{"id":12780,"date":"2026-09-22T06:00:14","date_gmt":"2026-09-22T05:00:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12780"},"modified":"2026-09-18T17:30:16","modified_gmt":"2026-09-18T16:30:16","slug":"inspire-welsh-learner-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/inspire-welsh-learner-26\/","title":{"rendered":"Taith Hannah wrth ddysgu Cymraeg yn helpu dysgwyr eraill sy\u2019n ddall a sy\u2019n gweld yn rhannol"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/inspire-welsh-learner-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21195\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Hannah-Rowlatt_Inspire_Awards_26-e1789747954502.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21195\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Hannah-Rowlatt_Inspire_Awards_26-e1789747954502.jpg\" alt=\"Hannah and her tutor looking at a book together.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-21195\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21195\" class=\"wp-caption-text\">Hannah Rowlatt gyda&#8217;i thiwtor Dr Sara Orwig-Palmer o Ddysgu Cymraeg Caerdydd.<\/p><\/div>\n<p>Mae Hannah Rowlatt o Gaerdydd, sydd wedi cofrestru\u2019n ddall a gyda chyflwr dirywiol ar ei golwg, yn dweud fod dysgu Cymraeg wedi trawsnewid ei bywyd.  <\/p>\n<p>Ar \u00f4l i bandemig Covid-19 effeithio ar ei hannibyniaeth a\u2019i hyder, mae addysg oedolion wedi ei helpu i ailgysylltu gydag eraill, ailddarganfod ei phenderfyniad a gwireddu\u2019r hyn y gallai ddal ei gyflawni.<\/p>\n<p>Nawr, mae Hannah yn helpu dysgwyr eraill sy\u2019n ddall a sy\u2019n gweld yn rhannol ledled Cymru drwy weithio gyda\u2019r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i wneud deunyddiau cwrs yn fwy hygyrch.<\/p>\n<p>Yn Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd i RNIB Cymru, mae\u2019n defnyddio darllenydd sgr\u00een ar ei gliniadur i gael mynediad i\u2019w hastudiaethau Cymraeg.<\/p>\n<p>\u201cFy ngobaith yw y caiff pobl eraill ddall sy\u2019n ddall a sy\u2019n gweld yn rhannol eu hannog i ymuno \u00e2 dosbarth, manteisio o\u2019r adnoddau gwell yma a phrofi llawenydd dysgu fel y gwnes i,\u201d meddai Hannah.<\/p>\n<p>I gydnabod ei thaith dysgu, enillodd wobr Siaradwr Newydd yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni a gyflwynir yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 23 Medi. Mae\u2019n un o 11 enillydd gwobr.<\/p>\n<p>Yn uchafbwynt yr <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/?lang=cy\">Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru<\/a> &#8211; sy\u2019n rhedeg o 21 i 27 Medi, mae\u2019r gwobrau yn cydnabod rhai sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol i ddysgu. Caiff y gwobrau eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfle, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, meithrin hyder a helpu cymunedau i ddod yn egn\u00efol a llwyddiannus.<\/p>\n<p>Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy\u2019n awyddus i ddechrau eu taith ddysgu, caiff cyrsiau blasu wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein eu cynnal drwy gydol mis Medi ac yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i fynd ati i ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, adeiladu sgiliau bywyd a gwella eu hansawdd bywyd.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn yn hapus i gael fy enwebu ond doeddwn i byth yn digwydd ennill, ac mae hynny\u2019n gyffrous,\u201d meddai Hannah. Gobeithio y bydd yn annog pobl eraill i ddilyn cwrs addysg oedolion.\u201d<\/p>\n<p>Dechreuodd ar gwrs Mynediad yn 2022, gan fod llawer o\u2019i chydweithwyr yn siarad Cymraeg. Gan fynychu dosbarthiadau wythnosol, symudodd ymlaen i gwrs Sylfaen ac mae ar fin dechrau cwrs Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae\u2019r dosbarthiadau wedi cael effaith enfawr enfawr ar fy mywyd drwy ddatblygu sgil newydd i\u2019w defnyddio yn y gwaith a gyda chyfeillion, a hefyd drwy fy atgoffa o\u2019r hyn y gallaf ei wneud,\u201d <strong>esboniodd Hannah<\/strong>. \u201cMae fy hyder ac annibyniaeth wedi tyfu fel canlyniad o fod mewn amgylchedd cefnogol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Gyda chefnogaeth ei thiwtor, a addasodd y cwrs i\u2019w wneud yn hygyrch a chynhwysol, cafodd hefyd ei hannog gan ddysgwyr eraill ac mae wedi mwynhau\u2019r hwyl a gawsant yn dysgu gyda\u2019i gilydd.<\/p>\n<p>\u201cMae cymryd rhan mewn addysg oedolion wedi fy ngalluogi i ailddarganfod fy hyder, penderfyniad ac, yn bwysicaf oll, fi fy hun. Mae gen i ffordd bell i fynd o hyd i ddatblygu fy sgiliau yn y Gymraeg ond mae\u2019n gyffrous dechrau ar lefel nesaf y cwrs.