{"id":12551,"date":"2026-06-25T06:00:45","date_gmt":"2026-06-25T05:00:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12551"},"modified":"2026-06-30T19:53:29","modified_gmt":"2026-06-30T18:53:29","slug":"quals-wales-news-june-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-news-june-26\/","title":{"rendered":"Diwygio Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/quals-wales-news-june-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/ESW1-e1781538706903.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/ESW1-e1781538706903.jpg\" alt=\"Banner image\" width=\"460\" height=\"240\" class=\"alignnone size-full wp-image-20891\" \/><\/a><\/p>\n<p>Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei adroddiad canfyddiadau a phenderfyniadau ar \u00f4l ei broses ymgynghori ar ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol. Mae&#8217;r Uwch Reolwr Cymwysterau Oliver Stacey yn ein tywys trwy&#8217;r penderfyniadau a&#8217;r camau nesaf. <\/p>\n<p><strong>Pwysigrwydd SHC <\/strong><br \/>\nMae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) yn elfen sylweddol a phwysig ym maes cymwysterau. Fel cyfres, maen nhw ymhlith y cymwysterau sy\u2019n cael eu hardystio fwyaf yng Nghymru. Maen nhw\u2019n gonglfaen fframweithiau prentisiaethau ac yn cael eu dilyn gan lawer o ddysgwyr mewn lleoliadau \u00f4l-16 fel dewisiadau amgen i ailsefyll TGAU. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a digidol trosglwyddadwy hanfodol sydd eu hangen ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. <\/p>\n<p><strong>Pam rydyn ni\u2019n diwygio SHC <\/strong><br \/>\nYn dilyn <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymwysterau.cymru\/media\/ab3magft\/adolygiad-o-gymwysterau-sgiliau-hanfodol-cymru.pdf\">adolygiad manwl o Sgiliau Hanfodol Cymru<\/a>, rydyn ni\u2019n diwygio\u2019r cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn bethnasol ac yn afaelgar yn ogastal \u00e2 bod yn hydrin i ganolfannau eu darparu ac i ddysgwyr eu cwblhau. <\/p>\n<p>Nododd ein hadolygiad lawer o agweddau cadarnhaol ar gymwysterau presennol SHC. Fodd bynnag, roedd nifer o feysydd lle tynnodd rhanddeiliaid sylw at gyfleoedd i gryfhau&#8217;r cymwysterau hyd yn oed ymhellach, yn enwedig mewn perthynas \u00e2:<\/p>\n<ul>\n<li>pherthnasedd y cynnwys<\/li>\n<li>hyd yr asesiadau<\/li>\n<li>hydrinedd yr asesiadau<\/li>\n<li>cynnydd rhwng lefelau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Wrth ddatblygu ein cynigion ar gyfer y cymwysterau diwygiedig, ein blaenoriaeth yw mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r agweddau hyn ar y cymwysterau. Fe wnaethon ni ymgysylltu&#8217;n helaeth ag ystod o randdeiliaid sydd \u00e2 diddordeb yn y cymwysterau hyn. Mynegwyd amrywiaeth eang o safbwyntiau o amgylch SHC, nad yw&#8217;n syndod o ystyried yr ystod amrywiol o amgylcheddau lle mae&#8217;r cymwysterau hyn yn cael eu darparu. Roedd ein cynigion yn ceisio cydbwyso&#8217;r safbwyntiau gwahanol hyn.    <\/p>\n<p><strong>Siapio dyfodol SHC<\/strong><br \/>\nRhwng Tachwedd 2025 a Chwefror eleni, fe wnaethon ni ymgynghori ar y gofynion dylunio ar gyfer cymwysterau SHC diwygiedig ym meysydd rhifedd, llythrennedd a sgiliau digidol. Roedd ein cynigion yn cynnwys y canlynol.<\/p>\n<p><strong>Lleihau&#8217;r amser asesu cyffredinol <\/strong><br \/>\nEr mwyn lleihau&#8217;r amser asesu cyffredinol ar lefelau 1 a 2 ar draws y tri maes pwnc er mwyn mynd i&#8217;r afael \u00e2 phryderon ynghylch hydrinedd yr asesiadau, fe wnaethon ni gynnig cynyddu cyfran yr asesiad allanol. Byddai hyn hefyd yn lleihau faint o waith marcio a chymedroli y byddai gofyn i ganolfannau ei wneud, a thrwy hynny\u2019n lleihau llwyth gwaith tiwtoriaid.<\/p>\n<p><strong>Cynnydd cliriach mewn cynnwys rhwng lefelau <\/strong><br \/>\nEr enghraifft, o fewn y cymhwyster llythrennedd, fe wnaethon ni gynnig cael datganiadau mwy penodol ynghylch y lefel ofynnol o hyfedredd mewn sillafu, atalnodi a gramadeg ar bob lefel o&#8217;r cymhwyster i helpu i wahaniaethu&#8217;n gliriach rhwng y lefelau.