{"id":12623,"date":"2026-07-07T11:22:34","date_gmt":"2026-07-07T10:22:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12623"},"modified":"2026-07-07T11:22:34","modified_gmt":"2026-07-07T10:22:34","slug":"cambrian-awards-wynnstay-tradebe","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-wynnstay-tradebe\/","title":{"rendered":"Prentisiaid rheoli dau gwmni yng Nghymru yn dathlu llwyddiant graddio"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-awards-wynnstay-tradebe\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20993\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Tradebe-e1783419113545.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20993\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Tradebe-e1783419113545.jpg\" alt=\"Tradebe graduates with Cambrian staff at the graduation\" width=\"460\" height=\"327\" class=\"size-full wp-image-20993\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20993\" class=\"wp-caption-text\">Graddedigion Rhys Phillips ac Emyr Bassett o Tradebe, Casnewydd, gyda Donna Heath, arweinydd y sector arwain a rheoli Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a Mark Hughes, rheolwr gweithrediadau, yn y seremoni raddio prentisiaeth.<\/p><\/div>\n<p>Mae pump o ddysgwyr sy\u2019n gweithio yn y sectorau trin gwastraff a gwasanaethau amaethyddol wedi graddio gyda Phrentisiaethau mewn Rheoli a ddarperir gan un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith y wlad. <\/p>\n<p>Rhys Phillips, uwch gemegydd ac Emyr Bassett, Rheolwr sifft, yw\u2019r gweithwyr cyntaf yng nghanolfan trin a throsglwyddo gwastraff Tradebe yng Nghasnewydd i gwblhau prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. <\/p>\n<p>Bethan Harris, Jessica Davies, a Ffion Dart hefyd yw\u2019r gweithwyr cyntaf yng nghwmni cynhyrchion a gwasanaethau amaethyddol, Wynnstay, yn Sir Gaerfyrddin i gyflawni eu prentisiaethau gyda\u2019r darparwr. <\/p>\n<p>Mae Jessica yn gweithio yn siop Pensarn y cwmni yng Nghaerfyrddin, ac mae Bethan bellach yn gweithio\u2019n rhan amser yn siop Cross Hands, ac mae Ffion wedi gadael y busnes ers hynny i weithio i gyfrifydd. <\/p>\n<p>Roedden nhw ymhlith mwy na 100 o raddedigion a fynychodd seremoni raddio prentisiaethau Cwmni Hyfforddiant Cambrian a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd. <\/p>\n<p>Yn rhan o fenter fyd-eang, mae Tradebe, Casnewydd, yn chwarae rhan allweddol yn yr economi gylchol trwy brosesu, ailgylchu a gwaredu gwastraff diwydiannol yn ddiogel. Mae\u2019r cwmni hefyd yn rheoli canolfan didoli a chasglu lle mae deunyddiau yn cael eu prosesu cyn cael eu hanfon i\u2019w hailgylchu, eu hadfer ynni, neu eu gwaredu\u2019n ddiogel. <\/p>\n<p><strong>Pwysleisiodd Sam Dawes, rheolwr datblygu talent ac ymgysylltu Tradebe Envrionmental Services UK, bod prentisiaethau yn rhan allweddol o raglen datblygu talent y cwmni. Mae mwy na 50 o gydweithwyr wedi cymryd rhan yn y rhaglen ledled y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  <\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae defnyddio cyllid prentisiaethau i gynnig cymwysterau achrededig allanol yn helpu cefnogi datblygiad proffesiynol ein timau, gan fwydo i mewn i\u2019n llif o dalent ar gyfer y dyfodol,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r dull prentisiaeth yn sicrhau bod cydweithwyr yn gallu dangos dysgu ar waith trwy gymhwyso yn y gweithle ac asesu ffurfiol. Mae mynediad at syniadau newydd trwy ein darparwyr hyfforddiant a staff sy\u2019n gweithio ar draws sefydliadau eraill, yn dod \u00e2 safbwyntiau newydd ac amrywiol i\u2019n busnes.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn falch o ddathlu graddio ein prentisiaid diweddaraf sy\u2019n gweithio yn ein timau yng Ngwent \u2013 mae\u2019n dyst i\u2019w gwaith caled a\u2019u hymrwymiad personol i ddatblygiad proffesiynol.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Donna Heath, arweinydd y sector arwain a rheoli:<\/strong> \u201cMae gweld dysgwyr o Tradebe yn cyflawni eu prentisiaethau rheoli yn dyst go iawn i\u2019w penderfyniad a\u2019u proffesiynoldeb. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhaglenni hyn yn gofyn am ymrwymiad, yn enwedig mewn amgylcheddau gweithredol prysur, ac mae pob un o\u2019r graddedigion hyn wedi dangos gwydnwch a thwf trawiadol. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn falch o gefnogi cyflogwyr sy\u2019n buddsoddi mewn datblygu eu pobl ac i weld y dysgwyr yn ennill y sgiliau a\u2019r hyder i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.