{"id":12670,"date":"2026-08-04T06:00:51","date_gmt":"2026-08-04T05:00:51","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12670"},"modified":"2026-08-03T11:25:41","modified_gmt":"2026-08-03T10:25:41","slug":"act-als-merger","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-als-merger\/","title":{"rendered":"ACT ac ALS yn uno i gryfhau&#8217;r darpariaethau hyfforddiant seiliedig ar waith yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-als-merger\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21050\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/12.09.24-ACT-Strategy-Day-177-sml-e1785752399427.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21050\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/12.09.24-ACT-Strategy-Day-177-sml-e1785752399427.jpg\" alt=\"ACT Staff at a previous event, standing in a group.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-21050\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21050\" class=\"wp-caption-text\">Gweithwyr ACT mewn digwyddiad blaenorol<\/p><\/div>\n<p>Mae darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, ACT, wedi uno \u00e2&#8217;i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT. Bydd y symudiad yn cryfhau cymorth a darpariaeth i gyflogwyr, dysgwyr a chymunedau ledled Cymru. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r uno yn nodi&#8217;r bennod nesaf, gan adeiladu ar dros 20 mlynedd o gydweithio rhwng y ddau sefydliad. Trwy gyfuno eu harbenigedd, bydd ACT yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau i gyflogwyr sy&#8217;n cwmpasu cyflogadwyedd, sgiliau a datblygu&#8217;r gweithlu. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, fod y penderfyniad wedi&#8217;i yrru gan angerdd a rennir i ddarparu dysgu o ansawdd uchel ac i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod yn gryf yn y dyfodol. <\/strong><\/p>\n<p>&#8220;Roedden ni&#8217;n gwybod o&#8217;n gwaith agos iawn gydag ALS eu bod yn rhannu ein gwerthoedd. Maen nhw bron yn adlewyrchiad o ACT mewn sawl ffordd,&#8221; meddai. &#8220;Mae gan y ddau sefydliad angerdd llwyr i ddarparu&#8217;r gwasanaethau o&#8217;r ansawdd gorau i ddysgwyr a chyflogwyr. Ein prif ffocws bob amser yw ansawdd a phobl. <\/p>\n<p>&#8220;Yr her fwyaf rydyn ni&#8217;n ei wynebu ar hyn o bryd yw ansicrwydd oherwydd newidiadau allanol. Meddylion ni, gad i ni fynd o flaen hynny, uno&#8217;r sefydliadau nawr a byddwn mewn sefyllfa gwell i rannu arfer gorau, cryfhau&#8217;r sefydliad a bod yn barod ar gyfer y dyfodol.&#8221; <\/p>\n<p>Wedi&#8217;i sefydlu 25 mlynedd yn \u00f4l, adeiladodd ALS ei enw da ar ddarparu datrysiadau dysgu pwrpasol mewn partneriaeth \u00e2 chyflogwyr yn hytrach na chymryd darparu ynyr un ffordd i bawb. <\/p>\n<p><strong>Esboniodd Helena Williams, Cyfarwyddwr ALS a bellach Cyfarwyddwr Recriwtio Dysgwyr ac Ymgysylltu \u00e2 Chyflogwyr yn ACT:<\/strong><br \/>\n&#8220;Roedd yn ymwneud yn fawr \u00e2 darparu dysgu mewn partneriaeth \u00e2 sefydliadau sy&#8217;n darparu atebion pwrpasol sy&#8217;n arwain at fanteision sylweddol &#8211; mae&#8217;n gwneud hyfforddiant gyda nhw.&#8221; <\/p>\n<p>Disgrifiodd Helena yr uno fel &#8216;y cam naturiol nesaf\u2019. <\/p>\n<p>&#8220;Roedd yn teimlo&#8217;n iawn,&#8221; meddai. &#8220;Roedden ni&#8217;n gallu gweld nad oedd bod ar wah\u00e2n o fudd i&#8217;n cleientiaid mwyach. Mae dod \u00e2&#8217;r holl arbenigedd at ei gilydd yn golygu gallwn ddarparu gwasanaeth cydgysylltiedig llawer gwell i&#8217;n cyflogwyr a&#8217;n dysgwyr.&#8221; <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Sarah John, Cyfarwyddwr ALS a bellach Cyfarwyddwr Strategaeth a Thrawsnewid ACT, fod yr uno yn creu cyfleoedd newydd tra&#8217;n cadw&#8217;r gwerthoedd sydd wedi bod yn sail i ALS am y chwarter canrif diwethaf. <\/strong><\/p>\n<p>&#8220;Rydyn ni&#8217;n ei weld fel cyfle gwych i ddod \u00e2&#8217;r holl dalent sydd gennym ar draws y ddau sefydliad ynghyd a sianelu hynny&#8217;n fwy strategol i&#8217;n darpariaeth, gan gynnwys deall sut gallwn adeiladu darpariaeth i ymateb i&#8217;r datblygiadau digidol sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg yn y gweithle,&#8221; meddai. <\/p>\n<p>Er y gall hyn ymddangos fel newid mawr i&#8217;r sefydliadau, bydd dysgwyr presennol a phartneriaid cyflogwyr yn parhau i weithio gyda&#8217;r un timau, gyda thrawsnewidiad graddol wedi&#8217;i gynllunio i leihau aflonyddwch. <\/p>\n<p><strong>Wrth edrych ymlaen, dywedodd Richard:<\/strong> &#8220;Mae gennym llwyth o dalent ar draws y sefydliad. Dod \u00e2 hynny at ei gilydd, defnyddio technoleg newydd a pharhau i wella bywydau trwy ddysgu \u2013 ar ddiwedd y dydd, dyna beth rydyn ni&#8217;n ei wneud.&#8221;<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, ACT, wedi uno \u00e2&#8217;i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT. Bydd y symudiad yn cryfhau cymorth a darpariaeth i gyflogwyr, dysgwyr a chymunedau ledled Cymru. Mae&#8217;r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-als-merger\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12670","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12670","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12670"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12670\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12671,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12670\/revisions\/12671"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12670"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12670"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12670"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}