<\/p>\n<p><strong>Cynnwys mwy cyfoes<\/strong><br \/>\nEr enghraifft, mewn rhifedd, fe wnaethon ni gynnwys mwy o fathemateg ariannol yn y cymhwyster, ac o fewn y cynhwyster digidol fe wnaethon ni roi mwy o ystyriaeth i ddeallusrwydd artiffisial. <\/p>\n<p><strong>Defnyddio cyfrifianellau<\/strong><br \/>\nYn y cymhwyster rhifedd, fe wnaethon ni gynnig y dylai mwyafrif y cwestiynau yn yr asesiadau ar lefel 1 a 2 ganiat\u00e1u defnyddio cyfrifiannell. <\/p>\n<p><strong>Newidiadau i deitlau cymwysterau <\/strong><br \/>\nEr mwyn adlewyrchu cynnwys y cymwysterau&#8217;n well ac i nodi newid yn y cymwysterau&#8217;n glir, fe wnaethon ni gynnig newid teitlau&#8217;r cymwysterau o Cymhwyso Rhif i Rhifedd, Llythrennedd Digidol i Digidol a Cyfathrebu i Llythrennedd. <\/p>\n<p><strong>Dileu cymwysterau SHC ar Lefel 3 a Mynediad 1 a 2 mewn Digidol o\u2019r gyfres SHC <\/strong><\/p>\n<p><strong>Ein penderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad <\/strong><br \/>\nCawson ni ymateb ffafriol i&#8217;n hymgynghoriad o ran nifer y bobl a ymatebodd. Roedd hyn yn cynnwys dros 700 o gyflwyniadau gan ddysgwyr. Roedd cefnogaeth eang i\u2019n cynigion ymgynghori gan ddysgwyr ac ymatebwyr eraill, gyda llawer o bobl yn mynegi barn gadarnhaol ynghylch ein ffocws ar wella hydrinedd y cymwysterau i ganolfannau a dysgwyr.<\/p>\n<p>Felly, yn y rhan fwyaf o achosion rydyn ni wedi penderfynu bwrw ymlaen \u00e2 chynigion ein hymgynghoriad. Fodd bynnag, yn seiliedig ar adborth yr ymgynghoriad rydyn ni wedi:<\/p>\n<ul>\n<li>gwneud m\u00e2n ddiwygiadau i&#8217;r cynnwys trwy gynnwys manylion ychwanegol er mwyn gwella eglurder<\/li>\n<li>newid y strwythur asesu ar gyfer Llythrennedd ar Lefelau 1 a 2 drwy rannu&#8217;r asesiad darllen ac ysgrifennu yn asesiadau ar wah\u00e2n<\/li>\n<li>ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu, ar draws pob pwnc, ddarparu o leiaf un asesiad a gynhyrchwyd yn allanol ar gyfer pob cymhwyster lefel mynediad<\/li>\n<\/ul>\n<p>Darllenwch fwy am <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymwysterau.cymru\/media\/nwhmfekb\/shc-adroddiad-canfyddiadau-a-phenderfyniadau.pdf\">ganfyddiadau a phenderfyniadau ein hymgynghoriad<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Y camau nesaf yn y broses <\/strong><br \/>\nO ystyried statws cymwysterau SHC, bydd yn ofynnol i unrhyw gorff dyfarnu sy&#8217;n dymuno eu cyflwyno ymgymryd \u00e2 phroses gydnabod yn gyntaf. Mae hyn er mwyn rhoi digon o sicrwydd i ni, fel y rheoleiddiwr, fod ganddyn nhw\u2019r arbenigedd, y capasiti a&#8217;r gallu i gyflawni a dyfarnu&#8217;r cymwysterau hyn am oes y cymhwyster. Unwaith y bydd cyrff dyfarnu wedi cael cydnabyddiaeth, byddan nhw\u2019n gallu dechrau datblygu&#8217;r cymwysterau a&#8217;u cyflwyno i ni i&#8217;w cymeradwyo.  <\/p>\n<p>Y bwriad yw y bydd y cymwysterau newydd ar gael o fis Medi 2028 ymlaen, gyda manylebau a deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael ymhell cyn yr addysgu cyntaf i roi digon o amser i ddarparwyr dysgu gynllunio a pharatoi i&#8217;w cyflwyno. <\/p>\n<p>Byddwn ni\u2019n ymgysylltu&#8217;n agos \u00e2 darparwyr dysgu, cyrff dyfarnu a rhanddeiliaid allweddol eraill, megis Medr a Llywodraeth Cymru, wrth i ni ymgymryd \u00e2 gweithgareddau rheoli newid i gefnogi&#8217;r gwaith o gyflwyno&#8217;r cymwysterau newydd a&#8217;r trosglwyddiad llyfn o&#8217;r cymwysterau etifeddol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried pa mor hir y bydd y fersiynau etifeddol a&#8217;r fersiynau newydd o&#8217;r cymwysterau yn rhedeg ochr yn ochr \u00e2&#8217;i gilydd.<\/p>\n<p>Edrychwn ymlaen at weithio gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a&#8217;r sector dysgu seiliedig ar waith rhwng nawr a mis Medi 2028 i helpu i wireddu manteision llawn y diwygiadau hyn.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymwysterau.cymru\/\">Cymwysterau Cymru<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei adroddiad canfyddiadau a phenderfyniadau ar \u00f4l ei broses ymgynghori ar ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol. Mae&#8217;r Uwch Reolwr Cymwysterau Oliver Stacey yn ein tywys &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-news-june-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12551","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12551","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12551"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12551\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12553,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12551\/revisions\/12553"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12551"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12551"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12551"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}