{"id":12653,"date":"2026-08-24T06:00:08","date_gmt":"2026-08-24T05:00:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12653"},"modified":"2026-08-20T10:57:55","modified_gmt":"2026-08-20T09:57:55","slug":"act-lowering-neets","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-lowering-neets\/","title":{"rendered":"Os yw profiad gwaith yn allweddol i ostwng lefelau NEET, beth all cyflogwyr ei wneud i helpu?"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-lowering-NEETs\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21035\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Helena-Williams-edit-sml-crop-e1784304757249.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21035\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Helena-Williams-edit-sml-crop-e1784304757249.jpg\" alt=\"Profile image of Helena Williams\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-21035\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21035\" class=\"wp-caption-text\">Helena Williams, Cyfarwyddwr Recriwtio Dysgwyr ac Ymrwymiad Cyflogwyr<\/p><\/div>\n<p>Mae mwy na miliwn o bobl ifanc ledled y DU ar hyn o bryd yn NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Ar ben hyn, mae bron i hanner pobl ifanc Prydain yn parhau i fod yn ansicr am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. <\/p>\n<p>Yn sgil Adolygiad Milburn, mae&#8217;r ystadegau hyn wedi siglo&#8217;r cyhoedd yn gyffredinol, fodd bynnag i&#8217;r rhai sy&#8217;n gweithio yn y sector hyfforddiant ac addysg nid yw&#8217;n ddim byd newydd nac yn syndod. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r trawsnewidiad rhwng addysg a gwaith wedi parhau i fod yn bwnc llosg ers blynyddoedd bellach, gyda llawer yn dweud y dylai&#8217;r sgiliau rydyn ni&#8217;n eu dysgu yn yr ysgol alinio&#8217;n well \u00e2&#8217;r rhai sydd eu hangen yn y gweithle. Adleisiodd adolygiad diweddar Alan Milburn hyn, gan rybuddio bod y DU mewn perygl o greu &#8216;cenhedlaeth goll&#8217; os na fyddwn yn cryfhau&#8217;r trawsnewidiad hwn. Yn gryno, mae gormod o bobl ifanc yn gadael addysg heb yr hyder a&#8217;r profiad y mae gwaith yn ei ddarparu. <\/p>\n<p>Mewn ymateb i hyn, cyhoeddodd Addysg a Chyflogwyr ei adroddiad <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.educationandemployers.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/WorkEx-report_June2026_FINAL.pdf\">Profiad Gwaith: Gorffennol, Presennol a Dyfodol<\/a>, gan dynnu sylw at y ffaith bod pobl ifanc sydd \u00e2 lefelau uchel o ymgysylltiad \u00e2 chyflogwyr tra&#8217;n dal mewn addysg yn 80 y cant yn llai tebygol o ddod yn NEET na&#8217;r rhai sydd \u00e2&#8217;r amlygiad lleiaf.   <\/p>\n<p>Canfu&#8217;r adroddiad hefyd fod pedair o bob pum ysgol yn dal i ddisgwyl i ddisgyblion drefnu eu lleoliadau profiad gwaith eu hunain, sy&#8217;n golygu bod cyfleoedd yn aml yn cael eu pennu gan gysylltiadau teuluol yn hytrach na gallu neu ysfa unigol. Mae hyn yn gwbl annheg ac eto mae&#8217;n parhau i fod yn norm. Er mwyn i newid go iawn ddigwydd, ac er mwyn i symudedd cymdeithasol wella, rhaid i fynediad i ddysgu yn y gweithle fod yn hygyrch i bawb waeth beth fo&#8217;u cod post neu gysylltiadau personol. <\/p>\n<p>Hyd yn oed os nad yw dysgwr yn si\u0175r o&#8217;r llwybr gyrfa y byddant yn cychwyn arno yn y pen draw, mae treulio amser yn y gweithle yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i bobl ifanc ar wahanol yrfaoedd tra&#8217;n eu helpu i ddatblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a dealltwriaeth o ddisgwyliadau proffesiynol. <\/p>\n<p>Er bod profiad gwaith wythnos neu bythefnos o hyd yn flas buddiol, dim ond ychydig gall ei gyflawni. Daw cyfleoedd sy&#8217;n newid bywydau pan fydd lleoliadau gwaith yn dod yn rhan o daith ehangach i gyflogaeth. <\/p>\n<p>Dyna lle mae dysgu seiliedig ar waith yn camu mewn i chwarae r\u00f4l bwysig. <\/p>\n<p>Yn ACT, rydym yn gweld y manteision sydd gan ddysgu seiliedig ar waith, nid yn unig ar unigolion, ond ar fusnesau ac economi ehangach Cymru. P&#8217;un a yw dysgwr yn archwilio ei yrfa gyntaf, yn ailadeiladu hyder neu&#8217;n datblygu sgiliau ar gyfer diwydiant penodol, mae profiad ymarferol ynghyd \u00e2 dysgu traddodiadol yn creu cyfleoedd nad yw ystafelloedd dosbarth yn unig bob amser yn gallu eu darparu. