{"id":12523,"date":"2026-06-09T06:00:03","date_gmt":"2026-06-09T05:00:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12523"},"modified":"2026-06-15T11:17:20","modified_gmt":"2026-06-15T10:17:20","slug":"cambrian-awards-b-q","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-b-q\/","title":{"rendered":"Prentisiaid cwmni hyfforddiant yn profi \u2018You can do it, when you B&#038;Q it\u2019"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-awards-b-q\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20855\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Cambrian-BQ-graduates-e1781518432274.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20855\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Cambrian-BQ-graduates-e1781518432274.jpg\" alt=\"B&amp;Q Graduates at awards ceremony.\" width=\"460\" height=\"309\" class=\"size-full wp-image-20855\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20855\" class=\"wp-caption-text\">Graddedigion B&#038;Q gyda rheolwr gweithrediadau Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Mark Hughes, a swyddog hyfforddiant CHC, Christine Grayson, yn y seremoni raddio.<\/p><\/div>\n<p>Mae staff sy\u2019n gweithio i fusnes DIY, gwella cartrefi a chanolfannau garddio rhyngwladol yn Ne Cymru wedi mabwysiadu slogan eu cyflogwr, \u201cYou can do it, when you B&#038;Q it\u201d, i ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gyrfaoedd.<\/p>\n<p>Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae 32 aelod o staff wedi cwblhau prentisiaethau mewn gwasanaeth cwsmeriaid, manwerthu a rheoli, ac mae 16 aelod o staff eraill yn gweithio tuag at brentisiaethau ar hyn o bryd. Darperir y prentisiaethau can Gwmni Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.<\/p>\n<p>Un o\u2019r cyflawnwyr yw Kathleen Sillitoe, 49, o Abertawe, sy\u2019n gynghorydd ystafell arddangos yn siop B&#038;Q yn Llanelli. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l gweithio i\u2019r cwmni am 20 mlynedd, mae wedi cyflawni prentisiaethau ar Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid, Lefel 3 mewn Rheoli Manwerthu, ac wedi symud ymlaen i ILM Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli. Mae Kathleen bellach yn ystyried symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) ILM mewn Rheoli. <\/p>\n<p>Dathlodd Kathleen a\u2019i chydweithwyr eu taith ddysgu pan fynychodd seremoni raddio prentisiaeth a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a\u2019i bartneriaid dysgu seiliedig ar waith ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, yr wythnos diwethaf. <\/p>\n<p>\u201cAr y cychwyn, doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i\u2019n ddigon hyderus i wneud prentisiaeth ond penderfynais roi gynnig arni ac yna roeddwn i eisiau gwneud mwy,\u201d meddai. \u201cMae\u2019r prentisiaethau wedi fy ngwneud yn llawer mwy hyderus wrth ddelio \u00e2 chwsmeriaid, blaenoriaethu fy llwyth gwaith a threfnu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Dywed mai ei huchelgais yw parhau i ddysgu i fod yn \u201cperson gwell\u201d a chefnogi gweithwyr newydd sy\u2019n ymuno \u00e2 B&#038;Q. Mae eisoes wedi annog saith gweithiwr newydd i ddod yn brentisiaid yn y siop yn Llanelli.<\/p>\n<p>Neges Kathleen i ddysgwyr sy\u2019n oedolion eraill a allai fod yn ystyried prentisiaeth yw: \u201cOs gallaf ei wneud, gall unrhyw un gyda rheolwr cefnogol.\u201d<\/p>\n<p>Canmolodd rheolwr presennol a chyn-reolwr y siop, Gavin Davies a Brett Jones, yn y drefn honno, am eu hanogaeth. Neilltuodd canmoliaeth arbennig i\u2019w swyddog hyfforddiant o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Christine Greyson.<\/p>\n<p>\u201cMae Christine yn rhagorol ac mor gefnogol,\u201d meddai. \u201cBydd yr holl brentisiaid yma yn dweud yr un peth.\u201d<\/p>\n<p>Canmolodd Gavin, hyrwyddwr prentisiaethau yn B&#038;Q yng Nghymru, Kathleen a phrentisiaid eraill y cwmni ar ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth. <\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n datblygu diwylliant perfformiad uchel yn B&#038;Q ac rwy\u2019n angerddol am roi cyfle i bobl dysgu a datblygu eu hunain a\u2019u gyrfa,\u201d meddai Gavin, cyn-brentis sydd wedi gweithio yn y diwydiant manwerthu am fwy na 30 mlynedd.<\/p>\n<p>\u201cNid yw rhai pobl yn gwneud yn dda yn yr ysgol oherwydd nad oeddent yn barod i ddysgu neu mae\u2019n well ganddyn nhw ddysgu yn y gweithle. Nid yw un dull yn cwrdd ag anghenion dysgu pawb ac mae\u2019n bwysig ein bod yn dathlu cyflawniadau.<\/p>\n<p>&#8220;Mae effaith prentisiaethau ar y busnes yn enfawr oherwydd ei fod yn rhoi mwy o wybodaeth, sgiliau a hyder i gydweithwyr, ac yn mynd \u00e2 nhw allan o feysydd sy\u2019n gyfarwydd iddynt. Cewch arweinwyr ar draws y siop.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gefnogaeth a dderbyniwn gan Christine a Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn wych.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Christine, sy\u2019n cefnogi prentisiaid mewn siopau B&#038;Q yn Llanelli, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd, Caerdydd, a Chwmbr\u00e2n: \u201cMae Gavin a B&#038;Q yn gefnogol iawn ac yn annog eu cydweithwyr i ddatblygu a gwella eu sgiliau trwy brentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cMae Kathleen yn fodel r\u00f4l dda iawn sydd wedi magu hyder trwy gyflawni sgiliau hanfodol mewn Saesneg, llythrennedd digidol a chymhwyso rhif fel rhan o\u2019i phrentisiaeth.\u201d<\/p>\n<p>Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw\u2019r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i\u2019r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni a\u2019i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egn\u00efol. <\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae staff sy\u2019n gweithio i fusnes DIY, gwella cartrefi a chanolfannau garddio rhyngwladol yn Ne Cymru wedi mabwysiadu slogan eu cyflogwr, \u201cYou can do it, when you B&#038;Q it\u201d, i ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gyrfaoedd. Yn ystod &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-b-q\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12523","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12523","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12523"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12523\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12524,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12523\/revisions\/12524"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12523"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12523"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12523"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}