{"id":12600,"date":"2026-06-29T10:00:56","date_gmt":"2026-06-29T09:00:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12600"},"modified":"2026-06-30T14:36:05","modified_gmt":"2026-06-30T13:36:05","slug":"cambrian-awards-employer","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-employer\/","title":{"rendered":"Cyflogwyr arobryn yn cael eu gwobrwyo am eu hymrwymiad i brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-awards-employer\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20963\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Farmers-Pantry1-e1782823992737.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20963\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Farmers-Pantry1-e1782823992737.jpg\" alt=\"Winners of the Medium Employer of the Year standing together with a member of staff from Cambrian Training.\" width=\"460\" height=\"301\" class=\"size-full wp-image-20963\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20963\" class=\"wp-caption-text\">Y perchennog Rhodri Davies a&#8217;r rheolwr gweithrediadau Dawie Beyers o Farmers Pantry, enillydd Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, gyda Mark Hughes o Gwmni Hyfforddiant Cambrian (chwith).<\/p><\/div>\n<p>Cafodd tri chyflogwr o Gymru eu cydnabod yng ngwobrau blynyddol mawreddog darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru am eu hymrwymiad i hyfforddi a datblygu eu gweithwyr.<\/p>\n<p>Enwyd Farmfoods, Cymru gyfan, Farmers Pantry, yn Llanilltud Fawr, a Phenycae Inn, ym Mhenycae, ger Abertawe, yn gyflogwyr bach, canolig a mawr y flwyddyn, yn y drefn honno, yn y gwobrau a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a\u2019i bartneriaid. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi\u2019i lleoli yn y Trallwng, a\u2019i bartneriaid.<\/p>\n<p>Roedd saith ar hugain ar y rhestr fer \u2013 tri ym mhob un o\u2019r naw categori \u2013 yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty\u2019r Metropole, Llandrindod. <\/p>\n<p>Mae rhaglen prentisiaethau Farmfoods yn gyrru twf busnes trwy ddatblygu staff medrus sy\u2019n cryfhau gweithrediadau siopau, cynhyrchiant, a sefydlogrwydd y gweithlu hirdymor.<\/p>\n<p>Mae prentisiaid yn ennill sgiliau ymarferol o\u2019r cychwyn cyntaf mewn gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli stoc, cydymffurfiaeth ac arwain, gan ddod yn aelodau t\u00eem hyderus sy\u2019n gwella safonau ac effeithlonrwydd. <\/p>\n<p>Mae dysgu digidol trwy\u2019r Hwb FarmFoods yn gwella cyfathrebu a chefnogaeth amser real, wrth i hyfforddwyr, rheolwyr a swyddogion hyfforddiant mewnol darparu hyfforddiant cyson ac amser dysgu gwarchodedig. <\/p>\n<p>Mae llwybrau dilyniant clir a chadw cryf yn golygu bod pob prentis yn symud ymlaen i rolau parhaol, gyda llawer yn symud ymlaen i rolau arwain, gan adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy a chefnogi llwyddiant hir dymor y busnes teuluol hwn. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Alex Davies a Moyra Robinson, rheolwyr ardal Cymru o Farmfoods:<\/strong> &#8220;Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon oherwydd ein bod yn wynebu rhai cwmn\u00efau da eraill. <\/p>\n<p>&#8220;Fel busnes teuluol, rydym bob amser yn chwilio am reolwyr y dyfodol ac mae prentisiaethau yn bwysig oherwydd eu bod yn dod \u00e2 phobl dalentog gyda syniadau newydd i ni. Rydym yn ddiolchgar i Gwmni Hyfforddiant Cambrian am gefnogi ein prentisiaid yng Nghymru.&#8221; <\/p>\n<p>Mae rhaglen prentisiaethau Farmers Pantry wedi bod yn hanfodol i\u2019w dwf, gan gefnogi ei ehangiad o fferm deuluol i fusnes cigyddiaeth, manwerthu ac arlwyo ar draws sawl safle. <\/p>\n<p>Trwy ddatblygu cigyddion medrus a staff technegol yn fewnol, mae\u2019r cwmni wedi goresgyn prinder sgiliau ledled y sector wrth gynnal ansawdd a gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol. <\/p>\n<p>Mae prentisiaid yn ennill sgiliau technegol uwch, ymwybyddiaeth fasnachol, a gwybodaeth gref am gynaliadwyedd, gan gyfrannu at gydnabyddiaeth genedlaethol, megis ennill y wobr Busnes Cigyddiaeth Fawr Gorau yng Nghymru yn 2025. <\/p>\n<p>Gyda llwybrau dilyniant clir, mentora ymarferol ac ymgysylltu digidol, mae\u2019r rhaglen yn adeiladu gweithwyr proffesiynol hyderus sy\u2019n gyrru perfformiad a sicrhau dyfodol hir dymor y sefydliad. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Rhodri Davies, perchennog Farmers Pantry Butchers:<\/strong> &#8220;Mae&#8217;r wobr hon yn adlewyrchu\u2019r gwaith caled, yr ymrwymiad a&#8217;r ymroddiad a ddangoswyd gan bob aelod o&#8217;n t\u00eem. <\/p>\n<p>&#8220;Yn Farmers Pantry, rydym yn credu ein t\u00eem yw hanfod ein busnes ac mae&#8217;r gydnabyddiaeth hon yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu gweithle lle gall gweithwyr ddatblygu, llwyddo ac adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil. Mae&#8217;n gyflawniad gwych i&#8217;r busnes cyfan ac mae&#8217;n anrhydedd i ni ei dderbyn.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Ychwanegodd Dawie Beyers, rheolwr gweithrediadau&#8217;r cwmni:<\/strong> &#8220;Rydym wedi gweithio&#8217;n agos gyda Hyfforddiant Cambrian ers blynyddoedd lawer ac rydym yn gwerthfawrogi&#8217;n fawr y gefnogaeth, yr arweiniad a&#8217;r arbenigedd y maent yn eu darparu. <\/p>\n<p>&#8220;Mae buddsoddi yn natblygiad ein staff yn rhan allweddol o&#8217;n busnes ac mae Hyfforddiant Cambrian wedi ein helpu i greu cyfleoedd i weithwyr ennill sgiliau newydd, tyfu mewn hyder a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.&#8221;<\/p>\n<p>Mae rhaglen prentisiaeth wedi bod yn hanfodol i dwf Penycae Inn, gan helpu t\u00eem bach i adeiladu gallu, hyder a sefydlogrwydd hirdymor. Dros dair blynedd, mae prentisiaid wedi cryfhau\u2019r gegin, blaen y t\u0177 a gwesty newydd, gan wella ansawdd y gwasanaeth a llenwi bylchau sgiliau allweddol. <\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglen wedi trawsnewid dysgwyr, gan greu staff medrus, llawn cymhelliant, wrth i offer digidol a hyfforddiant ymarferol rhoi hwb i gynhyrchiant. <\/p>\n<p>Mae dull cynhwysol y busnes, sy\u2019n cefnogi dysgwyr sydd ag awtistiaeth a\u2019r rhai sydd angen ail gyfle, wedi cryfhau cysylltiadau cymunedol a theyrngarwch. Mae\u2019r rhaglen arloesol a chefnogol hon wedi creu gweithlu galluog sy\u2019n gyrru boddhad cwsmeriaid, llwyddiant gwobrau a thwf busnes cynaliadwy.<\/p>\n<p>Enillodd gweinydd blaen y t\u0177 Penycae Inn, Aaron Jones, Gwobr Prentis y Flwyddyn, gan ei ychwanegu at Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Unigolyn Rhagorol a enillodd y llynedd. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Anthony Christopher, sy&#8217;n gyd-berchen ar Benycae Inn gyda&#8217;i wraig, Claire:<\/strong> &#8220;Mae&#8217;r wobr yn gydnabyddiaeth hyfryd o\u2019r flynyddoedd o hyfforddi staff, ond ni allem fod wedi cyflawni hyn heb ein pobl ifanc.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n wych gweld datblygiad ein prentisiaid a sut maen nhw&#8217;n ychwanegu gwerth i&#8217;r busnes. Mae&#8217;n creu amgylchedd llawer gwell pan fydd staff yn dysgu sgiliau ymarferol o fewn y busnes ac mae&#8217;r gefnogaeth gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn eithriadol.&#8221;<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: <\/strong>\u201cMae\u2019r cyflogwyr hyn yn dangos y gwahaniaeth y gall partneriaethau prentisiaeth gref ei wneud. Trwy feithrin talent, adeiladu llwybrau dilyniant clir a chofleidio arloesedd, maent yn cryfhau eu gweithlu ac yn helpu i sicrhau dyfodol eu diwydiannau. Mae eu cyflawniadau yn wirioneddol ysbrydoledig.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd tri chyflogwr o Gymru eu cydnabod yng ngwobrau blynyddol mawreddog darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru am eu hymrwymiad i hyfforddi a datblygu eu gweithwyr. Enwyd Farmfoods, Cymru gyfan, Farmers Pantry, yn Llanilltud Fawr, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-employer\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12600","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12600","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12600"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12600\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12607,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12600\/revisions\/12607"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12600"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12600"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12600"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}