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r sgwrs ynghylch cyflogaeth ieuenctid yn aml yn canolbwyntio ar ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant, ond mae gan gyflogwyr r\u00f4l yr un mor bwysig i&#8217;w chwarae.<br \/>\nLedled Cymru, mae prinder sgiliau yn parhau i effeithio ar fusnesau o bob maint, gan roi pwysau ar gynhyrchiant, twf a lles y gweithlu. Yr ateb i hyn yw buddsoddi mewn talent ifanc a datblygu gweithlu ar gyfer y dyfodol. <\/p>\n<p>Dyna pam greodd ACT yr Addewid Cyflogwr, gan helpu busnesau ledled Cymru i gynnig lleoliadau ystyrlon i bobl ifanc ar ei raglen Twf Swyddi Cymru+. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r addewid yn tynnu llawer o&#8217;r rhwystrau gall atal cyflogwyr rhag cynnig lleoliadau. Mae busnesau&#8217;n derbyn cymorth drwy gydol y broses ac mae dysgwyr yn cael eu talu drwy&#8217;r rhaglen. Mae hyn yn golygu gall cyflogwyr ganolbwyntio ar ddatblygu hyder person ifanc a&#8217;r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo; eu helpu i ddod yn aelod gwerthfawr o&#8217;u t\u00eem. <\/p>\n<p>Mae effaith y partneriaethau hyn eisoes i&#8217;w gweld ledled Cymru. Ers ei lansio yn hydref y llynedd, mae mwy nag 80 o gyflogwyr wedi llofnodi&#8217;r addewid, gan gynnig gwaith i dalent newydd na fyddai wedi cael y cyfle fel arall. <\/p>\n<p>Roedd Sarah Bruton, Rheolwr Gyfarwyddwr Captiva Spa yng Nghaerffili, ymhlith y cyflogwyr cyntaf i gydweithio ag ACT a chynnig lleoliadau yn ei sefydliad. <\/p>\n<p>&#8220;Yn hytrach na chwyno am y bwlch [sgiliau], roedden ni&#8217;n meddwl &#8216;beth am fod yn rhan o&#8217;r ateb?'&#8221; meddai ar y pryd. &#8220;Rydyn ni wedi gweld dysgwyr yn tyfu&#8217;n aruthrol mewn ychydig fisoedd. Mae eu cyfathrebu yn gwella, eu hyder yn tyfu, ac maen nhw&#8217;n dod yn asedau gwirioneddol i&#8217;r busnes.&#8221; <\/p>\n<p>Yn ACT, mae ein cynghorwyr yn gweithio&#8217;n agos gyda dysgwyr a chyflogwyr ym mhob lleoliad, gan sicrhau bod busnesau&#8217;n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth helpu pobl ifanc i fuddio gymaint \u00e2 phosibl o&#8217;r profiad. I lawer o ddysgwyr, mae&#8217;r lleoliadau hyn yn dod yn gam cyntaf tuag at brentisiaethau, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth barhaol. <\/p>\n<p>Fel mae&#8217;r adroddiad yn tynnu sylw ato, mae ymgysylltiad cynnar \u00e2 chyflogwyr yn gwella hyder, yn ehangu dyheadau ac yn lleihau&#8217;r tebygolrwydd bydd pobl ifanc yn cael eu datgysylltu o addysg neu gyflogaeth yn sylweddol. Ond os ydym o ddifrif am leihau nifer y bobl ifanc sy&#8217;n dod yn NEET, mae angen partneriaethau cryfach rhwng addysg, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Dylai profiad gwaith fod yn rhan o daith ehangach i waith, gan roi cyfle i berson ifanc ddatblygu&#8217;r sgiliau, y profiad a&#8217;r hyder sydd eu hangen i adeiladu gyrfa lwyddiannus. <\/p>\n<p>Trwy agor eu drysau i bobl ifanc, mae cyflogwyr yn cynnig llawer mwy na lleoliad gwaith yn unig. Maent hefyd yn buddsoddi mewn talent y dyfodol, yn cryfhau eu gweithlu eu hunain ac yn helpu i adeiladu dyfodol mwy medrus i Gymru. <\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am yr Addewid Cyflogwr a chynnig cyfle i ddysgu, gallwch ymweld \u00e2 <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/what-we-offer\/jobs-growth-wales-new-28373\/employer-information-jobs-growth-wales\/\">thudalen Cyflogwr ACT yma<\/a>.  <\/p>\n<p><strong>Gan Cyfarwyddwr Recriwtio Dysgwyr ac Ymrwymiad Cyflogwyr Helena Williams<\/strong><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae mwy na miliwn o bobl ifanc ledled y DU ar hyn o bryd yn NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Ar ben hyn, mae bron i hanner pobl ifanc Prydain yn parhau i fod yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-lowering-neets\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12653","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12653","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12653"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12653\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12659,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12653\/revisions\/12659"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12653"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12653"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12653"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}