{"id":12746,"date":"2026-09-24T06:00:17","date_gmt":"2026-09-24T05:00:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12746"},"modified":"2026-09-19T15:35:42","modified_gmt":"2026-09-19T14:35:42","slug":"quals-wales-news-sept-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-news-sept-26\/","title":{"rendered":"Gwneud cymwysterau galwedigaethol yn addas ar gyfer dyfodol Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/quals-wales-news-sept-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21128\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Quals-Wales-Jo-Richards_01-e1789590777802.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21128\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Quals-Wales-Jo-Richards_01-e1789590777802.jpg\" alt=\"Image of Jo Richards, Qualifications Wales\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-21128\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21128\" class=\"wp-caption-text\">Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol, Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru<\/p><\/div>\n<p>Sut ydyn ni&#8217;n sicrhau bod gan Gymru&#8217;r sgiliau sydd eu hangen arnom i greu dyfodol lle gall ein pobl a&#8217;n heconomi ffynnu? <\/p>\n<p><strong>Mae&#8217;n gwestiwn allweddol sydd wrth wraidd archwiliad sgiliau parhaus Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd mewn digwyddiad Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ym mis Mehefin gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell. <\/strong><\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd:<\/strong> \u201cMae hon yn foment allweddol i sgiliau yng Nghymru. Mae gan Gymru gryfderau gwirioneddol, gweithlu talentog, cyflogwyr cryf a darparwyr hyfforddiant rhagorol. Mae angen i ni wneud yn si\u0175r bod y cryfderau hynny&#8217;n cael eu defnyddio&#8217;n llawn. Bydd yr archwiliad sgiliau rydyn ni&#8217;n ei gynnal yn rhoi darlun cliriach i ni o ble mae&#8217;r bylchau a ble mae&#8217;r cyfleoedd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Bydd canfyddiadau cynnar yr archwiliad hwn yn siapio&#8217;r agenda ar gyfer Uwchgynhadledd Sgiliau&#8217;r Dyfodol Llywodraeth Cymru sydd wedi\u2019i chynllunio ar gyfer yr hydref hwn. <\/p>\n<p>Bydd yr uwchgynhadledd yn dod \u00e2 chyflogwyr, addysgwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi ynghyd i gynllunio ar gyfer diwygio hyfforddiant sgiliau galwedigaethol.<br \/>\nMae gennym ni yn Cymwysterau Cymru r\u00f4l bwysig i&#8217;w chwarae yn y broses hon ac rydyn ni\u2019n parhau \u00e2&#8217;n gwaith i gefnogi cynnig cymwysterau galwedigaethol \u00f4l-16 cryf a chynaliadwy i ddysgwyr yng Nghymru. Daw&#8217;r gwaith hwn mewn ymateb i ddiwygiadau sylweddol sy&#8217;n digwydd yn Lloegr.<\/p>\n<p><strong>Beth mae Lloegr yn ei wneud?<\/strong><br \/>\nMae diwygiadau yn Lloegr wedi&#8217;u hanelu at:<\/p>\n<ul>\n<li>sicrhau bod llwybr clir, o ansawdd uchel i ddysgwyr, boed eu cryfderau&#8217;n academaidd, yn dechnegol neu&#8217;n alwedigaethol<\/li>\n<li>creu system \u00f4l-16 gliriach a mwy hyblyg<\/li>\n<li>helpu dysgwyr i gyfuno astudiaethau academaidd a galwedigaethol a&#8217;u paratoi nhw ar gyfer swyddi yn y dyfodol<\/li>\n<\/ul>\n<p>O 2027, bydd cymwysterau lefel V newydd yn cael eu cyflwyno. Bydd cymwysterau lefel 3 newydd sy&#8217;n cynnig llwybr galwedigaethol i fyfyrwyr sydd eisiau archwilio gwahanol sectorau cyn penderfynu ble i arbenigo. Bydd pob cymhwyster lefel V yn cyfateb o ran maint i un cymhwyster Safon Uwch a bydd y rhai cyntaf ar gael mewn Digidol, Addysg a\u2019r Blynyddoedd Cynnar, a Chyllid a Chyfrifeg o fis Medi 2027 ymlaen. Bydd mwy yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach.<\/p>\n<p>Mae dau lwybr newydd (galwedigaethol ac astudiaethau pellach) hefyd yn cael eu creu i gefnogi myfyrwyr lefel 2 yn well. Bydd y llwybrau hyn yn cefnogi myfyrwyr 16-18 oed. Mae llywodraeth y DU hefyd yn sefydlu 29 o Golegau Rhagoriaeth Dechnegol newydd sy&#8217;n canolbwyntio ar ddiwydiannau allweddol.<\/p>\n<p><strong>Beth mae Cymwysterau Cymru yn ei wneud?