{"id":12641,"date":"2026-07-13T14:01:05","date_gmt":"2026-07-13T13:01:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12641"},"modified":"2026-07-13T14:03:01","modified_gmt":"2026-07-13T13:03:01","slug":"cambrian-awards-mother-dauighter","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-mother-dauighter\/","title":{"rendered":"Mam a\u2019i merch yn graddio gyda\u2019i gilydd mewn seremoni prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-awards-mother-dauighter\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21017\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Cambrian-Kelly-Sinead-Davies-sml-e1783947381822.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21017\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Cambrian-Kelly-Sinead-Davies-sml-e1783947381822.jpg\" alt=\"Kelly and Sinead, standing together wearing their cap and gown.\" width=\"460\" height=\"323\" class=\"size-full wp-image-21017\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21017\" class=\"wp-caption-text\">Kelly a Sinead Davies yn y seremoni raddio.<\/p><\/div>\n<p>Mae mam a\u2019i march sy\u2019n gweithio a dysgu gyda\u2019i gilydd mewn tafarn a bwyty teuluol ger Abertawe wedi graddio ar \u00f4l cwblhau eu prentisiaethau rheoli. <\/p>\n<p>Roedd Kelly Davies, 42, a\u2019i merch Sinead, 21, rheolwr a rheolwr cynorthwyol, yn y drefn honno, o\u2019r Farmers Arms, Waunarlwydd, yn gallu cefnogi ei gilydd wrth weithio tuag at eu cymwysterau Lefel 3. <\/p>\n<p>Darparwyd y prentisiaethau gan Inspiro, partner i Gwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr dysgu seiliedig ar waith annibynnol blaenllaw i\u2019r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae gan y Farmers Arms, sy\u2019n arbenigo mewn bwyd cartref, d\u00eem o 15 staff llawn amser a rhan amser sy\u2019n cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth trwy brentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cYn 42 oed, doeddwn i erioed wedi disgwyl graddio ochr yn ochr \u00e2 fy merch hynaf sy\u2019n hanner fy oed,\u201d meddai Kelly, sydd wedi symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli. \u201cMae\u2019n gyflawniad gwych ac eiliad balch o\u2019m taith dysgu hyd yn hyn.<\/p>\n<p>\u201cPan ddechreuais y brentisiaeth, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i\u2019n gallu ei wneud wrth reoli\u2019r dafarn a bod yn rhiant i bump o blant, ond rydw i wedi mwynhau dysgu cymaint.\u201d<\/p>\n<p>Mae Kelly wedi gweithio yn y dafarn ers 11 mlynedd a chafodd ei dyrchafu i reolwr tair blynedd yn \u00f4l, a oedd yn ei hannog i chwilio am y sgiliau a\u2019r cymwysterau i gefnogi\u2019r r\u00f4l newydd.<br \/>\n\u201cMae\u2019r prentisiaethau wedi rhoi\u2019r sgiliau a\u2019r wybodaeth i mi sicrhau bod y dafarn yn cael ei rheoli\u2019n broffesiynol,\u201d esboniodd. \u201cRydw i wedi rhoi ar waith popeth rydw i wedi\u2019i ddysgu er budd y dafarn a\u2019r staff.\u201d<\/p>\n<p>Roedd hi\u2019n arbennig o falch o fod wedi ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn mathemateg, Saesneg a llythrennedd digidol fel rhan o\u2019r prentisiaethau, gyda chefnogaeth Sinead. <\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaeth yn un o\u2019r pethau gorau y gallwch chi ei wneud, ni waeth eich oedran neu eich swydd,\u201d ychwanegodd Kelly. \u201cDoeddwn i ddim yn meddwl y byddai\u2019n bosibl gan rywun fy oed ond mae\u2019n 100% yn werth chweil, yn enwedig os nad ydych chi wedi mynychu\u2019r coleg neu\u2019r brifysgol. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n dysgu cymaint mwy nawr nag y gwnes i yn yr ysgol ac rwy\u2019n mynd i barhau oherwydd mae\u2019r dafarn yn elwa cymaint o&#8217;r hyn rydw i&#8217;n ei ddysgu.\u201d<\/p>\n<p>Gadawodd Sinead, a oedd yn wreiddiol yn breuddwydio am ddod yn fydwraig, y brifysgol i ddod o hyd i swydd llawn amser gyda\u2019i mam ac mae hi\u2019n difaru dim.<\/p>\n<p>\u201cYn ystod y brentisiaeth, dysgais fod llawer mwy i\u2019m r\u00f4l nag yr oeddwn i\u2019n meddwl,\u201d meddai. \u201cRoeddwn i\u2019n fwyaf balch o ddysgu ochr yn ochr \u00e2 fy mam sydd wedi bod yn gefnogol trwy\u2019r broses. <\/p>\n<p>\u201cRydw i wedi cymryd seibiant o ddysgu ond rwy\u2019n bwriadu dechrau Lefel 4 ym mis Awst i\u2019m helpu datblygu fy ngyrfa.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Marika Dunphy, aseswr Inpsiro: \u201cNid wyf erioed wedi gweld dysgwr mor benderfynol a threfnus \u00e2 Kelly. Mae hi\u2019n cymhwyso popeth y mae\u2019n ei ddysgu i\u2019r dafarn ac yn gofalu am ei staff sy\u2019n ei thrin fel mam.<\/p>\n<p>\u201cMae Sinead yn hunanfeddiannol, yn drefnus, yn wybodus, ac mae pob amser yn gwneud llawer o ymchwil cyn cwblhau ei gwaith cwrs. Mae hi a\u2019i mam yn gweithio gyda\u2019i gilydd yn dda iawn fel t\u00eem ac yn gwybod y gallent ddibynnu ar ei gilydd.\u201d<br \/>\nRoedd Kelly a Sinead ymhlith mwy na 100 o raddedigion a fynychodd seremoni raddio prentisiaeth chwe-misol Cwmni Hyfforddiant Cambrian. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Faes Sioe Frenhinol, Llanelwedd. <\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae mam a\u2019i march sy\u2019n gweithio a dysgu gyda\u2019i gilydd mewn tafarn a bwyty teuluol ger Abertawe wedi graddio ar \u00f4l cwblhau eu prentisiaethau rheoli. Roedd Kelly Davies, 42, a\u2019i merch Sinead, 21, rheolwr a rheolwr cynorthwyol, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-awards-mother-dauighter\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12641","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12641","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12641"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12641\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12644,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12641\/revisions\/12644"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12641"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12641"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12641"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}