{"id":12726,"date":"2026-09-24T06:00:19","date_gmt":"2026-09-24T05:00:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12726"},"modified":"2026-09-19T15:35:22","modified_gmt":"2026-09-19T14:35:22","slug":"act-news-sept-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-news-sept-26\/","title":{"rendered":"Nid diffyg uchelgais sydd gan Gen Z, maen nhw eisiau mwy na dyrchafiad o&#8217;u gyrfa"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-news-sept-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_17687\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/act-rebecca-cooper-e1714488304811.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-17687\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/act-rebecca-cooper-e1714488304811.jpg\" alt=\"Rebecca Cooper, Head of People and Development at ACT\" width=\"460\" height=\"306\" class=\"size-full wp-image-17687\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-17687\" class=\"wp-caption-text\">Rebecca Cooper, Cyfarwyddwr Cyswllt &#8211; Pobl a Diwylliant yn ACT<\/p><\/div>\n<p>Pan fyddwch chi&#8217;n meddwl am ddilyniant gyrfa, mae&#8217;n debygol bod un gair yn dod i&#8217;r meddwl &#8211; dyrchafiad. Ond wrth i&#8217;r genhedlaeth nesa ddod i\u2019r amlwg yn y gweithle, mae llawer o weithwyr yn ystyried tybed ai symud ymlaen yw&#8217;r unig ffordd i lwyddo mewn gyrfa.<\/p>\n<p>Mae nifer cynyddol o weithwyr Gen Z yn cwestiynu a oes rhaid i lwyddiant gyrfa olygu cymryd swyddi uwch, mwy o gyfrifoldeb a rheoli t\u00eem, yn enwedig gan fod gan rain eu hanfanteision. Mae&#8217;r newid wedi cael ei alw&#8217;n &#8220;conscious unbossing&#8221; neu ddewis yn fwriadol i beidio \u00e2 dilyn r\u00f4l reoli, yn enwedig os nad yw&#8217;n cyd-fynd ag uchelgais, cryfderau neu syniad unigolyn o\u2019u gyrfa ddelfrydol.<\/p>\n<p>I rai, efallai ei fod yn ymddangos fel diffyg uchelgais neu ofn rhwymedigaeth, ond mewn gwirionedd y gwrthwyneb sy\u2019n wir.<\/p>\n<p>Mae gweithwyr iau yn fwyfwy ymwybodol nad oes yn rhaid i ddilyniant gyrfa gynnwys dringo\u2019r ysgol i fachu teitl swydd newydd, uwch. Gall dilyniant gyrfa edrych yn debycach i siart radar o brofiadau a chyflawniadau. Mae dilyniant gyrfa i lawer, yn enwedig y genhedlaeth iau, yn ymwneud ag ennill sgiliau newydd, ehangu profiadau a phortffolios a dod yn weithiwr proffesiynol mwy hyderus, cyfan.<\/p>\n<p>Mae rhagdybiaeth mewn llawer o weithleoedd mai&#8217;r cam nesaf naturiol i weithiwr sy&#8217;n perfformio uchel yw rheolaeth. Ond mae bod yn wych yn eich swydd a bod yn rheolwr pobl gwych yn ddwy set sgiliau hollol wahanol.<\/p>\n<p>Gall rheoli pobl fod yn hynod werth chweil, ond nid yw i bawb ac ni ddylid ei drin fel y ffactor pwysicaf mewn gyrfa lwyddiannus.<\/p>\n<p>Fel cyflogwyr, mae gennym gyfle i feddwl yn fwy creadigol am sut olwg sydd ar ddilyniant yn ein gweithrediadau. Gallai hynny olygu rhoi cyfle i weithiwr arbennig arwain prosiect heb reoli t\u00eem. Gallai hefyd olygu caniat\u00e1u iddynt ddatblygu eu harbenigedd ymhellach trwy hyfforddiant. Gall gweithiwr sy\u2019n perfformio\u2019n uchel elwa o weithio gyda gwahanol adrannau, cydweithio \u00e2 chydweithwyr newydd neu ymgymryd \u00e2 rolau newydd y tu allan i&#8217;w gwaith arferol o ddydd i ddydd.