{"id":12525,"date":"2026-06-25T06:00:17","date_gmt":"2026-06-25T05:00:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12525"},"modified":"2026-06-22T16:35:04","modified_gmt":"2026-06-22T15:35:04","slug":"portal-news-june-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/portal-news-june-26\/","title":{"rendered":"Datblygu sgiliau arweinyddiaeth yn helpu arweinwyr ysgolion i gryfhau arferion cynhwysol ledled Gogledd Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/portal-news-june-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20858\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Portal-Samantha-Rebecca-scaled-e1782142259198.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20858\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Portal-Samantha-Rebecca-scaled-e1782142259198.jpg\" alt=\"Samantha Stenhoff and Rebecca Kirkpatrick standing outside the school building.\" width=\"460\" height=\"299\" class=\"size-full wp-image-20858\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20858\" class=\"wp-caption-text\">(O&#8217;r chwith i&#8217;r dde) Rebecca Kirkpatrick a Samantha Stenhoff, <\/br>Penaethiaid Cynorthwyol yn Ysgol Pen Coch<\/p><\/div>\n<p>Mae cymhwyster arweinyddiaeth wedi helpu dwy Bennaeth Cynorthwyol i gryfhau y darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn eu hysgol, tra\u2019n rhannu eu harbenigedd gydag ysgolion a rhwydweithiau cymorth ledled Gogledd Cymru.<\/p>\n<p><strong>Cwblhaodd Samantha Stenhoff a Rebecca Kirkpatrick, Penaethiaid Cynorthwyol yn Ysgol Pen Coch yn Sir y Fflint, Brentisiaethau Uwch ILM Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy Portal Training.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r cymhwyster wedi cefnogi\u2019r ddwy arweinydd i adeiladu ar eu profiad presennol, datblygu eu harferion arweinyddiaeth a sbarduno gwelliannau o fewn yr ysgol, tra hefyd yn cyfrannu at drafodaethau ehangach ynghylch cynhwysiant, cyfathrebu a chefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion cymhleth.<\/p>\n<p>Ar adeg pan fo ysgolion yn wynebu pwysau cynyddol i gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth, mae\u2019r ddwy arweinydd wedi defnyddio eu dysgu i gryfhau\u2019r ddarpariaeth o fewn yr ysgol ac i helpu rannu arferion effeithiol ar draws y sector ehangach.<\/p>\n<p>Gyda\u2019i gilydd, maent wedi arwain datblygiadau mewn meysydd megis darpariaeth awtistiaeth, cymorth cyfathrebu, arloesedd digidol, dylunio\u2019r cwricwlwm a llwybrau dysgu personol. Mae Rebecca hefyd wedi helpu i sefydlu dosbarth lloeren o fewn lleoliad prif ffrwd, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer cynhwysiant a chryfhau\u2019r cysylltiadau rhwng addysg arbenigol ac addysg brif ffrwd.<\/p>\n<p><strong>Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Samantha: <\/strong>\u201cMae\u2019r uwch brentisiaeth wedi newid y ffordd rwy\u2019n mynd ati i arwain. Mae wedi rhoi\u2019r hyder i fi arwain datblygiadau ysgol gyfan a chefnogi eraill mewn ffordd fwy strwythuredig.\u201d<\/p>\n<p>Mae effaith eu gwaith yn ymestyn ymhell tu hwnt i Ysgol Pen Coch. Gyda\u2019i gilydd, mae Samantha a Rebecca yn helpu i gyflwyno diwrnodau cymorth rheolaidd i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), gan groesawu cydlynwyr o ysgolion eraill i Ysgol Pen Coch i arsylwi arferion, cael mynediad at hyfforddiant ac archwilio dulliau effeithiol o gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddwy hefyd yn cyfrannu at rwydweithiau rhanbarthol Dirprwy Benaethiaid a Phenaethiaid Cynorthwyol, gan gydweithio \u00e2 chydweithwyr o ysgolion arbennig ledled Gogledd Cymru i rannu arferion da a thrafod datblygiadau strategol ym maes darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019i gwaith yn yr ysgol, mae Samantha yn cyfrannu at grwpiau trafod proffesiynol gydag ysgolion arbennig ledled Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o athrawon drwy raglenni mentora ac ymsefydlu ar gyfer staff newydd.