{"id":12648,"date":"2026-07-23T23:00:30","date_gmt":"2026-07-23T22:00:30","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12648"},"modified":"2026-07-21T23:35:45","modified_gmt":"2026-07-21T22:35:45","slug":"apprenticeships-neets-challenge","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-neets-challenge\/","title":{"rendered":"Rhaid rhoi Prentisiaethau wrth Galon Ymateb Cymru i Her Pobl Ifanc NEET"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeships-neets-challenge\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20950\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/11.02.26-mh-Apprenticeship-Fair-Senedd-12-scaled-e1782723152389.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20950\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/11.02.26-mh-Apprenticeship-Fair-Senedd-12-scaled-e1782723152389.jpg\" alt=\"NTFW Strategic Director Lisa Mytton head and shoulder image\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-20950\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20950\" class=\"wp-caption-text\">NTFW Cyfarwyddwr Strategol Lisa Mytton<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r Dirprwy Weinidog newydd dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer adolygiad, dan arweiniad busnes, o system sgiliau Cymru.  Rydym yn croesawu ei fwriad amserol i greu system fwy ymatebol, a seilir ar ddata ac sy&#8217;n sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn cyfateb i anghenion cyflogwyr. <\/p>\n<p>Mae Cymru&#8217;n wynebu cryn her.  Dywed cyflogwyr mewn nifer o sectorau ei bod yn dal yn anodd recriwtio pobl \u00e2&#8217;r sgiliau angenrheidiol er bod gormod o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).  Yn \u00f4l ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd 11.6% o\u2019r bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn cael eu cyfrif yn NEET yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024. <\/p>\n<p>O safbwynt NTFW, ni ddylid ystyried y materion hyn fel dau beth ar wah\u00e2n.  Mae prinder sgiliau ac ymddieithriad pobl ifanc yn ddwy ochr i&#8217;r un geiniog.  Os yw Cymru o ddifrif yngl\u0177n \u00e2 thyfu&#8217;r economi, cynyddu cynhyrchiant a chreu cyfleoedd i bobl ifanc, rhaid rhoi lle canolog i brentisiaethau.  <\/p>\n<p>Yn briodol iawn, mae&#8217;r Dirprwy Weinidog wedi tanlinellu pwysigrwydd rhoi busnes a diwydiant wrth galon yr Archwiliad Sgiliau ac Uwchgynhadledd Sgiliau&#8217;r Dyfodol sydd ar ddod.  Mae cyflogwyr yn y rheng flaen wrth wynebu newidiadau economaidd.  Maent yn deall ble mae bylchau sgiliau ar hyn o bryd a ble mae cyfleoedd yn debygol o godi yn y dyfodol.  <\/p>\n<p>Drwy roi llais cryfach i fusnesau wrth lunio&#8217;r ddarpariaeth o ran sgiliau, mae cyfle i Gymru greu system sy&#8217;n cyfateb yn well i&#8217;r galw yn y farchnad lafur.<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau\u2019n un o\u2019r ffyrdd mwyaf effeithiol o droi\u2019r mewnwelediad hwnnw gan gyflogwyr yn gyfleoedd gwirioneddol.  Wrth alluogi unigolion i ddatblygu\u2019r sgiliau ymarferol a\u2019r profiad y mae ar fusnesau eu hangen, maent yn cynnig llwybr uniongyrchol i gyflogaeth.  <\/p>\n<p>Yn wahanol i lawer o lwybrau traddodiadol, mae prentisiaethau\u2019n cyfuno cyflogaeth a dysgu, gan eu gwneud yn arbennig o ddeniadol i bobl ifanc nad ydynt o&#8217;r farn mai parhau ar y trywydd academaidd yw&#8217;r opsiwn cywir iddyn nhw. <\/p>\n<p>Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried yr her sy&#8217;n codi pan fydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg neu gyflogaeth.  