{"id":1260,"date":"2012-05-02T22:47:12","date_gmt":"2012-05-02T21:47:12","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=1260"},"modified":"2022-09-13T11:48:49","modified_gmt":"2022-09-13T10:48:49","slug":"tim-newydd-o-arweinwyr-yn-y-ffederasiwn-hyfforddiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tim-newydd-o-arweinwyr-yn-y-ffederasiwn-hyfforddiant\/","title":{"rendered":"Tim Newydd o Arweinwyr yn y Ffederasiwn Hyfforddiant"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_2480\" style=\"width: 237px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/05\/Arwyn-Wynne-and-Sheridan.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-2480\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2012\/05\/Arwyn-Wynne-and-Sheridan-227x300.jpg\" alt=\"\" title=\"National Training Federation for WalesPB210-2012\" width=\"227\" height=\"300\" class=\"size-medium wp-image-2480\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-2480\" class=\"wp-caption-text\">Cadeirydd newydd NTfW, Wynne Roberts (canol) gyda\u2019r is-gadeirydd Sheridan Jeffrey (dde) a\u2019r prif swyddog gweithredol newydd, Arwyn Watkins.<\/p><\/div>\n<p>Mae t\u00eem newydd wedi\u2019i benodi i arwain corff sy\u2019n cynrychioli rhwydwaith o 108 o ddarparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2 36,000 o gyflogwyr ledled Cymru.<\/p>\n<p>Yng Nghyfarfod Blynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn Llanelwedd, daeth Arwyn Watkins o\u2019r gadair ar \u00f4l cyfnod o chwe blynedd. Mr Watkins yw rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng.<\/p>\n<p>Mae\u2019n symud i swydd ran amser newydd, sef prif swyddog gweithredol gyda chyfrifoldeb dros feithrin perthynas \u00e2 rhanddeiliaid allanol, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, er budd pobl sy\u2019n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.<\/p>\n<p>Wynne Roberts, 58, cyfarwyddwr y cwricwlwm a safonau yng Ngholeg I\u00e2l, Wrecsam yw\u2019r cadeirydd newydd ac mae Sheridan Jeffery, rheolwr canolfan Hyfforddiant Torfaen, Cwmbr\u00e2n yn camu i\u2019w esgidiau ef fel is-gadeirydd.<\/p>\n<p>Bu Mr Watkins yn aelod o Fwrdd NTfW ers ei sefydlu 10 mlynedd yn \u00f4l. Mae wedi arwain y Ffederasiwn trwy gyfnod o newid enfawr mewn dysgu seiliedig ar waith ac wedi ennyn parch mawr i\u2019r rhwydwaith yn Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>\u201cNTfW yw\u2019r ffordd orau o hyrwyddo sgiliau a phrentisiaethau ac, yn fy swydd newydd, byddaf yn canolbwyntio ar adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi\u2019u gosod,\u201d meddai. \u201cRwy\u2019n hapus iawn ein bod wedi llwyddo i sicrhau parhad, gyda\u2019r is-gadeirydd yn camu i\u2019r gadair. Rwy\u2019n falch hefyd ein bod wedi cadarnhau\u2019r cyfansoddiad newydd gan y bydd hynnny\u2019n help i gynllunio ymlaen llaw ac yn ein gwneud yn sefydliad llawer mwy cynhwysol i aelodau.\u201d<\/p>\n<p>Talodd Wynne Roberts deyrnged i arweiniad Arwyn Watkins a dywedodd bod y ffederasiwn wrth eu bodd i gadw ei brofiad a\u2019i arbenigedd mewn swydd newydd. <\/p>\n<p>\u201cBu cyfnod Arwyn yn y gadair yn amser cadarnhaol iawn i NTfW ac mae wedi gosod llwyfan lle gall y Ffederasiwn ddylanwadu ar benderfyniadau polisi yn Llywodraeth Cymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n ei chyfrif yn fraint fawr i gael gwahoddiad i gynrychioli\u2019r aelodau ledled Cymru. Sefydlwyd NTfW ddeng mlynedd yn \u00f4l a bu\u2019n gyfnod anodd iawn. Serch hynny, rydym wedi gweld gwelliannau mawr yn mherfformiad a llwyddiant darparwyr dysgu seiliedig ar waith, dysgwyr a phrentisiaid.<\/p>\n<p>\u201cO gofio hynny, yr her yw symud ymlaen mewn ffordd a fydd yn gweld NTfW yn tyfu, gan godi safonau a sicrhau ein bod yn dal i wneud cyfraniad cadarnhaol at economi Cymru trwy gefnogi cwmn\u00efau.  <\/p>\n<p>\u201cEr ein bod yn cydnabod bod arian cyhoeddus yn brin erbyn hyn, mae\u2019n rhaid i ni ddal ati i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau pobl ifanc er mwyn diwallu anghenion cyflogwyr. <\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n ymdrechu i gefnogi pobl ifanc wrth symud o\u2019r ysgol i waith trwy ddarparu sgiliau a fydd yn caniat\u00e1u iddyn nhw ffynnu wrth gystadlu am waith.\u201d<\/p>\n<p>Mae Mr Roberts yn byw yn Hen Golwyn. Mae ei wraig, Olivia, yn gydlynydd \u2018dysgu fel teulu\u2019 ac mae ganddynt ddau o blant sydd bellach yn oedolion. Cychwynnodd Mr Roberts ei yrfa fel prentis peirianyddol mewn iard trwsio llongau yng Nghaergybi a chafod brofiad fel rheolwr cynhyrchu mewn ffatri ac yna fel rheolwr hyfforddiant cyn treulio naw mlynedd yn rheolwr dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Llandrillo Cymru. Penodwyd ef i\u2019w swydd bresennol yng Ngholeg I\u00e2l chwe blynedd yn \u00f4l.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae t\u00eem newydd wedi\u2019i benodi i arwain corff sy\u2019n cynrychioli rhwydwaith o 108 o ddarparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2 36,000 o gyflogwyr ledled Cymru. Yng Nghyfarfod Blynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn Llanelwedd, daeth Arwyn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tim-newydd-o-arweinwyr-yn-y-ffederasiwn-hyfforddiant\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-1260","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1260","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1260"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1260\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8827,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1260\/revisions\/8827"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1260"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1260"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1260"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}