<\/strong><br \/>\nFis Mawrth, fe wnaethon ni gyhoeddi <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cymwysterau.cymru\/media\/kugh122h\/cymwysterau-galwedigaethol-%C3%B4l-16-yng-nghymru-cynllun-gweithredu-2026-2028.pdf\">Cymwysterau Galwedigaethol \u00d4l-16 yng Nghymru: Cynllun Gweithredu 2026-2028<\/a>. Mae&#8217;n nodi sut y byddwn ni\u2019n gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu dewis dysgwyr, cynnal argaeledd cymwysterau, a chefnogi cynnig yn y dyfodol sy&#8217;n diwallu anghenion Cymru. <\/p>\n<p>Er bod y cynllun yn cynnwys pedwar maes gwaith, ein ffocws ar hyn o bryd yw rhoi cyngor cadarn, sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth, i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol cymwysterau galwedigaethol lefel 2 a lefel 3 yng Nghymru. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwaith hwn yn bwysig oherwydd bod llawer o gymwysterau galwedigaethol sy\u2019n cael eu defnyddio yng Nghymru hefyd yn cael eu cynnig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Wrth i Loegr newid ei thirwedd cymwysterau \u00f4l-16, gan gynnwys dileu cyllid ar gyfer rhai cymwysterau yn y dyfodol, efallai y bydd goblygiadau i argaeledd a hyfywedd cymwysterau sydd eu hangen o hyd ar ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae Leanne Hallett, Uwch Reolwr Cymwysterau, a minnau wedi bod yn gweithio gyda&#8217;r sector i gasglu barn, gan gynnwys drwy drafodaethau gydag aelodau o Fwrdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.  <\/p>\n<p>Canolbwyntiodd y trafodaethau cychwynnol ar y dewisiadau eang sydd ar gael i ddysgwyr a darparwyr yng Nghymru a&#8217;r materion y mae angen eu hystyried. Mae ail gam o ymgysylltu, sy\u2019n fwy manwl, wedi edrych yn fanylach ar effeithiau posibl, gan gynnwys risgiau, costau, heriau cyflwyno, darpariaeth ddwyieithog a llwybrau cynnydd. Mae adborth o&#8217;r trafodaethau hyn yn helpu i siapio&#8217;r cyngor a ddarperir i Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r sgyrsiau hyn yn helpu i sicrhau bod safbwyntiau darparwyr addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn cael eu hadlewyrchu wrth i&#8217;r opsiynau gael eu mireinio.<\/p>\n<p><strong>Y camau nesaf<\/strong><br \/>\nY cam nesaf fydd dwyn ynghyd y dystiolaeth a gasglwyd hyd yn hyn a datblygu cyngor mwy manwl i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth bellach o effaith bosibl gwahanol ddulliau a sut y gall polisi cymwysterau yn y dyfodol gyd-fynd \u00e2 dull strategol ehangach Llywodraeth Cymru o ymdrin ag addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru. <\/p>\n<p>Byddwn ni\u2019n parhau i weithio&#8217;n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, cyrff dyfarnu, Medr, Estyn, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau cynrychioliadol, i gefnogi sefydlogrwydd i ddysgwyr a darparwyr wrth siapio cynnig cymwysterau galwedigaethol yn y dyfodol sy&#8217;n gweithio i Gymru. <\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymwysterau.cymru\/\">Cymwysterau Cymru<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Sut ydyn ni&#8217;n sicrhau bod gan Gymru&#8217;r sgiliau sydd eu hangen arnom i greu dyfodol lle gall ein pobl a&#8217;n heconomi ffynnu? Mae&#8217;n gwestiwn allweddol sydd wrth wraidd archwiliad sgiliau parhaus Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd mewn digwyddiad &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-news-sept-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12746","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12746","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12746"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12746\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12749,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12746\/revisions\/12749"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12746"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12746"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12746"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}