{"id":12660,"date":"2026-07-21T06:00:34","date_gmt":"2026-07-21T05:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12660"},"modified":"2026-07-20T17:33:20","modified_gmt":"2026-07-20T16:33:20","slug":"worldskills-uk-act-itec","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskills-uk-act-itec\/","title":{"rendered":"Hanner dwsin da\u2019n cynrychioli darparwyr hyfforddiant Cymru yn WorldSkills UK"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/worldskills-uk-act-itec\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21043\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Melissa-Summers_Itec-edit-e1784563106817.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21043\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Melissa-Summers_Itec-edit-e1784563106817.jpg\" alt=\"Melissa Summers\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-21043\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21043\" class=\"wp-caption-text\">Melissa Summers, Itec &#8211; Rownd Derfynol Sgiliau Sylfaenol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.<\/p><\/div>\n<p>Dewiswyd chwe dysgwr a hyfforddir gan ddarparwyr hyfforddiant annibynnol yng Nghymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth WorldSkills UK eleni. <\/p>\n<p>Yn dilyn sawl rownd ragbrofol, bydd 406 o ymgeiswyr yn brwydro yn y rowndiau terfynol yn nes ymlaen eleni i fod yn bencampwyr y Deyrnas Unedig mewn dwsinau o feysydd gwaith. Cawsant eu dewis o blith 1,800 o bobl ifanc a fu&#8217;n cystadlu yn y rowndiau rhagbrofol ledled y DU. <\/p>\n<p>Bydd 122 o ymgeiswyr yn cynrychioli Cymru yn y rownd derfynol, yn cynnwys Maddison Groves a Mike Francis o ACT Training yn rownd derfynol y technegwyr cyfrifyddu. <\/p>\n<p><strong>Meddai Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus yn ACT:<\/strong> \u201cRydyn ni\u2019n eithriadol o falch o Maddison a Mike am gyrraedd rowndiau terfynol WorldSkills UK. Mae hyn yn dipyn o gamp ac mae&#8217;n dangos eu bod nhw wedi gweithio&#8217;n galed iawn ac wedi cael cefnogaeth dda gan eu cydweithwyr. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw, ac edrychwn ymlaen at eu hannog a&#8217;u cefnogi yng Nghaerdydd.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Neachia Wilson, Vanesa Grunzova a Rory-Lee Sexton o Itec Skills and Employment yn rownd derfynol Sgiliau Sylfaen: Menter, a Melissa Summers yn rownd derfynol Sgiliau Sylfaen: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n deimlad mor gyffrous bod dysgwyr Itec wedi cyrraedd rownd derfynol Sgiliau Sylfaen: Menter,\u201d <strong>meddai Matthew Morgan, tiwtor ieuenctid yn Itec Training Solutions, a fydd yn mynd gyda\u2019r dysgwyr i\u2019r cystadlaethau.<\/strong> <\/p>\n<p> \u201cMaen nhw wedi dod i&#8217;r brig mewn dwy rownd heriol yn barod, gan gymryd cam mawr y tu hwnt i\u2019w man cysurus. Roedd yn hynod braf gwylio&#8217;u hyder yn cynyddu drwy gydol y gystadleuaeth ac rwy\u2019n falch o\u2019r hyn maen nhw wedi&#8217;i gyflawni.\u201d<\/p>\n<p><strong>Cafodd y 112 o bobl ifanc dalentog a fydd yn chwifio\u2019r faner dros Gymru yn y rowndiau terfynol eu llongyfarch gan gyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Lisa Mytton. <\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n wych gweld cynrychiolaeth mor gryf gan golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae eu partneriaeth \u00e2 chyflogwyr yn hollbwysig er mwyn datblygu sgiliau ar gyfer y byd go iawn,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cTrwy gysylltiadau cryf ein darparwyr \u00e2 chyflogwyr, mae dysgwyr yn cael profiad gwerthfawr o fyd gwaith ochr yn ochr \u00e2 hyfforddiant technegol, gan eu helpu i feithrin y sgiliau a\u2019r hyder angenrheidiol i lwyddo mewn diwydiant.<\/p>\n<p>\u201cRoedd 30 o bobl ifanc sydd dan hyfforddiant gan aelodau NTFW, sef y nifer uchaf erioed, yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni ac mae chwech ohonynt wedi ennill eu lle yn rowndiau terfynol y DU. Mae hynny\u2019n galonogol iawn. Llongyfarchiadau iddyn nhw. <\/p>\n<p>\u201cMae eu llwyddiant yn arwydd o ragoriaeth ein rhwydwaith darparwyr hyfforddiant yma yng Nghymru a gobeithio y bydd hyn yn annog hyd yn oed ragor o\u2019n dysgwyr talentog i gystadlu a meincnodi eu sgiliau yng nghystadlaethau\u2019r flwyddyn nesaf.\u201d<\/p>\n<p><strong>Roedd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect gydag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn llawn anogaeth i\u2019r dysgwyr a\u2019u darparwyr hyfforddiant. <\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n wych gweld cynifer o ddysgwyr o\u2019n rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yn ennill lle yn rowndiau terfynol WorldSkills UK,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae ein perthynas \u00e2\u2019r darparwyr hyfforddiant hyn yn allweddol ac mae&#8217;r ffaith bod eu cystadleuwyr wedi cyrraedd y rowndiau terfynol yn arwydd o safon eithriadol hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru. <\/p>\n<p>\u201cDrwy wthio dysgwyr allan o&#8217;u man cysurus, mae\u2019r cystadlaethau hyn yn codi safonau ac yn rhoi\u2019r union beth y mae ar gyflogwyr ei angen: sef talent o\u2019r radd flaenaf a sgiliau technegol gwych.\u201d <\/p>\n<p>Yn ogystal ag ennill medalau aur, arian ac efydd mewn 44 o gystadlaethau, bydd cyfle i bencampwyr y rowndiau terfynol gynrychioli\u2019r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth sgiliau fyd-eang 2028 yn Japan. <\/p>\n<p>Cynhelir rowndiau terfynol y DU mewn colegau a phrifysgolion ledled de Cymru ar 18\u201320 Tachwedd. Dyma fydd y tro olaf y cynhelir cystadleuaeth WorldSkills UK yn y rhanbarth.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dewiswyd chwe dysgwr a hyfforddir gan ddarparwyr hyfforddiant annibynnol yng Nghymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth WorldSkills UK eleni. Yn dilyn sawl rownd ragbrofol, bydd 406 o ymgeiswyr yn brwydro yn y rowndiau terfynol yn nes ymlaen &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskills-uk-act-itec\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11,18],"tags":[],"class_list":["post-12660","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12660","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12660"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12660\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12668,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12660\/revisions\/12668"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12660"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12660"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12660"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}