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu y dylai pawb gael cyfle i ddysgu Cymraeg oherwydd ein bod yn byw yng Nghymru a hi yw ein iaith genedlaethol. Mae cymryd rhan mewn addysg oedolion yn fwy na dim ond y sgiliau rydych yn eu dysgu, mae hefyd am y profiad cadarnhaol a lles.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Dr Sara Orwig-Palmer o Dysgu Cymraeg Caerdydd, a enwebodd Hannah am y wobr:<\/strong> \u201cGall dychwelyd i\u2019r ystafell ddosbarth fel oedolyn fod yn anodd a gobeithiaf y bydd stori Hannah yn dangos yr amgylchedd croesawgar a chefnogol y gall tiwtoriaid a dysgwyr ei greu.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n wych gweld sut mae Hannah wedi cymryd ei phrofiad personol o heriau hygyrchedd a throi hynny yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol, gan ddefnyddio ei hangerdd i helpu i wella cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr sy\u2019n ddall, a sy\u2019n gweld yn rhannol.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol:<\/strong> &#8220;Mae\u2019r hyn a gyflawnodd Hannah yn wir yn ysbrydoli. Mae ei hymroddiad i ddysgu Cymraeg, er yr heriau oedd yn ei hwynebu, yn dangos y gwydnwch, penderfyniad a\u2019r hyder y gall addysg oedolion ei ryddhau.<\/p>\n<p>\u201cYr hyn sy\u2019n gwneud stori Hannah yn arbennig iawn yw iddi ddefnyddio ei phrofiad ei hun i helpu i wella cyfleoedd dysgu ar gyfer pobl eraill sy\u2019n ddall ac sy\u2019n gweld yn rhannol ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cMae addysg oedolion am gymaint mwy na dim ond ennill cymwysterau. Gall feithrin hyder, gwella llesiant a chreu cyfleoedd newydd. Mae taith Hannah yn enghraifft wych o\u2019r effaith gadarnhaol y gall dysgu ei gael ar unigolion a hefyd ar gymunedau.\u201d<\/p>\n<p><strong>Ychwanegodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:<\/strong> &#8220;Mae dysgu gydol oes yn cynnig cyfleoedd i bawb ohonom, p\u2019un ai yw hynny i symud i yrfa newydd, dysgu sgil newydd, cefnogi ein iechyd a\u2019n llesiant neu ddim ond gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau. Gall yr effaith fod yn drawsnewidiol a gallwn weld hynny drwy straeon ein enillwyr gwobrau. <\/p>\n<p>\u201cMae ei hymroddiad i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i\u2019w bywydau a hefyd i\u2019r rhai o\u2019u hamgylch. Mae addysg oedolion yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae\u2019n hanfodol cefnogi a dathlu oedolion yng Nghymru sy\u2019n croesawu dysgu, gan weithiau oresgyn heriau personol sylweddol i wneud hynny. Mewn byd sy\u2019n newid yn gyflym, mae\u2019r neges i ddal ati i ddysgu yn bwysicach nag erioed.\u201d<\/p>\n<p>Gall unrhyw un a gafodd eu hysbrydoli gan daith Hannah gael mynediad am ddim i gyngor ac arweiniad drwy Cymru\u2019n Gweithio i ymchwilio\u2019r cyfleoedd dysgu a hyfforddiant sydd ar gael yn eu hardal.<\/p>\n<p>I ganfod beth sy\u2019n digwydd yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion ac i gael cyngor personol ar eich opsiynau dysgu eich hun a\u2019r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch \u00e2 Cymru\u2019n Gweithio ar 0800 028 4844 neu chwilio <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\">cymrungweithio.llyw.cymru<\/a>. <\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/dysgucymraeg.cymru\/\">Dysgu Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/sefydliaddysguagwaith.cymru\/cy\/\">Sefydliad Dysgu a Gwaith<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Hannah Rowlatt o Gaerdydd, sydd wedi cofrestru\u2019n ddall a gyda chyflwr dirywiol ar ei golwg, yn dweud fod dysgu Cymraeg wedi trawsnewid ei bywyd. Ar \u00f4l i bandemig Covid-19 effeithio ar ei hannibyniaeth a\u2019i hyder, mae &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/inspire-welsh-learner-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12780","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12780","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12780"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12780\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12785,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12780\/revisions\/12785"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12780"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12780"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12780"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}