{"id":12603,"date":"2026-06-26T08:00:42","date_gmt":"2026-06-26T07:00:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12603"},"modified":"2026-06-30T19:52:42","modified_gmt":"2026-06-30T18:52:42","slug":"cambrian-welsh-ambassador","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-welsh-ambassador\/","title":{"rendered":"Cydlynydd y Gymraeg yn ennill Gwobr Llysgennad am waith \u2018trawsnewidiol\u2019"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-welsh-ambassador\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20975\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Jasmine-Miles-edi-crop-optimised-e1782845436371.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20975\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Jasmine-Miles-edi-crop-optimised-e1782845436371.jpg\" alt=\"Jasmine holding her trophy and certificate.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-20975\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20975\" class=\"wp-caption-text\">Jasmine Miles, enillydd Gwobr Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Mae Jasmine Miles wedi ennill gwobr dysgu seiliedig ar waith am drawsnewid sut mae\u2019r Gymraeg yn cael ei defnyddio a\u2019i hystyried ym musnes meithrinfa i blant ym Mhenarth lle mae\u2019n gweithio.<\/p>\n<p>Enwyd y cydlynydd y Gymraeg yn Green Giraffe Nursery yn Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn yn y gwobrau blynyddol mawreddog a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a\u2019i bartneriaid. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi\u2019i lleoli yn y Trallwng, a\u2019i bartneriaid.<\/p>\n<p>Roedd saith ar hugain ar y rhestr fer \u2013 tri ym mhob un o\u2019r naw categori \u2013 yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty\u2019r Metropole, Llandrindod. <\/p>\n<p>Mae Jasmine, 20, sy\u2019n brentis gyda\u2019r darparwr dysgu seiliedig ar waith Sirius Skills, yn cael ei chanmol am drawsnewid darpariaeth Cymraeg yn ei meithrinfa a\u2019r sefydliad ehangach trwy \u201cei hangerdd, ei harweinyddiaeth a\u2019i chreadigrwydd\u201d.<\/p>\n<p>Mae hi\u2019n ymgorffori\u2019r Gymraeg mewn ymarfer dyddiol, yn cefnogi staff gydag ynganu ac yn meithrin eu hyder. Mae ei menter \u2018Pencampwr Cymraeg y Mis\u2019 yn rhedeg ar draws sawl cangen, wrth i\u2019w harwyddion dwyieithog, pecynnau teulu a gweithgareddau diwylliannol yn creu amgylchedd ymgolli lle mae plant ifanc yn defnyddio\u2019r Gymraeg yn naturiol. <\/p>\n<p>Mae Jasmine hefyd yn darparu hyfforddiant staff ysbrydoledig ac yn rhannu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus, gan ddod yn esiampl dda o arfer gorau. <\/p>\n<p><strong>Wrth ymateb i\u2019w gwobr, dywedodd Jasmine:<\/strong> \u201cMae\u2019n gyffrous iawn ac mae\u2019n anrhydedd ennill y wobr hon. Nawr fy mod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth Lefel 2, rwy\u2019n symud ymlaen i Lefel 3 ac yn gobeithio camu ymlaen i r\u00f4l rheoli yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Diolchodd i\u2019w swyddog hyfforddiant Alison Widdicombe, o Sirius Skills, am ei hanogaeth a\u2019i chefnogaeth. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Maddie Daw, dirprwy reolwr Green Giraffe Nursery Penarth:<\/strong> \u201cMae Jasmine yn aelod cryf o staff sy\u2019n sicrhau bod y Gymraeg yn gynhwysol yn y feithrinfa.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Manon Rosser, swyddog cymorth y Gymraeg a chyfathrebu Cwmni Hyfforddiant Cambrian:<\/strong> \u201cMae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ymrwymo i ymgorffori\u2019r Gymraeg ym mhob agwedd ar ein gwaith, gan gefnogi cyflogwyr a phrentisiaid i ddefnyddio\u2019r Gymraeg yn hyderus yn y gweithle.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn llongyfarch Jasmine ar gael ei henwi\u2019n Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn. Mae\u2019r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu nid yn unig ei hymroddiad personol, ond hefyd ein hymrwymiad ehangach i hyrwyddo\u2019r Gymraeg mewn lleoliadau proffesiynol. <\/p>\n<p>\u201cFel ymarferydd blynyddoedd cynnar, mae Jasmine yn chwarae rhan arbennig o bwysig wrth gyflwyno a meithrin y Gymraeg ar ddechrau datblygiad plentyn. Mae ei gwaith yn cefnogi sylfeini dwyieithrwydd o oedran ifanc, gan helpu i sicrhau dyfodol cryf ar gyfer i\u2019r iaith ar draws ein cymunedau a\u2019n gweithlu.\u201d<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Jasmine Miles wedi ennill gwobr dysgu seiliedig ar waith am drawsnewid sut mae\u2019r Gymraeg yn cael ei defnyddio a\u2019i hystyried ym musnes meithrinfa i blant ym Mhenarth lle mae\u2019n gweithio. Enwyd y cydlynydd y Gymraeg yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-welsh-ambassador\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12603","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12603","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12603"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12603\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12613,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12603\/revisions\/12613"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12603"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12603"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12603"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}