{"id":12608,"date":"2026-06-22T08:00:54","date_gmt":"2026-06-22T07:00:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12608"},"modified":"2026-06-30T19:47:29","modified_gmt":"2026-06-30T18:47:29","slug":"cambrian-kepak-graduates","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-kepak-graduates\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau yn allweddol i lwyddiant cwmni cig ym Merthyr Tudful"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-kepak-graduates\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20973\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Kepak-graduates-with-Mark-e1782827115362.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20973\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Kepak-graduates-with-Mark-e1782827115362.jpg\" alt=\"Kepak graduates in their cap and gowns at the ceremony.\" width=\"460\" height=\"275\" class=\"size-full wp-image-20973\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20973\" class=\"wp-caption-text\">Graddedigion prentisiaeth Kepak Merthyr gyda rheolwr gweithrediadau Cwmni Hyfforddiant Cambrian Mark Hughes yn seremoni raddio.<\/p><\/div>\n<p>Mae Kepak yn parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau yn ei ffatri prosesu cig a\u2019i ladd-dy llwyddiannus ym Merthyr Tudful i gefnogi datblygu sgiliau a chynnydd ar draws ei weithlu.<\/p>\n<p>Y safle yw un o\u2019r mwyaf o\u2019i fath yng Nghymru gan gyflogi o bron i 1,000 o bobl.<br \/>\nMae\u2019r cwmni, sydd \u00e2 14 o safleoedd gweithgynhyrchu ledled y DU a\u2019r Iwerddon, wedi defnyddio\u2019i weithrediad yn Kepak Merthyr fel glasbrint ar gyfer datblygu sgiliau, prentisiaethau, cynlluniau olyniaeth a datblygu rheoli ar draws y busnes ac maent yn awyddus i ehangu cyfleoedd i\u2019w weithlu. <\/p>\n<p>Mae\u2019r safle ym Merthyr yn cynnwys dau ladd-dy, neuadd diesgyrnu cig eidion a chig oen, a gweithrediad manwerthu a dosbarthu. <\/p>\n<p>Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gweithio\u2019n agos gyda Kepak i deilwra prentisiaethau i ddiwallu anghenion penodol y busnes. Cyflwynir prentisiaethau sy\u2019n amrywio o lefelau 2 i 4 mewn Arwain T\u00eem y Diwydiant Bwyd, Rheoli Technegol a Gweithrediadau Technegol, Cigyddiaeth a Phrosesu Cig, Rhagoriaeth Manwerthu Bwyd, Rheoli, Arwain T\u00eem a Gweinyddu Busnes.<\/p>\n<p>Ers 2020, mae 73 o weithwyr wedi cyflawni prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae 47 o weithwyr yn gweithio tuag at gymwysterau ar hyn o bryd ac mae 13 wedi cwblhau yn ystod y chwe mis diwethaf. <\/p>\n<p>Mynychodd wyth o\u2019r cyflawnwyr diweddaraf a dau o\u2019u rheolwyr seremoni raddio prentisiaeth diweddar Gwmni Hyfforddiant Cambrian a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae prentisiaethau yn hynod bwysig i Kepak oherwydd eu bod yn ein helpu i fuddsoddi yn nyfodol ein pobl a\u2019n busnes,\u201d <strong>esboniodd Jenna Hardie, rheolwr Adnoddau Dynol y cwmni ym Merthyr.<\/strong> \u201cMaent hefyd yn caniat\u00e1u inni adeiladu gweithlu medrus a llawn cymhelliant, gan ddod \u00e2 syniadau newydd, talent newydd a datblygiad parhaus i\u2019r cwmni.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae un o raddedigion prentisiaeth, Leah Chapman, bellach yn agos at gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd, ar \u00f4l symud ymlaen o Brentisiaeth mewn Sgiliau\u2019r Diwydiant Bwyd. Mae wedi ennill dyrchafiad o gydlynydd Iechyd a Diogelwch i reolwr. <\/p>\n<p>Gweithiwr arall sydd wedi dringo trwy\u2019r rhengoedd yw Marcin Andrzejewski a ymunodd \u00e2 Kepak yn 2007 fel paciwr asiantaeth ac sydd bellach yn rheolwr diesgyrnu cig oen, ac yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Rheoli. <\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n hynod falch o\u2019n prentisiaid a\u2019r effaith maen nhw\u2019n ei chael ar draws y busnes,\u201d ychwanegodd Jenna. \u201cTrwy brentisiaethau, rydym wedi gweld gwelliannau mewn cadw gweithwyr, datblygu sgiliau a chynnydd mewnol, gyda phrentisiaid yn aml yn symud ymlaen i rolau uwch neu arbenigol yn y busnes.