd saith ar hugain ar y rhestr fer \u2013 tri ym mhob un o\u2019r naw categori \u2013 y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty\u2019r Metropole, Llandrindod. <\/p>\n<p>Mae Adam, a oedd hefyd ar restr fer y Wobr Unigolyn Rhagorol, yn cael blwyddyn i\u2019w gofio, gan ei fod hefyd wedi ennill medal aur yng nghystadleuaeth celfyddydau coginio ac enwyd yn brentis gorau yn rhanbarth Canolbarth Cymru yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. <\/p>\n<p>Clywodd y seremoni wobrwyo am ei gynnydd rhagorol gyda\u2019i Brentisiaethau mewn Coginio Proffesiynol. Cyfnewidiodd yrfa fel joci ceffylau ras i ddod yn uwch gogydd mewn llai na thair blynedd. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen a Sgiliau Hanfodol mewn Mathemateg a Saesneg mewn llai na 18 mis, mae bellach yn rhagori yn ei Lefel 3, yn mentora prentisiaid eraill ac yn perfformio\u2019n hyderus mewn amgylchedd pwysau uchel, gan wasanaethu hyd at 500 o brydau pob dydd. <\/p>\n<p>Dywedodd Adam: \u201cRwy\u2019n gobeithio bydd y wobr hon yn gam mawr i\u2019r flwyddyn nesaf pan fyddaf yn bwriadu cymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae\u2019n gyflawniad gwych o ystyried nad oeddwn yn gwybod unrhyw beth am goginio tan ddwy flynedd a hanner yn \u00f4l.<\/p>\n<p>\u201cGan fy mod yn dod o gefndir rasio ceffylau, mae popeth wedi datblygu yn gyflym iawn ac mae\u2019n teimlo mor naturiol. Mae wedi cymryd llawer o waith ond mae\u2019n rhaid i mi ddiolch i Bant yr Ochain am roi cyfle i mi a\u2019m swyddog hyfforddiant, Mel Canning, am fod yno i\u2019m helpu ar unrhyw adeg.\u201d<\/p>\n<p><strong>Mae Aaron wedi cael ei gydnabod yn y gwobrau am ddwy flynedd yn olynol &#8211; enillodd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Unigolyn Rhagorol y llynedd &#8211; ac mae wedi symud ymlaen o fod yn gynorthwyydd cegin i weithiwr proffesiynol lletygarwch hyderus.<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau ei Brentisiaeth Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch, mae bellach yn arwain sifftiau, yn datrys problemau cwsmeriaid gyda phroffesiynoldeb ac yn mentora staff iau. Yn aelod allweddol o\u2019r t\u00eem, mae ei wasanaeth cwsmeriaid yn aml yn cael ei ganmol mewn adolygiadau ar-lein, gan gyfrannu at lwyddiant arobryn Penycae Inn.<\/p>\n<p>Y tu hwnt i\u2019r gwaith, mae Aaron yn siaradwr cyhoeddus hyderus, ar \u00f4l annerch  digwyddiad rhwydweithio Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a chynrychioli prentisiaid, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu arbennig, yn y Senedd ac ar BBC Radio Cymru.<\/p>\n<p>Wrth ymateb i\u2019w wobr, dywedodd Aaron: \u201cRwy\u2019n hynod falch fy mod wedi ennill y wobr hon, fel person ag awtistiaeth. Rwy\u2019n si\u0175r y bydd beth bynnag a ddaw nesaf i mi yn llwyddiannus.\u201d<\/p>\n<p>Wrth dderbyn y wobr, dywedodd ei fod yn ei chysegru i&#8217;r diweddar Denzil a Margaret Williams, ei gynorthwywyr personol a rhoddodd diolch i Anthony a Claire Christopher, perchnogion Penycae Inn a swyddogion hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Andrew Addis-Fuller a Leah Williams am eu cefnogaeth.<\/p>\n<p>&#8220;Roeddwn i&#8217;n gweithio yn y gegin ym Mhenycae Inn ar y dechrau oherwydd roeddwn i eisiau bod yn gogydd, ond roedd Anthony yn gwybod bod gyrfa blaen t\u0177 yn fwy addas i mi fel person pobl.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Mae Samantha, a oedd yn fuddugol dros ei chyd-bennaeth cynorthwyol, Rebecca Kirkpatrick, i ennill y wobr, wedi rhagori yn ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 5) ILM mewn Arwain a Rheoli, a ddarperir gan Portal Training. <\/strong><\/p>\n<p>Mae wedi arwain prosiectau digidol strategol, wedi cyflwyno technoleg i helpu unigolion ag anawsterau llefarydd neu iaith i gyfathrebu, wedi cyfrannu at ddylunio\u2019r cwricwlwm a chreu llwybrau dysgwyr personol a gefnogodd arolygiad llwyddiannus gan Estyn. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau ei chymhwyster yn gynt na\u2019r disgwyl, mae bellach yn cefnogi ysgolion eraill ledled Gogledd Cymru. Ochr yn ochr ag addysgu llawn amser, mae wedi cryfhau datblygiad staff trwy fentora ac asesu.<\/p>\n<p>Dywedodd Samantha ei bod eisiau rhannu\u2019r wobr gyda Rebecca a ddisgrifiodd fel ei \u201cgwraig waith\u201d a rhoddodd diolch i\u2019w thiwtor Deb Davison am ei chefnogaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae Rebecca a minnau wedi gweithio gyda\u2019n gilydd trwy wahanol lefelau o hyfforddiant rheoli ers 15 mlynedd,\u201d esboniodd. \u201cRwy falch iawn o ennill y wobr sy\u2019n gydnabyddiaeth am yr holl waith rydyn ni\u2019n ei wneud o fewn a thu hwnt i\u2019r ysgol.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian:<\/strong> \u201cMae\u2019r tri phrentis hyn yn cynrychioli\u2019r gorau o ddysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae eu hymrwymiad, eu proffesiynoldeb, a\u2019u hymdrech i barhau i ddatblygu eu sgiliau yw\u2019r union yr hyn y mae ein rhaglenni prentisiaeth wedi\u2019u cynllunio i\u2019w feithrin. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn hynod falch o\u2019u cyflawniadau a\u2019r effaith maen nhw eisoes yn cael yn eu sectorau.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw\u2019r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i\u2019r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni a\u2019i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egn\u00efol. <\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Enillodd tri dysgwr rhagorol gwobrau prentisiaeth yng ngwobrau blynyddol mawreddog Cwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru. Enwyd Adam Pike, cogydd ym Mhant yr Ochain, Gresffordd, Aaron Jones, gweinydd blaen y t\u0177 ym &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-3-apprentices\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12520","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12520","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12520"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12520\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12522,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12520\/revisions\/12522"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12520"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12520"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12520"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}