{"id":12672,"date":"2026-09-07T06:00:26","date_gmt":"2026-09-07T05:00:26","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12672"},"modified":"2026-08-20T11:26:31","modified_gmt":"2026-08-20T10:26:31","slug":"cambrian-hospitality-sector-long-term-investment","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-hospitality-sector-long-term-investment\/","title":{"rendered":"Mae Angen Buddsoddiad Hirdymor ar Sector Lletygarwch  Cymru, Nid Hwb Haf yn Unig"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/Cambrian-hospitality-sector-long-term-investment\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21069\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Photo-of-pub-garden-sml--e1787047732216.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21069\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Photo-of-pub-garden-sml--e1787047732216.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-21069\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21069\" class=\"wp-caption-text\">Cwsmeriaid yn mwynhau pryd o fwyd yng ngardd tafarn yng Nghymru, golygfa sy&#8217;n cael ei hailadrodd ledled Cymru yn ystod y tymor masnachu gwyliau hollbwysig.<\/p><\/div>\n<p>Pob haf, mae busnesau lletygarwch ledled Cymru yn edrych tuag at wyliau\u2019r ysgol gyda chymysgedd o ddisgwyliad a gobaith. I lawer o fwytai, caffis, tafarndai, gwestai ac atyniadau ymwelwyr, mae Gorffennaf ac Awst yn fisoedd masnachu prysur. Maent hefyd yn gyfnod a all benderfynu llwyddiant y flwyddyn gyfan.<\/p>\n<p>O fynyddoedd Eryri i strydoedd Caerdydd, ac o arfordir Sir Benfro i ffiniau Cymru, mae busnesau\u2019n dibynnu ar niferoedd mawr o ymwelwyr i gynhyrchu\u2019r refeniw sy\u2019n helpu i\u2019w cynnal trwy gyfnodau tawelach. Mae haf llwyddiannus yn cefnogi swyddi, rhoi hwb i hyder ac yn creu cyfleoedd i fuddsoddi. Gall tymor gwael rhoi pwysau sylweddol ar fusnesau sydd eisoes yn wynebu costau cynyddol.<\/p>\n<p>Lletygarwch yw un o gryfderau economaidd mwyaf Cymru, gan gefnogi mwy na 165,000 o swyddi ac yn cyfrannu biliynau o bunnoedd i\u2019r economi. Eto mae ei werth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i\u2019r economi. <\/p>\n<p>Mae\u2019r sector wrth wraidd cymunedau ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae busnesau lletygarwch yn aml yn gyflogwyr mawr. Maent yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol, yn denu ymwelwyr ac yn creu cyfleoedd i bobl leol. <\/p>\n<p>Mae lletygarwch hefyd wedi darparu un o\u2019r llwybrau mwyaf hygyrch i gyflogaeth. Mae llawer o bobl yn cael eu profiad cyntaf o\u2019r gweithle mewn gwesty, bwyty, caffi, neu atyniad ymwelwyr, gan ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu, gwaith t\u00eem, gwydnwch, datrys problemau a gwasanaeth cwsmeriaid. <\/p>\n<p>Mae\u2019r rhain yn rhinweddau y mae cyflogwyr yn dweud wrth Bartneriaethau Sgiliau a Dysgu Rhanbarthol eu bod yn eu gwerthfawrogi fwyaf, ochr yn ochr ag agwedd gadarnhaol a phrofiad ymarferol yn y gweithle. Nhw hefyd yw\u2019r sylfeini y mae gyrfaoedd llwyddiannus yn cael eu hadeiladu arnynt. <\/p>\n<p>Yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, rydym wedi treulio mwy na 30 mlynedd yn cefnogi dysgu seiliedig ar waith a helpu busnesau lletygarwch i ddatblygu gweithwyr dawnus. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi darparu mwy na 20,000 o raglenni prentisiaethau ac wedi gweithio gyda mwy na 4,500 o gyflogwyr ledled Cymru. <\/p>\n<p>Pob dydd rydyn ni\u2019n gweld y gwahaniaeth y mae prentisiaethau yn ei wneud. Maent yn galluogi pobl i ennill cyflog wrth iddynt ddysgu, ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant heb gronni dyled myfyrwyr a meithrin hyder yn y gweithle. Mae cyflogwyr, yn eu tro, yn elwa o ddatblygu timau medrus a ffyddlon sydd wedi\u2019u paratoi ar gyfer rolau arwain yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae hyn yn bwysig nawr yn fwy nag erioed. Nid yw bron i filiwn o bobl ifanc rhwng 16 a 24 ledled y DU mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Mae lletygarwch yn parhau i fod yn sector allweddol sy\u2019n gallu darparu llwybrau hygyrch i gyflogaeth, datblygiad sgiliau a dilyniant gyrfa hirdymor.