{"id":12614,"date":"2026-07-01T10:29:52","date_gmt":"2026-07-01T09:29:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12614"},"modified":"2026-07-01T10:29:52","modified_gmt":"2026-07-01T09:29:52","slug":"cambrian-awards-lifetime-achievement","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-lifetime-achievement\/","title":{"rendered":"Gwobr Cyflawniad Oes am hyrwyddwr sgiliau, lletygarwch a bwyd Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-awards-lifetime-achievement\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20978\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Arwyn-and-Faith-land-e1782897438309.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20978\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Arwyn-and-Faith-land-e1782897438309.jpg\" alt=\"Arwyn holding his award with Faith by his side.\" width=\"460\" height=\"353\" class=\"size-full wp-image-20978\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20978\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian Faith O\u2019Brien yn cyflwyno\u2019r Wobr Cyflawniad Oes i Arwyn Watkins, OBE.<\/p><\/div>\n<p>Mae dyn sy\u2019n cael ei ganmol am gael \u201ceffaith trawsnewidiol\u201d ar ddatblygu sgiliau, lletygarwch a\u2019r sectorau bwyd a diod yng Nghymru wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Cyflawniad Oes.  <\/p>\n<p>Cyflwynwyd y wobr i Arwyn Watkins, OBE, gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr prentisiaethau&#8217;r wlad. Cynhaliwyd y seremoni cyflwyno yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a Sgiliau blynyddol y cwmni yng Ngwesty\u2019r Metropole, Llandrindod.<\/p>\n<p>Arweiniodd Mr Watkins y rheolwyr i brynu\u2019r cwmni ym 1995. Fel rheolwr gyfarwyddwr a chadeirydd gweithredol, tyfodd y busnes i fod yn un o ddarparwyr hyfforddiant uchaf ei barch yng Nghymru, sy\u2019n adnabyddus am ragoriaeth, arloesedd a chynhwysiant. <\/p>\n<p>Y llynedd, arweiniodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian i gyfnod newydd fel Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr ar ben-blwydd y cwmni yn 30 oed ac mae bellach yn gynghorydd goruchwylio gweithredol i Gr\u0175p Cwmn\u00efau CHC. Mae\u2019n dod a\u2019i gyflogaeth gyda\u2019r cwmni i ben ddiwedd mis Gorffennaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019n datblygu i fod yn flwyddyn gofiadwy iddo. Fel llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru (CAW), ef oedd y cogydd cyntaf o Gymru i ennill Aelodaeth Anrhydeddus am Oes WorldChefs yng Nghyngres ac Expo 2026, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Wales) mis diwethaf.<\/p>\n<p>Arweiniodd Mr Watkins, sy\u2019n byw yn Llanfair Caereinion, ger y Trallwng, y t\u00eem a sicrhaodd y gyngres i Gymru, digwyddiad coginiol mwyaf y byd. Dyma\u2019r tro cyntaf i\u2019r digwyddiad cael ei gynnal yn y DU yn ei hanes 98 mlynedd. <\/p>\n<p><strong>\u201cMae\u2019r wobr hon yn gydnabod nid yn unig gyflawniad, ond oes o ddylanwad, arwain, gwasanaeth ac effaith,\u201d meddai Faith O\u2019Brien, a olynodd Arwyn fel rheolwr gyfarwyddwr<\/strong>. <\/p>\n<p>\u201cHeno, rydym yn anrhydeddu unigolyn y mae ei effaith ar ddatblygu sgiliau, lletygarwch a\u2019r sectorau bwyd a diod yng Nghymru wedi bod yn gwbl drawsnewidiol. Mae gyrfa Arwyn wedi\u2019i diffinio gan weledigaeth, ymroddiad, a chred ddiwyro ym mhotensial pobl.<\/p>\n<p>\u201cYn arweinydd, mentor, hyrwyddwr prentisiaid, eiriolwr balch dros fwyd o Gymru ac yn was ymroddedig i\u2019w gymuned, mae ei etifeddiaeth yn rhan annatod o hyfforddiant a lletygarwch Cymru a bydd ei ddylanwad yn parhau i lunio cenedlaethau\u2019r dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod.\u201d<\/p>\n<p>Talodd teyrnged i\u2019w gyfraniad i\u2019r sector dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru, trwy wasanaethu fel prif weithredwr ac yna\u2019n gadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2014. <\/p>\n<p>Gweithiodd Mr Watkins yn agos gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr hyfforddiant i lunio polisi cenedlaethol a chryfhau cyfleoedd i ddysgwyr a gwasanaethodd fel aelod o fwrdd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer Gorllewin a Chanolbarth Cymru. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cI Arwyn, nid yw prentisiaethau erioed wedi bod yn gymwysterau yn unig,\u201d <strong>ychwanegodd Faith<\/strong>. \u201cMaen nhw\u2019n gyfleoedd sy\u2019n newid bywydau \u2013 llwybrau sy\u2019n agor drysau, adeiladu hyder a chryfhau cymunedau. Mae ei gred mewn meithrin talent ar bob lefel wedi helpu miloedd o unigolion i gymryd eu camau cyntaf i yrfaoedd ystyrlon.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Wrth ymateb, dywedodd Mr Watkins:<\/strong> \u201cPan fyddwch chi\u2019n clywed rhywun yn siarad am eich bywyd fel \u2018na, mae\u2019n hynod emosiynol. Rwy\u2019n falch o bopeth rydw i wedi\u2019i gyflawni yn fy mywyd hyd yma, ond ni fyddai unrhyw beth wedi bod yn bosibl heb waith t\u00eem.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r cyfan wedi\u2019i gyflawni trwy ddechrau fel prentis. Mae\u2019n anrhydedd mawr i mi dderbyn y wobr hon ac rwy\u2019n diolch i\u2019r holl gydweithwyr yr wyf wedi gweithio gyda nhw yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian dros y 27 mlynedd diwethaf.\u201d<\/p>\n<p>Datgelodd fod sylw diystyriol gan athro pan oedd yn gadael yr ysgol wedi\u2019i ysbrydoli. Wrth glywed bod Mr Watkins wedi dewis gyrfa fel cogydd, atebodd yr athro: \u201cYou will be alright doing that because it doesn\u2019t require any brains!\u201d<\/p>\n<p>Ym mhob arddangosiad coginio mae y mae wedi\u2019i roi, mae\u2019n sicrhau bod ganddo gan o gwrw Brains fel cyfeiriad at y sylw.<\/p>\n<p>\u201cRydw i mor hapus fy mod wedi dychwelyd i Gymru i reoli Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac wedi gallu cyflawni fy uchelgeisiau,\u201d ychwanegodd. \u201cRwy\u2019n gobeithio fy mod hefyd wedi helpu i gyflawni uchelgeisiau pobl rydw i wedi ymgysylltu \u00e2 nhw.\u201d<\/p>\n<p>Derbyniodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2018 am ei gyfraniad eithriadol i sgiliau, lletygarwch ac economi Cymru.<\/p>\n<p>Yn fab i ffermwr o Lanwrtyd, gadawodd Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-muallt i ymuno \u00e2\u2019r Fyddin fel prentis cogydd ac mae wedi hyrwyddo bwyd o Gymru a sgiliau coginio trwy gydol ei fywyd. <\/p>\n<p>Bu\u2019n hyfforddi T\u00eem Coginio Iau Cymru i ennill medal aur yn yr Olympaidd Coginio yn 2004 ac mae wedi bod yn llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru ers 2015. <\/p>\n<p>O dan ei lywyddiaeth, cynhaliodd Cymru Gynhadledd Llywyddion Ewropeaidd WorldChefs yn 2017 wedi\u2019i dilyn gan Gyngres ac Expo 2026, a fynychwyd gan fwy na 800 o gogyddion gorau o bob cwr o\u2019r byd.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae dyn sy\u2019n cael ei ganmol am gael \u201ceffaith trawsnewidiol\u201d ar ddatblygu sgiliau, lletygarwch a\u2019r sectorau bwyd a diod yng Nghymru wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Cyflawniad Oes. Cyflwynwyd y wobr i Arwyn Watkins, OBE, gan &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-lifetime-achievement\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12614","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12614","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12614"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12614\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12618,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12614\/revisions\/12618"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12614"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12614"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12614"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}