{"id":12565,"date":"2026-06-25T06:01:46","date_gmt":"2026-06-25T05:01:46","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12565"},"modified":"2026-06-21T17:33:00","modified_gmt":"2026-06-21T16:33:00","slug":"ntfw-news-june-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-news-june-26\/","title":{"rendered":"Cynlluniau newydd i ariannu prentisiaethau&#8217;n peri pryder i ddarparwyr hyfforddiant Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-news-june-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_18380\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/22.03.24-NTFW-Conference-43-scaled-e1732129918381.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-18380\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/22.03.24-NTFW-Conference-43-scaled-e1732129918381.jpg\" alt=\"Lisa Mytton, NTFW Cyfarwyddwr Strategol\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-18380\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-18380\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, NTFW Cyfarwyddwr Strategol<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r corff sy&#8217;n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi codi pryderon am effaith cynlluniau arfaethedig ar y  ffordd y caiff prentisiaethau eu hariannu. <\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi anfon ymateb cynhwysfawr gan y sector i ymgynghoriad gan Medr, rheoleiddiwr addysg drydyddol yng Nghymru, ynghylch y newidiadau arfaethedig. <\/p>\n<p>Bwriad Medr yw cyflwyno model grantiau newydd ar gyfer Rhaglen Brentisiaethau Cymru, ym mis Awst 2027. Cyhoeddodd Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol Medr dros bolisi a buddsoddi, wrth gynhadledd NTFW ym mis Mawrth eu bod yn awyddus i barhau \u00e2 rhaglen gref o gydweithio \u00e2 darparwyr prentisiaethau. <\/p>\n<p>\u201cRydym wedi ymrwymo i wireddu&#8217;n gweledigaeth, sef system addysg drydyddol sy\u2019n ymateb i anghenion yr economi, dysgwyr a chyflogwyr a system sy\u2019n canolbwyntio ar y dyfodol gan greu cyfleoedd, dewis, llwyddiant, positifrwydd a ffyniant i bawb sydd mewn partneriaeth \u00e2 chi,\u201d meddai.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW:<\/strong> \u201cMae ein neges ni i Medr yn adlewyrchu barn a phryderon darparwyr hyfforddiant annibynnol ledled Cymru, gan dynnu sylw at faterion allweddol ynghylch cymhlethdod y system, tryloywder, cyllido ar sail canlyniadau ac effaith y newidiadau arfaethedig ar y gwaith. <\/p>\n<p>\u201cRydym wedi pwysleisio bod angen canllawiau cliriach, seilwaith cadarn ar gyfer y system a dull o ariannu sy\u2019n amddiffyn mynediad dysgwyr at brentisiaethau, cynaliadwyedd darparwyr a gallu prentisiaethau i sicrhau gwerth ehangach i gyflogwyr a chymunedau. Byddwn yn dal i ymwneud yn agos \u00e2 Medr wrth i\u2019r cynlluniau ddatblygu.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae aelodau bwrdd NTFW wedi cyfarfod \u00e2 Gyrfa Cymru hefyd i drafod ei gynllun strategol newydd ac wedi tanlinellu pwysigrwydd llwybrau pontio cryf i bobl ifanc, yn enwedig wrth hyrwyddo cyfleoedd pobl ifanc sy&#8217;n gadael yr ysgol i ddilyn prentisiaethau. <\/p>\n<p>Cafwyd anerchiad gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, AS, yn nigwyddiad NTFW, Sgiliau ar Waith, yn ddiweddar. Cyflwynodd Medr y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyfredol ac ymgynghoriadau a bu Cymwysterau Cymru yn s\u00f4n am ddiwygio cymwysterau galwedigaethol. <\/p>\n<p>Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog neges gref o blaid prentisiaethau a chyhoeddodd gynlluniau ar gyfer archwiliad cenedlaethol o sgiliau ac uwchgynhadledd sgiliau o dan Lywodraeth newydd Cymru.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae Lisa wedi trafod datblygu arweinyddiaeth gyda Medr a blaenoriaethau ar gyfer polis\u00efau prentisiaethau, yn enwedig mewn cyfnod o dwf i&#8217;r sector ynni adnewyddadwy, gyda Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><strong>Tanlinellodd bwysigrwydd prentisiaethau i economi Cymru wrth annerch digwyddiadau Ffederasiwn Cyrff Dyfarnu Cymru a Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd (IEP).<\/strong> <\/p>\n<p> \u201cRydym wedi dechrau cyfarfod ag Aelodau o&#8217;r Senedd hefyd \u2013 rhai newydd a rhai sy&#8217;n dychwelyd \u2013 er mwyn dangos cryfder y system brentisiaethau yng Nghymru, gan sicrhau bod pob plaid yn clywed llais darparwyr annibynnol,\u201d ychwanegodd Lisa.<\/p>\n<p>\u201cMae wedi bod yn bleser mynd i ddigwyddiadau dathlu a noson wobrwyo gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gydnabod y pethau rhagorol mae dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr o&#8217;r rhwydwaith cyfan wedi&#8217;u cyflawni.\u201d<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r corff sy&#8217;n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi codi pryderon am effaith cynlluniau arfaethedig ar y ffordd y caiff prentisiaethau eu hariannu. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi anfon ymateb cynhwysfawr gan &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-news-june-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12565","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12565","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12565"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12565\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12583,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12565\/revisions\/12583"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12565"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12565"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12565"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}