{"id":12791,"date":"2026-09-24T06:01:42","date_gmt":"2026-09-24T05:01:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12791"},"modified":"2026-09-23T15:24:01","modified_gmt":"2026-09-23T14:24:01","slug":"ntfw-news-sept-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-news-sept-26\/","title":{"rendered":"Pwysicach nag erioed bod llunwyr polisi\u2019n gweld gwerth prentisiaethau, meddai NTFW"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ntfw-news-sept-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_20950\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/11.02.26-mh-Apprenticeship-Fair-Senedd-12-scaled-e1782723152389.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-20950\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/11.02.26-mh-Apprenticeship-Fair-Senedd-12-scaled-e1782723152389.jpg\" alt=\"NTFW Strategic Director Lisa Mytton head and shoulder image\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-20950\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-20950\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol<\/p><\/div>\n<p><strong>\u201cWrth i Gymru barhau i siapio ei system sgiliau ar gyfer y dyfodol, mae\u2019n bwysicach nag erioed bod llunwyr polisi&#8217;n deall gwerth prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith i ddysgwyr, cyflogwyr, cymunedau a\u2019r economi.\u201d<\/strong><\/p>\n<p>Dyna neges Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), wrth iddi baratoi ar gyfer chwarter olaf prysur 2026. <\/p>\n<p>\u201cRwyf am gydweithio\u2019n agos \u00e2 Medr, Llywodraeth Cymru, Aelodau\u2019r Senedd a rhanddeiliaid ehangach i sicrhau bod buddiannau darparwyr hyfforddiant annibynnol yn dal yn gadarn ar yr agenda a bod ein lleisiau\u2019n cael eu clywed yn glir ac yn gyson,\u201d pwysleisiodd. <\/p>\n<p>Mae NTFW yn cynrychioli darparwyr hyfforddiant annibynnol ledled Cymru sy\u2019n darparu prentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill ar ran Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa fod y misoedd diwethaf wedi dangos cryfder, gwydnwch ac ymrwymiad darparwyr hyfforddiant sy&#8217;n rheoli diwygiadau arfaethedig Medr ym maes cyllido prentisiaethau a threfniadau newydd ar gyfer grantiau. <\/p>\n<p>Erbyn hyn mae llawer o ddarparwyr yn cwblhau cam cyntaf y broses newydd ar gyfer ymgeisio am grantiau, ac mae hynny wedi codi llawer o gwestiynau. <\/p>\n<p>Roedd yn canmol Medr am ymateb a rhoi diweddariadau yn rheolaidd drwy gydol y broses gan helpu darparwyr hyfforddiant i ganfod eu ffordd trwy&#8217;r newidiadau sylweddol. Addawodd weithio mewn ffordd adeiladol i fynd i&#8217;r afael \u00e2 materion sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg. <\/p>\n<p>Un o flaenoriaethau pwysig NTFW a&#8217;i aelodau yw mynd i&#8217;r afael \u00e2 mater cyllido rhaglen Twf Swyddi Cymru+.  Mae NTFW wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price AS, ynghylch y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy&#8217;n methu cael cymorth am nad oes lle ar y rhaglen a bod y rhestrau aros yn hir.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn poeni bod yr oedi cyn i bobl ifanc gael elwa ar y ddarpariaeth yn golygu bod perygl i ni eu colli ar gam hollbwysig yn eu datblygiad. Gallai gyfrannu at gynnydd yn nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET),\u201d ychwanegodd Lisa. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l cydweithio \u00e2 Colegau Cymru i gasglu tystiolaeth, mae Lisa\u2019n gobeithio cyfarfod \u00e2\u2019r Gweinidog i ystyried atebion posibl a fyddai&#8217;n sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen pan fydd arnynt ei hangen. <\/p>\n<p>Yn ogystal, yn ddiweddar, mae\u2019r NTFW wedi cyflwyno ymatebion i ymgynghoriad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar eu cynllun strategol, i alwad Archwiliad Sgiliau Llywodraeth Cymru am dystiolaeth, ac i Bwyllgor Economi, Ynni a Chysylltedd y Senedd.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi tynnu sylw\u2019n gyson at gyfraniad hollbwysig prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith at economi a chymunedau Cymru,\u201d meddai Lisa.  <\/p>\n<p>\u201cRydym wedi galw hefyd am fwy o waith i daclo anweithgarwch economaidd, mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cynnydd yn nifer y bobl ifanc NEET, sicrhau cyllid hirdymor cynaliadwy ar gyfer rhaglenni sgiliau a sicrhau cysylltiad cryfach rhwng datblygu economaidd a pholisi sgiliau. <\/p>\n<p>\u201cRydym wedi pwysleisio bod angen i lwybrau galwedigaethol gael yr un parch \u00e2 llwybrau academaidd, gan gydnabod y gall prentisiaethau fod yn ddewis cyntaf i ddysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.\u201d<\/p>\n<p>Roedd seremon\u00efau graddio\u2019r darparwyr hyfforddiant Educ8 ac Itec a Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedoilion 2026 yn tanlinellu gwerth prentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill, meddai\u201cRoedd yn ysbrydoliaeth gweld dysgwyr yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled, eu penderfyniad a\u2019u llwyddiant,\u201d ychwanegodd. \u201cDangosodd y seremon\u00efau hyn fod rhaglenni dysgu a sgiliau ledled Cymru yn gallu newid bywydau, gan ein hatgoffa pam mae ein sector yn bwysig.  <\/p>\n<p>\u201cY tu \u00f4l i bob prentisiaeth, rhaglen gyflogadwyedd a chyfle am hyfforddiant mae unigolyn sydd \u00e2 gwell rhagolygon ar gyfer y dyfodol diolch i ymroddiad ac arbenigedd darparwyr ar draws ein rhwydwaith.\u201d<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg \u201cWrth i Gymru barhau i siapio ei system sgiliau ar gyfer y dyfodol, mae\u2019n bwysicach nag erioed bod llunwyr polisi&#8217;n deall gwerth prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith i ddysgwyr, cyflogwyr, cymunedau a\u2019r economi.\u201d Dyna neges Lisa &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ntfw-news-sept-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12791","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12791","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12791"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12791\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12796,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12791\/revisions\/12796"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12791"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12791"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12791"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}