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhaglenni hefyd wedi helpu i gryfhau cynhyrchiant ac ymgysylltu trwy ddatblygu gweithwyr sydd wedi\u2019u hyfforddi i\u2019r lefel uchaf ac sydd \u00e2 diddordeb yn llwyddiant y cwmni.<\/p>\n<p>\u201cYn ogystal, mae prentisiaethau yn cefnogi cynllunio olyniaeth trwy greu llif gref o dalent yn y dyfodol, lleihau costau recriwtio a\u2019n helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 bylchau sgiliau yn y busnes.\u201d<\/p>\n<p>Canmolodd gyfraniad Cwmni Hyfforddiant Cambrian at stori llwyddiant y prentisiaethau. \u201cYr hyn sy\u2019n eu gwneud yn sefyll allan fel darparwr hyfforddiant yw eu cefnogaeth ymarferol, cyfathrebu cryf, ac ymrwymiad gwirioneddol i\u2019r dysgwr a\u2019r cyflogwr,\u201d meddai Jenna.<\/p>\n<p>\u201cMaen nhw\u2019n cymryd yr amser i ddeall ein hanghenion busnes a sicrhau bod y rhaglenni prentisiaeth yn darparu gwerth gwirioneddol i bawb sy\u2019n cymryd rhan.\u201d<\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019i strategaeth hirdymor ar gyfer pobl a\u2019r busnes, mae\u2019r cwmni wedi ymrwymo i barhau i dyfu a buddsoddi mewn prentisiaethau. Mae\u2019r rhaglen gyrfaoedd cynnar Kepak, Kickstart, yn cefnogi prentisiaid, graddedigion ac arweinwyr y dyfodol ar draws y busnes.<\/p>\n<p>\u201cFel un o brif gyflogwyr yn yr ardal, ein ffocws yw creu hyd yn oed mwy o gyfleoedd ar draws gwahanol feysydd o\u2019r busnes, datblygu arweinwyr y dyfodol a sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiant bwyd modern, arloesol,\u201d ychwanegodd Jenna. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Mark Hughes, Rheolwr Gweithrediadau Cwmni Hyfforddiant Cambrian:<\/strong> &#8220;Mae ymrwymiad Kepak i brentisiaethau yn eithriadol, ac mae&#8217;r canlyniadau&#8217;n siarad drostynt eu hunain. Mae eu buddsoddiad mewn datblygu pobl ar bob lefel wedi creu gweithlu medrus iawn sy&#8217;n parhau i dyfu gyda&#8217;r busnes. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn falch o weithio mewn partneriaeth \u00e2 th\u00eem sy\u2019n gwerthfawrogi dysgu a dilyniant, ac rydym yn falch iawn o weld cymaint o&#8217;u prentisiaid yn cyflawni, symud ymlaen ac yn dod yn arweinwyr y dyfodol yn y cwmni.&#8221; <\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Kepak yn parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau yn ei ffatri prosesu cig a\u2019i ladd-dy llwyddiannus ym Merthyr Tudful i gefnogi datblygu sgiliau a chynnydd ar draws ei weithlu. Y safle yw un o\u2019r mwyaf o\u2019i fath &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-kepak-graduates\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12608","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12608","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12608"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12608\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12611,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12608\/revisions\/12611"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12608"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12608"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12608"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}