Fel y pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog, cafodd pandemig Covid effaith hirdymor ar hyder, gwydnwch a llesiant meddyliol pobl ifanc. <\/p>\n<p>I lawer, mae ailgysylltu ar \u00f4l ymddieithrio\u2019n gofyn am fwy na dim ond cynnig cwrs hyfforddi.  Mae angen llwybrau clir, amgylcheddau cefnogol a chyfleoedd sydd \u00e2 chysylltiad gweladwy \u00e2 gyrfaoedd ystyrlon. <\/p>\n<p>Gall prentisiaethau gynnig yr union beth hwnnw.  Maent yn cynnig cefnogaeth strwythuredig, mentora yn y gweithle a&#8217;r cyfle i feithrin hyder trwy gyflogaeth go iawn.  Maent yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i bobl ifanc ac yn eu helpu i ddatblygu&#8217;r sgiliau, y mathau o ymddygiad a&#8217;r profiad angenrheidiol i lwyddo yn y gweithle. <\/p>\n<p>Maent hefyd yn cynnig mecanwaith ar gyfer sicrhau bod pobl Cymru&#8217;n gallu elwa o fuddsoddiad yn y sectorau y disgwylir iddynt yrru twf economaidd yn y dyfodol.  Mae&#8217;r Dirprwy Weinidog wedi nodi bod meysydd fel ynni gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch, iechyd a gofal cymdeithasol, a&#8217;r sector niwclear yn debygol o fod yn ddiwydiannau twf. <\/p>\n<p>Bydd rhaid datblygu llwybrau prentisiaethau i&#8217;r sectorau hyn cyn y gall Cymru feithrin y ffrydiau talent angenrheidiol er mwyn ehangu yn y dyfodol. <\/p>\n<p>Mae&#8217;n bwysig nodi na ddylid ystyried prentisiaethau fel dewis ar gyfer pobl ifanc sy&#8217;n gadael yr ysgol yn unig.  Mae ganddynt ran hanfodol hefyd yn y gwaith o uwchsgilio ac ailsgilio&#8217;r gweithlu presennol, cefnogi dilyniant o ran gyrfa a helpu cyflogwyr i addasu i dechnolegau sy&#8217;n newid ac anghenion byd busnes.  Felly, mae prentisiaethau\u2019n cyfrannu nid yn unig at gyflogadwyedd, ond hefyd at gynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd economaidd. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r Archwiliad Sgiliau sydd ar y gweill yn gyfle i edrych o&#8217;r newydd ar y ffordd mae Cymru&#8217;n datblygu&#8217;r gweithlu angenrheidiol at y dyfodol.  Er mwyn llwyddo, rhaid iddi sicrhau bod cyflogwyr yn dal wrth galon y broses benderfynu a bod rhaglenni prentisiaethau&#8217;n cael eu cydnabod fel ffordd allweddol o gyflawni ei huchelgeisiau.<\/p>\n<p>Mae gan Gymru gyfle da i fynd i&#8217;r afael \u00e2 phrinder sgiliau ac i ostwng nifer y bobl ifanc NEET ar yr un pryd.  Drwy gryfhau rhaglenni prentisiaethau dan arweiniad cyflogwyr a sicrhau eu bod yn cyfateb i sectorau twf y dyfodol, gallwn greu llwybrau cliriach i gyflogaeth, cefnogi twf busnesau a datgloi potensial cenhedlaeth o bobl ifanc sydd \u00e2 llawer i&#8217;w gyfrannu at economi Cymru. <\/p>\n<p>I Gymru, mae prentisiaethau&#8217;n fwy na dim ond rhaglen hyfforddi.  Maent yn fuddsoddiad mewn pobl, busnesau a ffyniant y wlad yn y dyfodol. <\/p>\n<p><strong>Gan Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW)<\/strong><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r Dirprwy Weinidog newydd dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer adolygiad, dan arweiniad busnes, o system sgiliau Cymru. Rydym yn croesawu ei fwriad amserol i greu system fwy ymatebol, a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apprenticeships-neets-challenge\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12648","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12648","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12648"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12648\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12662,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12648\/revisions\/12662"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12648"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12648"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12648"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}