\u201d<\/p>\n<div id=\"attachment_20992\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Wynnstay-Bethan-and-Ffion-scaled-e1783419190127.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20992\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Wynnstay-Bethan-and-Ffion-scaled-e1783419190127.jpg\" alt=\"Wynnstay graduates at the graduation ceremony.\" width=\"460\" height=\"371\" class=\"size-full wp-image-20992\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20992\" class=\"wp-caption-text\">Graddedigion o Wynnstay, Bethan Harris a Ffion Dart, yn y seremoni graddio prentisiaeth.<\/p><\/div>\n<p>Mae Wynnstay yn cynnig pecyn llawn o wasanaethau i gwsmeriaid, i ffermwyr yn arbennig, gan gymhwyso adrannau porthiant, amaethu \u00e2r a siopau gweledig.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r graddedigion, mae Katie Reynolds, sydd wedi\u2019i lleoli yn siop Cross Inn y cwmni, yn gweithio tuag at ei Phrentisiaeth mewn Rheoli, wrth i Olivia Elliot, swyddog gweithredol a chydlynydd swyddfa sydd wedi\u2019i lleoli yn y brif swyddfa yn Llansanffraid, yn gweithio tuag at ei Phrentisiaeth Sylfaen AAT.<\/p>\n<p><strong>Esboniodd Lowri Jones, swyddog recriwtio a hyfforddiant Wynnstay, bod prentisiaethau yn rhan allweddol o Strategaeth Genesis Wynnstay, dull hirdymor y cwmni i adeiladu dyfodol cryf, cynaliadwy ar gyfer y busnes. <\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau yn darparu llwybrau gwerthfawr ac ymarferol i ddatblygu talent, gan gyfuno profiad ymarferol gyda dysgu strwythuredig a chefnogi cryfder parhaol y sector amaethyddol.<\/p>\n<p>\u201cI\u2019r busnes, mae prentisiaethau yn ein helpu ni i ddatblygu gweithlu medrus wedi\u2019i alinio i\u2019n hanghenion sy\u2019n esblygu, cryfhau cynllunio olyniaeth a mynd i\u2019r afael \u00e2 bylchau sgiliau allweddol. Maen nhw\u2019n chwarae r\u00f4l bwysig wrth sicrhau bod gennym y galluoedd cywir yn y lle cywir i gyflawni ein strategaeth hirdymor.<\/p>\n<p>\u201cI\u2019n cydweithwyr, mae prentisiaethau yn cynnig y cyfle i adeiladu sgiliau, ennill cymwysterau cydnabyddedig a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd o fewn Wynnstay, wedi\u2019u cefnogi gan brofiad go iawn mewn amgylchedd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Datgelodd bod Wynnstay yn bwriadu parhau i ehangu ei gynnig prentisiaethau yn unol \u00e2 blaenoriaethau\u2019r busnes. Mae disgwyl i gyfleoedd yn y dyfodol i ganolbwyntio\u2019n arbennig ar ardaloedd megis cyllid, cymorth busnes, peirianneg a gweithgynhyrchu. <\/p>\n<p>Canmolodd Lowri Gwmni Hyfforddiant Cambrian am alinio dysgu gyda blaenoriaethau\u2019r busnes ac anghenion dysgwyr unigol fel ei gilydd. <\/p>\n<p>\u201cMae eu dull hyblyg yn sicrhau bod prentisiaid yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a\u2019u gwerthfawrogi, wrth alluogi hyfforddiant i gael ei deilwra i ddulliau dysgu a gofynion datblygu gwahanol,\u201d meddai. <\/p>\n<p>Canmolodd Jane Gammon, swyddog hyfforddi rheoli Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y tri graddedig Wynnstay am gyfuno eu prentisiaethau gyda gweithio mewn siopau prysur. <\/p>\n<p>\u201cMae Wynnstay yn dda iawn wrth wasanaethu\u2019r boblogaeth leol ac mae\u2019r siopau\u2019n brysur iawn,\u201d meddai. \u201cRoedd y tri phrentis wedi ymrwymo i gwblhau eu prentisiaethau er bod mor brysur yn y gwaith a gorfod addasu i amgylchiadau heriol, megis llifogydd mawr. Mae\u2019n gyflawniad gwirioneddol.\u201d<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae pump o ddysgwyr sy\u2019n gweithio yn y sectorau trin gwastraff a gwasanaethau amaethyddol wedi graddio gyda Phrentisiaethau mewn Rheoli a ddarperir gan un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith y wlad. Rhys Phillips, uwch gemegydd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-wynnstay-tradebe\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12623","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12623","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12623"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12623\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12625,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12623\/revisions\/12625"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12623"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12623"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12623"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}