<\/p>\n<p>Gall y profiadau hyn ddatblygu rhywun cymaint \u00e2 dyrchafiad ac yn aml gallant fod yn fwy gwerthfawr iddynt fel gweithiwr proffesiynol ac i\u2019r busnes. Gall ymgymryd \u00e2 phrosiect newydd, dysgu sgil newydd neu symud i faes anghyfarwydd o&#8217;r sefydliad ehangu persbectif rhywun a chreu cyfleoedd nad oeddent yn amlwg o&#8217;r blaen. Mae&#8217;r archwiliad hwn yn caniat\u00e1u i weithwyr ddeall yn well beth maen nhw&#8217;n ei fwynhau am eu r\u00f4l a&#8217;r hyn nad ydynt yn ei fwynhau.<\/p>\n<p>Mae hyfforddiant seiliedig ar waith yn ffordd arall y gall gweithwyr ddatblygu o fewn eu r\u00f4l. Mae uwchsgilio staff, er ei fod hefyd yn ddefnyddiol i\u2019w paratoi ar gyfer rheoli, yn bwysicach i roi&#8217;r offer a&#8217;r hyder sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus yn eu r\u00f4l a ble maen nhw eisiau i&#8217;w gyrfaoedd fynd.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, gallai hyn olygu rheolaeth, ond gallai hefyd olygu dod yn arbenigwr technegol. Gallai olygu symud i faes hollol wahanol o&#8217;r sefydliad neu ddatblygu yn y r\u00f4l maen nhw eisoes yn ei garu.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r sgwrs yngl\u0177n \u00e2 &#8216;conscious unbossing&#8217; yn aml yn canolbwyntio ar y cwestiwn &#8216;a yw gweithwyr Gen Z yn ddigon uchelgeisiol?&#8217; Pan ddylem ni fod yn gofyn &#8216;beth yw natur uchelgais ein gweithwyr Gen Z?&#8217;<\/p>\n<p>Ni ddylai dilyniant fod yn daith osodedig, un maint i bawb, ac wrth gydnabod hynny, mae eich sefydliad yn llawer mwy tebygol o feithrin gweithlu o unigolion brwd, hyderus a galluog. Mae hyn oherwydd, i lawer, nid yw llwyddo mewn gyrfa yn golygu dringo&#8217;r ysgol, mae&#8217;n ymwneud \u00e2 rhoi cynnig ar bethau newydd a datblygu&#8217;r sgiliau a&#8217;r profiadau sydd eu hangen i ddeall y camau nesaf &#8211; boed hynny at ddyrchafiad neu beidio.<\/p>\n<p>Os ydych chi am ddatblygu&#8217;ch gweithlu, mae gan ACT amrywiaeth eang o gymwysterau wedi&#8217;u hariannu&#8217;n llawn &#8211; o gymwysterau digidol a rheoli i sgiliau gwyrdd a chyllid &#8211; i sicrhau bod gan eich t\u00eem y wybodaeth a&#8217;r hyder i ffynnu yn eu r\u00f4l. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth yn <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">acttraining.org.uk<\/a><\/p>\n<p><strong>Gan Rebecca Cooper, Cyfarwyddwr Cyswllt &#8211; Pobl a Diwylliant yn ACT<\/strong><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Pan fyddwch chi&#8217;n meddwl am ddilyniant gyrfa, mae&#8217;n debygol bod un gair yn dod i&#8217;r meddwl &#8211; dyrchafiad. Ond wrth i&#8217;r genhedlaeth nesa ddod i\u2019r amlwg yn y gweithle, mae llawer o weithwyr yn ystyried tybed ai &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-news-sept-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12726","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12726","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12726"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12726\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12728,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12726\/revisions\/12728"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12726"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12726"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12726"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}