{"id":1256,"date":"2012-05-09T22:42:09","date_gmt":"2012-05-09T22:42:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=1256"},"modified":"2013-10-22T10:58:38","modified_gmt":"2013-10-22T10:58:38","slug":"pobl-ifanc-y-rhaglen-arian-am-oes-yn-rhoi-cyflwyniad-yn-y-senedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pobl-ifanc-y-rhaglen-arian-am-oes-yn-rhoi-cyflwyniad-yn-y-senedd\/","title":{"rendered":"Pobl Ifanc Y Rhaglen Arian Am Oes yn Rhoi Cyflwyniad yn y Senedd"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_2501\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/05\/Group-pic-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-2501\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/05\/Group-pic-1-300x179.jpg\" alt=\"\" title=\"Group pic 1\" width=\"300\" height=\"179\" class=\"size-medium wp-image-2501\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-2501\" class=\"wp-caption-text\">Siaradwyr (rhes flaen o\u2019r chwith) prif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Arwyn Watkins; y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert; cyfarwyddwr ardall (masnachol) Lloyds Banking Group, Allan Griffiths a phrif weithredwr ColegauCymru, Dr John Graystone gyda dysgwyr yn y derbyniad yn y Senedd.<\/p><\/div>\n<p>Bu dathliad arbennig yn y Senedd, Caerdydd nos Fawrth yng nghwmni rhai a fu\u2019n rhan o raglen Arian am Oes Lloyds TSB sy\u2019n helpu pobl ifanc i ddysgu sut i drin arian.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd derbyniad o dan nawdd Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, i dynnu sylw at lwyddiant y rhaglen a ariannir gan y Lloyds Banking Group a\u2019i chynnal yng Nghymru gan ColegauCymru mewn partneriaeth \u00e2 Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Nod rhaglen Arian am Oes Lloyds TSB yw meithrin sgiliau rheoli arian mewn hyfforddwyr a dysgwyr yn y sector addysg bellach (AB), yn cynnwys colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a nifer fawr o gyrff sy\u2019n gweithio yn eu cymunedau lleol.<\/p>\n<p>Mae dwy haen allweddol i\u2019r rhaglen: yn gyntaf, meithrin sgiliau pobl sy\u2019n gweithio gyda phobl ifanc ac, yn ail, rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau eu hunain.  <\/p>\n<p>Mae\u2019r cyrsiau hyfforddi ar gyfer y sawl sy\u2019n gweithio gyda phobl ifanc, Teach Me a Teach Others, yn rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i staff i fynd ati i feithrin gallu ariannol pobl ifanc.  <\/p>\n<p>Un agwedd allweddol ar eu llwyddiant fu\u2019r gallu i gyrraedd mudiadau cymunedol amrywiol iawn, fel cymdeithasau tai, Gingerbread, Cymunedau yn Gyntaf, Safonau Masnach, Barnado\u2019s, Undebau Credyd, Cyngor ar Bopeth, yn ogystal \u00e2 cholegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith, ac mae bron 200 wedi\u2019u recriwtio hyd yma.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae\u2019r staff mewn gwell sefyllfa o lawer i helpu pobl ifanc i ddysgu am reoli arian. <\/p>\n<p>Bu dysgwyr yn meithrin eu sgiliau rheoli arian nhw\u2019u hunain trwy Her Arian am Oes Lloyds TSB.  Nod yr Her yw dod o hyd i ffyrdd dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a\u2019u cymunedau.  <\/p>\n<p>Un o\u2019r grwpiau oedd yn dangos eu cynllun i Aelodau\u2019r Cynulliad a gwahoddedigion yn y Senedd oedd t\u00eem buddugol rownd Cymru o Her Arian Am Oes Lloyds TSB, t\u00eem Don\u2019t Buy Posh \u2013 Save Your Dosh o ACT Training, Pen-y-bont ar Ogwr. Nhw fydd yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai. <\/p>\n<p>Y sbardun ar gyfer t\u00eem Don\u2019t Buy Posh \u2013 Save Your Dosh oedd y cynnydd yng nghost bwyd, sy\u2019n golygu nad oes llawer o arian gan bobl ar \u00f4l ar ddiwedd yr wythnos i\u2019w wario ar bethau hanfodol eraill.  Aethant ati i gynnal profion profi ac i agor caffi am ddiwrnod i ddangos nad bwyd drud yw\u2019r gorau bob amser.<\/p>\n<p>Yno hefyd, roedd t\u00eem Money Maze o fyfyrwyr technoleg gwybodaeth o Goleg G\u0175yr, Abertawe. Nhw, \u00e2\u2019u g\u00eam gyfrifiadurol, oedd enillwyr gwobr Dewis y Bobl. Roedd timau eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol neu a gafodd ganmoliaeth uchel yn Her Arian am Oes Lloyds TSB yn dangos eu cynnyrch yn y derbyniad hefyd. <\/p>\n<p>Mae ColegauCymru\u2019n cydweithio \u00e2 Llywodraeth Cymru, y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu ac eraill i sicrhau bod pawb yn cael elwa ar yr adnoddau ardderchog a ddatblygwyd i helpu pobl i reoli eu harian yn well o ganlyniad i raglenni Teach Me a Teach Others a Her Arian Am Oes Lloyds TSB.<\/p>\n<p>Roedd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert AC, yn llawn canmoliaeth i raglen Arian am Oes Lloyds TSB a dywedodd bod ganddi ran bwysig i\u2019w chwarae yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant.<\/p>\n<p>\u201cYn yr hinsawdd economaidd presennol, mae cyn bwysiced ag erioed i ddysgu sgiliau trin arian,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n galonogol iawn gweld fel y mae\u2019r rhaglen Arian am Oes wedi helpu i feithrin sgiliau\u2019r rhai sy\u2019n gweithio gyda phobl ifanc ac wedi rhoi cyfle i bobl ifanc feithrin eu sgiliau eu hunain.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Allan Griffiths, cyfarwyddwr ardal (masnachol) y Lloyds Banking Group: \u201cEin cwsmeriaid a\u2019n cymunedau sydd wrth galon popeth a wnawn. Dylen ni fel banc fod yn helpu pobl \u2013 nid dim ond ein cwsmeriaid, ond y cymunedau rydyn ni\u2019n gweithio ynddynt \u2013 i reoli eu harian yn well. <\/p>\n<p>\u201cDyna\u2019n union pam y mae\u2019r Lloyds Banking Group yn falch o gael cefnogi pobl i oresgyn anawsterau ariannol trwy\u2019r rhaglen Arian Am Oes. Wedi\u2019r cyfan, mae dysgu sut i reoli\u2019ch arian yn un o\u2019r sgiliau pwysicaf y gallwch eu dysgu.\u201d<\/p>\n<p>Ymhlith y siaradwyr roedd prif weithredwr ColegauCymru, Dr John Graystone, a phrif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Arwyn Watkins, a ddywedodd ei fod yn gobeithio y byddai Her Arian am Oes Lloyds TSB yn cael ei hystyried wrth gynllunio\u2019r cwricwlwm o hyn ymlaen.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bu dathliad arbennig yn y Senedd, Caerdydd nos Fawrth yng nghwmni rhai a fu\u2019n rhan o raglen Arian am Oes Lloyds TSB sy\u2019n helpu pobl ifanc i ddysgu sut i drin arian. Cynhaliwyd derbyniad o dan nawdd Jeff Cuthbert, y &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pobl-ifanc-y-rhaglen-arian-am-oes-yn-rhoi-cyflwyniad-yn-y-senedd\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-1256","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1256","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1256"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1256\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1256"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1256"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1256"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}