{"id":12778,"date":"2026-09-21T06:00:11","date_gmt":"2026-09-21T05:00:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12778"},"modified":"2026-09-18T17:03:08","modified_gmt":"2026-09-18T16:03:08","slug":"alw-sept-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alw-sept-26\/","title":{"rendered":"Llawer o gyfleoedd dysgu ar gael, am ddim, ledled Cymru ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ALW-sept-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/ALW-Library-shot-e1789746534997.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/ALW-Library-shot-e1789746534997.jpg\" alt=\"People sitting in a library setting.\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"alignnone size-full wp-image-21192\" \/><\/a><\/p>\n<p>Cynigir cyrsiau, digwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd dysgu, ar-lein ac wyneb yn wyneb, am ddim, ledled Cymru i hybu rhagolygon gyrfa, sgiliau, hyder a llesiant pobl yn ystod Wythnos Addysg Oedolion rhwng 21 a 27 Medi.<\/p>\n<p>Mae darparwyr addysg oedolion a mudiadau cymunedol yn cyfrannu at thema ymgyrch \u2018Paid Stopio Dysgu\u2019 drwy helpu pobl i ddarganfod cyfleoedd newydd.<\/p>\n<p>Anogir oedolion i groesawu cyfleoedd i ddarganfod eu hangerdd am ddysgu, gloywi eu sgiliau, gwella eu hiechyd a\u2019u llesiant, symud ymlaen yn eu gyrfa neu geisio cyngor a gwybodaeth pwrpasol ar gyllid neu lwybrau gyrfa arbenigol.<\/p>\n<p>Caiff yr Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ACT, Agored Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.<\/p>\n<p>Mae rhestr o\u2019r holl weithgareddau ar gael yn <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/?lang=cy\">adultlearnersweek.wales<\/a> a ch\u00e2nt eu hyrwyddo drwy gydol mis Medi ar <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/newid-dy-stori\/wythnos-addysg-oedolion\">Cymru\u2019n Gweithio<\/a>.<\/p>\n<p>Nod yr Wythnos Addysg Oedolion yw gwneud cyfleoedd dysgu a sgiliau yn fwy hygyrch i bawb ac ysbrydoli pobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r wythnos yn gyfle i bobl gymryd ail gyfle ar addysg a gwaith. Bydd cyfle i oedolion o bob oed ddechrau neu ailgydio ar eu taith ddysgu gyda chyrsiau a sesiynau newydd wyneb yn wyneb ac ar lein ar lefel mynediad drwy gydol mis Medi.<\/p>\n<p>Uchafbwynt yr wythnos yw Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion, a gynhelir eleni yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 23 Medi. Mae\u2019r gwobrau yn cydnabod y rhai a ddangosodd ymrwymiad i beidio stopio dysgu.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol:<\/strong> \u201cMae\u2019r Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu grym dysgu, a all newid bywydau. Bob dydd, mae oedolion ledled Cymru yn ennill sgiliau newydd, yn tyfu mewn hyder ac yn agor cyfleoedd newydd iddynt eu hunain, eu teuluoedd a\u2019u cymunedau.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch fod sefydliadau ledled Cymru yn cydweithio i gefnogi yr Wythnos Addysg Oedolion ac ysbrydoli mwy o bobl i gymryd y cam nesaf ar eu taith ddysgu. P\u2019un ai\u2019n dysgu i gael cynnydd yn y gwaith, rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu gynyddu hyder, mae fy neges yn syml: Paid Stopio Dysgu.\u201d<\/p>\n<p>\u201cAm ddim ac ar gael i bawb, mae\u2019r Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle i ysbrydoli oedolion i gymryd cam cyntaf i ddysgu, dathlu llwyddiannau dysgwyr a\u2019i gwneud yn rhwyddach dod o hyd i gyfleoedd lleol,\u201d <strong>esboniodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith<\/strong>.<\/p>\n<p>\u201cMae darparwyr dysgu a mudiadau cymunedol o bob math yn cymryd rhan eleni i gynnig cyfle i oedolion ddarganfod cyfleoedd dysgu. Gall digwyddiad a gynhelir yn yr Wythnos Addysg Oedolion fod y sbardun sy\u2019n helpu rhywun i ailddarganfod llawenydd dysgu neu fod yn hwb i\u2019w hyder i roi cynnig ar rywbeth newydd.\u201d<\/p>\n<p>Cymerwch ran yn <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/?lang=cy\">Wythnos Addysg Oedolion<\/a> eleni rhwng 21 a 27 Medi.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/sefydliaddysguagwaith.cymru\/cy\/\"><\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cynigir cyrsiau, digwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd dysgu, ar-lein ac wyneb yn wyneb, am ddim, ledled Cymru i hybu rhagolygon gyrfa, sgiliau, hyder a llesiant pobl yn ystod Wythnos Addysg Oedolion rhwng 21 a 27 Medi. Mae darparwyr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alw-sept-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12778","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12778","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12778"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12778\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12779,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12778\/revisions\/12779"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12778"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12778"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12778"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}