<\/p>\n<p>Mae Rebecca yn cyflwyno\u2019n rheolaidd mewn fforymau CADY Sir y Fflint, gan rannu ei harbenigedd ar gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth a Chymorth Ymddygiad Cadarnhaol. O fewn yr ysgol, mae\u2019n arwain cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer staff newydd a staff presennol, gan helpu i wreiddio arferion effeithiol ar draws y gweithlu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddwy hefyd yn cefnogi teuluoedd drwy sesiynau rheolaidd i rieni sy\u2019n canolbwyntio ar strategaethau cyfathrebu, adnoddau a dulliau ymarferol o gefnogi disgyblion ag anghenion cymhleth.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae\u2019r ysgol yn gweithio gyda gwasanaeth ymgynghorol Cymraeg Sir y Fflint i ddatblygu hyfforddiant Cymraeg gan ddefnyddio Makaton, gan helpu i wneud cyfathrebu\u2019n fwy hygyrch i ddisgyblion ag anghenion cymhleth, gyda Samantha yn cefnogi\u2019r gwaith hwn.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd y Pennaeth, Noel Fitzgerald:<\/strong> \u201cRydym yn hynod falch o\u2019r hyn y maent wedi eu cyflawni. Mae eu harweinyddiaeth wedi cael effaith wirioneddol o fewn yr ysgol ac maent bellach yn dylanwadu ar arferion yn ehangach.\u201d<\/p>\n<p><strong>Ychwanegodd Rebecca Kirkpatrick:<\/strong> \u201cRhoddodd y brentisiaeth gyfle i mi gamu\u2019n \u00f4l, myfyrio ar fy arweinyddiaeth ac adeiladu ar y profiad roeddwn eisoes wedi\u2019i ennill. Mae\u2019r gallu i gymhwyso\u2019r dysgu ar unwaith wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fy r\u00f4l ac i\u2019r gwaith ehangach rydym yn ei wneud fel ysgol.\u201d<\/p>\n<p>Mae effaith eu harweinyddiaeth hefyd wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Cambrian Training, lle enwyd Samantha yn Brentis Uwch y Flwyddyn, a Rebecca yn rownd derfynol y categori.<\/p>\n<div id=\"attachment_20941\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Portal-Samantha-Rebecca-1-e1782142008463.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20941\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Portal-Samantha-Rebecca-1-e1782142008463.jpg\" alt=\"Samantha and Rebecca with their certificates and award.\" width=\"460\" height=\"328\" class=\"size-full wp-image-20941\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20941\" class=\"wp-caption-text\">(O&#8217;r chwith i&#8217;r dde) Samantha Stenhoff a Rebecca Kirkpatrick<\/p><\/div>\n<p>I Portal Training, mae eu llwyddiant yn dangos sut y gall datblygu arweinyddiaeth yn y gweithle helpu gweithwyr addysg proffesiynol i gryfhau arferion, cefnogi cydweithwyr a chreu newid cadarnhaol yn eu hysgolion a\u2019u cymunedau.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr Portal Training:<\/strong> \u201cPan gaiff dysgu ei gymhwyso yn y gweithle fel hyn, nid unigolion yn unig sy\u2019n elwa \u2013 mae\u2019n cryfhau timau, sefydliadau a\u2019r sector ehangach.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.portaltraining.co.uk\/cy\/\">Portal Training<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cymhwyster arweinyddiaeth wedi helpu dwy Bennaeth Cynorthwyol i gryfhau y darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn eu hysgol, tra\u2019n rhannu eu harbenigedd gydag ysgolion a rhwydweithiau cymorth ledled Gogledd Cymru. Cwblhaodd Samantha &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/portal-news-june-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12525","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12525","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12525"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12525\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12588,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12525\/revisions\/12588"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12525"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12525"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12525"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}