{"id":12712,"date":"2026-09-01T06:00:23","date_gmt":"2026-09-01T05:00:23","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12712"},"modified":"2026-08-31T11:36:43","modified_gmt":"2026-08-31T10:36:43","slug":"cambrian-aaron-jones-inspire","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-aaron-jones-inspire\/","title":{"rendered":"Niwroamrywiaeth a dysgu gydol oes yn profi\u2019n gyfuniad grymus i Aaron"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-aaron-jones-inspire\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21099\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Aaron-Jones-Inspire-Awards-26-e1788172461462.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21099\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Aaron-Jones-Inspire-Awards-26-e1788172461462.jpg\" alt=\"Aaron Jones standing in the bar area of the restaurant.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-21099\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21099\" class=\"wp-caption-text\">Aaron Jones, esiampl sy\u2019n ysbrydoli o niwroamrywiaeth a phrentisiaethau.<\/p><\/div>\n<p>Mae Aaron Jones wedi ennill gwobr genedlaethol ar \u00f4l dod yn esiampl i bobl niwroamrywiol a dangos grym trawsnewidiol dysgu gydol oes.<\/p>\n<p>Yn gweithio fel uwch-weinydd rhan-amser yn y Penycae Inn, ger Abertawe, mae wedi cael ei gefnogi gan ei gyflogwyr a Hyfforddiant Cambrian i ychwanegu Prentisiaeth Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch at restr ei lwyddiannau.<\/p>\n<p>Nid yn unig mae ei brentisiaeth wedi rhoi sgiliau gweithle iddo ond hefyd hyder i ddod yn siaradwr cyhoeddus am ei daith yn dysgu a niwroamrywiaeth. Yn llysgennad dros ddysgu yn y gweithle, fe\u2019i henwebwyd yn ddiweddar yn Brentis y Flwyddyn gan Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>I gydnabod ei daith yn dysgu, enillodd Aaron, 25, y Wobr Sgiliau Gwaith yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! eleni a fydd yn cael eu cyflwyno yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 23 Medi. Mae\u2019n un o blith 11 o enillwyr gwobrau.<\/p>\n<p>Yn uchafbwynt Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru &#8211; <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/?lang=cy\">adultlearnersweek.wales<\/a> &#8211; sy\u2019n rhedeg o 21 hyd 27 Medi, mae\u2019r gwobrau yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio stopio dysgu. Maent yn cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, cynyddu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fwy bywiog a llwyddiannus.<\/p>\n<p>Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy\u2019n awyddus i gychwyn ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu yn y cnawd a sesiynau ar-lein yn cael eu rhedeg trwy fis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i droi at ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, cynyddu sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywydau.<\/p>\n<p>Cychwynnodd addysg Aaron yn Ysgol Penmaes, ysgol anghenion addysg arbennig yn Aberhonddu, lle bu\u2019n astudio ers pan oedd yn dair oed nes yr oedd yn 19. <\/p>\n<p>Yna ymunodd \u00e2\u2019r Penycae Inn fel gweithiwr cegin, ond fe wnaeth ei gyflogwyr weld bod ei ddawn naturiol o ran gwasanaeth cwsmeriaid yn ei wneud yn fwy addas ar gyfer dyletswyddau gweini. Mae\u2019n awr yn edrych ar \u00f4l cwsmeriaid, yn mentora staff newydd ac yn gwneud rhai shifftiau yn y gegin.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch iawn o fy mhrentisiaeth, yn arbennig gan fod rhai yn amau fy ngallu i lwyddo,\u201d meddai Aaron, a ganmolodd ei gyflogwyr, Anthony a Claire Christopher a\u2019r swyddog hyfforddiant lletygarwch Andy Addis-Fuller am gredu yn ei botensial.<\/p>\n<p>\u201cRwyf yn awtistig sydd, yn y gorffennol, wedi effeithio ar fy hyder, fy sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol. Ond, yn hytrach na gadael i hyn gyfyngu arnaf, rwyf wedi derbyn fy niwroamrywiaeth, ac rwyf wedi gwthio fy hun i oresgyn y rhwystrau hyn.<\/p>\n<p>Gall unrhyw un sy\u2019n niwrowahanol gyflawni\u2019r un fath \u00e2 mi gyda\u2019r gefnogaeth iawn, gwaith caled a phenderfyniad. Rwyf wedi darganfod fy angerdd ac ni fyddaf fyth yn stopio dysgu.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019n gobeithio dod yn oruchwyliwr neu reolwr bar yn y dyfodol ac mae ganddo fwy na 22,000 o ddilynwyr ar ei sianel TikTok Aaron\u2019s Ales, lle mae\u2019n adolygu cwrw.<\/p>\n<p>Dywedodd enwebydd y wobr, Alison Collingridge o Hyfforddiant Cambrian: \u201cNid dim ond stori llwyddiant yw Aaron; mae\u2019n enghraifft berffaith o\u2019r ffordd y gall dysgu oedolion newid bywydau.<br \/>\nMae\u2019n weithiwr proffesiynol lletygarwch medrus, yn arweinydd a berchir yn ei weithle, ac yn esiampl i bobl ifanc eraill sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru: \u201cMae dysgu gydol oes yn cynnig cyfleoedd i ni i gyd, boed hynny\u2019n symud i yrfa newydd, dysgu sgil newydd, cefnogi ein hiechyd a\u2019n llesiant neu ddim ond gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau. Gall yr effaith fod yn drawsnewidiol, a gallwn weld hynny trwy hanesion enillwyr ein gwobrau. <\/p>\n<p>\u201cMae eu hymrwymiad i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth anferth yn eu bywydau ond hefyd i\u2019r rhai o\u2019u cwmpas. Mae dysgu oedolion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae\u2019n hanfodol cefnogi a dathlu\u2019r oedolion yng Nghymru sy\u2019n mynd ati i ddysgu, gan oresgyn heriau personol sylweddol i wneud hynny hefyd weithiau. Mewn byd sy\u2019n newid yn gyflym mae\u2019r neges o \u201cbeidio byth stopio dysgu\u201d yn bwysicach nag erioed.\u201d<\/p>\n<p>Gall unrhyw un sydd wedi ei ysbrydoli gan stori Aaron gael cyngor a chefnogaeth am ddim trwy Gymru\u2019n Gweithio i archwilio cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd ar gael yn eu hardal leol. <\/p>\n<p>Er mwyn cael gwybod beth sy\u2019n digwydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, ac i gael cyfarwyddyd personol am eich dewisiadau dysgu a\u2019r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch \u00e2 Cymru\u2019n Gweithio ar 0800 28 4844 neu chwiliwch am <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/\">cymrungweithio.llyw.cymru<\/a>.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"\"><\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Aaron Jones wedi ennill gwobr genedlaethol ar \u00f4l dod yn esiampl i bobl niwroamrywiol a dangos grym trawsnewidiol dysgu gydol oes. Yn gweithio fel uwch-weinydd rhan-amser yn y Penycae Inn, ger Abertawe, mae wedi cael ei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-aaron-jones-inspire\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12712","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12712","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12712"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12712\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12714,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12712\/revisions\/12714"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12712"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12712"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12712"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}