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae\u2019r sector yn gweithredu mewn amgylchedd cynyddol heriol. Mae costau cyflog cynyddol, pwysau chwyddiant, costau cyflogaeth uwch, cynnydd mewn prisiau bwyd a biliau ynni cynyddol yn parhau i gael effaith ar broffidioldeb, ac mae defnyddwyr parhau i fod yn ofalus wrth wario arian.<\/p>\n<p>Y canlyniad yw sector sy\u2019n cael ei wasgu o\u2019r ddwy ochr.<\/p>\n<p>Mae cyfradd TAW 20% y DU ar gyfer lletygarwch hefyd yn sylweddol uwch na\u2019r cyfraddau gostyngedig a gymhwysir gan lawer o gyrchfannau twristiaeth gystadleuol ledled Ewrop, gan gynnwys Ffrainc, Sbaen a\u2019r Eidal. Pan fydd teuluoedd yn cymharu cost gwyliau dramor gyda \u2018staycation\u2019 yng Nghymru, mae\u2019r gwahaniaethau hynny\u2019n bwysig.<\/p>\n<p>Dyna pan mae cefnogaeth yn cynyddu i ymgyrch \u2018VAT\u2019s the Problem\u2019 Tom Kerridge, sy\u2019n galw am ostwng TAW lletygarwch o 20% i 10%.<\/p>\n<p>Byddai cyfradd TAW is yn helpu busnesau i fuddsoddi mewn cyfleusterau, recriwtio staff, ehangu cyfleoedd prentisiaeth a gwella cynaliadwyedd hirdymor wrth greu cae chwarae mwy cyfartal \u00e2 chystadleuwyr rhyngwladol. <\/p>\n<p>Er gwaethaf yr heriau hyn, mae lletygarwch yn parhau i fod yn un o sectorau mwyaf gwydn ac arloesol Cymru. Mae busnesau\u2019n parhau i addasu, arallgyfeirio a buddsoddi mewn gwella profiadau cwsmeriaid, datblygu staff a chofleidio technolegau newydd. <\/p>\n<p>Ond nid yw gwydnwch yn unig yn ddigonol.<\/p>\n<p>Mae angen amodau ar y diwydiant sy\u2019n annog buddsoddiad, datblygu\u2019r gweithlu a thwf cynaliadwy. Bydd prentisiaethau lletygarwch yn chwarae rhan hanfodol yn y dyfodol hwnnw, gan helpu i ddatblygu\u2019r genhedlaeth nesaf o gogyddion, goruchwylwyr, rheolwyr, ac arweinwyr busnes wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau ar draws y sector.<\/p>\n<p>Nid sector sy\u2019n creu swyddi yn unig yw lletygarwch. Mae\u2019n creu gyrfaoedd, yn cefnogi cymunedau ac arddangos y gorau o Gymru i ymwelwyr o bob cwr o\u2019r DU a thu hwnt. <\/p>\n<p>Bydd tymor yr haf pob amser yn bwysig, ond mae llwyddiant hirdymor y diwydiant yn dibynnu ar greu amgylchedd lle gall busnesau buddsoddi\u2019n hyderus, datblygu eu gweithlu a thyfu\u2019n gynaliadwy.<\/p>\n<p>Os ydym am i sector lletygarwch Cymru ffynnu yn hytrach na goroesi, rhaid i ni gydnabod ei wir werth a pharhau i fuddsoddi yn y bobl, y sgiliau a\u2019r busnesau sy\u2019n gwneud y sector yn rhan mor bwysig o\u2019n heconomi a\u2019n gymunedau.<\/p>\n<p>Oherwydd pan fydd lletygarwch yn llwyddo, mae Cymru\u2019n llwyddo. <\/p>\n<div id=\"attachment_19631\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/2.Cambrian_Faith-OBrien-scaled-e1758281475571.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19631\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/2.Cambrian_Faith-OBrien-scaled-e1758281475571.jpg\" alt=\"Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Hyfforddiant Cambrian,\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-19631\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19631\" class=\"wp-caption-text\">Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p><\/div>\n<p><strong>Gan Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Hyfforddiant Cambrian<\/strong><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Pob haf, mae busnesau lletygarwch ledled Cymru yn edrych tuag at wyliau\u2019r ysgol gyda chymysgedd o ddisgwyliad a gobaith. I lawer o fwytai, caffis, tafarndai, gwestai ac atyniadau ymwelwyr, mae Gorffennaf ac Awst yn fisoedd masnachu prysur. &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-hospitality-sector-long-term-investment\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12672","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12672","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12672"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12672\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12694,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12672\/revisions\/12694"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12672"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12672"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12672"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}