{"id":12798,"date":"2026-09-24T13:39:28","date_gmt":"2026-09-24T12:39:28","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12798"},"modified":"2026-09-24T13:39:28","modified_gmt":"2026-09-24T12:39:28","slug":"inspire-awards-winners-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/inspire-awards-winners-26\/","title":{"rendered":"Dathlu llwyddiannau newid bywyd yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/inspire-awards-winners-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21210\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Inspire-Awards-Winners-26-scaled-e1790252694878.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21210\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/09\/Inspire-Awards-Winners-26-scaled-e1790252694878.jpg\" alt=\"Inspire Awards winners on stage with Deputy Minister for Skills and Tertiary Education, Cefin Campbell.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-21210\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21210\" class=\"wp-caption-text\">Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion gyda Cefin Campbell, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol a Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith.<\/p><\/div>\n<p>Cafodd llwyddiannau a newidiodd fywydau unigolion a oroesodd heriau a phrosiect cymunedol sy\u2019n rhoi sgiliau newydd ac ailadeiladu hyder dysgwyr eu dathlu yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 neithiwr (nos Fercher).<\/p>\n<p>Dathlwyd llwyddiant deg enillydd gwobr ac un dysgwr gyda chymeradwyaeth uchel am eu hymroddiad i ddal ati i ddysgu a\u2019u teithiau sy\u2019n ysbrydoli mewn seremoni wobrwyo lawen yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd.<\/p>\n<p>Yn uchafbwynt yr Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru &#8211;  <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/\">adultlearnersweek.wales<\/a> &#8211; sy\u2019n rhedeg rhwng 21-27 Medi, caiff y gwobrau eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Dangosodd pob enillydd gwobr Ysbrydoli! sut y gall dysgu gynnig ail gyfle, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, adeiladu hyder a helpu cymunedau i ddod yn egn\u00efol a llwyddiannus.<\/p>\n<p>Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy\u2019n awyddus i ddechrau eu taith ddysgu, cynhelir cyrsiau a sesiynau blasu wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy gydol mis Medi, yn cynnwys yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Mae cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i fynd ati i ddysgu fel ffordd o\u2019u gwneud yn fwy cyflogadwy, meithrin sgiliau bywyd a gwella eu hansawdd bywyd.<\/p>\n<p><strong>Roedd enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn cynnwys Yassmein Hussein<\/strong> a enillodd y wobr Rhannu Dyfodol. Mae\u2019n gwneud cyfraniad gwerthfawr i\u2019w chymuned yng Nghaerdydd wrth geisio gwella a rhannu ei sgiliau, hyder a gwybodaeth drwy addysg oedolion.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cymhwyso fel fferyllydd yn yr Aifft, penderfynodd newid cyfeiriad ei gyrfa ac mae wedi cwblhau 13 cwrs addysg oedolion gyda Choleg Caerdydd a\u2019r Fro a Chyngor Caerdydd. Sefydlodd gr\u0175p Facebook i gefnogi mamau plant niwrowahanol a mae\u2019n hyrwyddo addysg oedolion i famau eraill.<\/p>\n<p><strong>Enillydd y Wobr Siaradwr Newydd oedd Hannah Rowlatt<\/strong> o Gaerdydd, sydd wedi cofrestru\u2019n ddall gyda chyflwr dirywiol ar ei golwg ac sy\u2019n gweithio fel Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd i RNIB Cymru.<\/p>\n<p>Dywedodd Hannah fod dysgu Cymraeg wedi trawsnewid ei bywyd ac mae\u2019n helpu dysgwyr eraill dall a gyda golwg rhannol ledled Cymru drwy weithio gyda\u2019r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i wneud deunyddiau cwrs yn fwy hygyrch.<\/p>\n<p><strong>Honey Jenkins o Abertyleri enillodd y Wobr Llais Dysgwyr<\/strong>. Ar \u00f4l cyflawni ei breuddwyd o ddod yn adeiladwr gyda chefnogaeth gan Goleg Penybont, mae Honey yn awr yn gosod y sylfeini ar gyfer cenhedlaeth newydd o fenywod ifanc i weithio mewn diwydiant adeiladu mwy cynhwysol ac amrywiol.<\/p>\n<p><strong>Mae Aaron Jones, enillydd y Wobr Sgiliau Gwaith<\/strong>, yn ysbrydoli fel model r\u00f4l ar gyfer niwroamrywiaeth a grym trawsnewidiol dysgu gydol oes. Yn uwch weinydd rhan-amser yn y Penycae Inn, ger Abertawe, fe wnaeth sicrhau Prentisiaeth Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian a daeth yn siaradwr cyhoeddus am ei daith ddysgu a niwroamrywiaeth.<\/p>\n<p><strong>Cafodd Fred Murad, enillydd y Wobr Newid Bywyd<\/strong>, ei ysbrydoli gan ei ddau blentyn a\u2019i ddiweddar wraig, Claire, a fu farw o sepsis yn 2021, i ddychwelyd i ddysgu i sicrhau fod y sgiliau ganddo i\u2019w cefnogi gyda\u2019u haddysg.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau 25 cwrs dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Fred bellach yn diwtor weldio yng Ngholeg Sir Benfro ac yn dechrau ar flwyddyn olaf Gradd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ei uchelgais yw dod yn ddarlithydd.<\/p>\n<p><strong>Gadawodd Javier Griffiths-Payne o\u2019r Barri, enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc<\/strong>, yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau. Dim ond dwy flynedd ar \u00f4l dychwelyd i ddysgu gyda Choleg Caerdydd a\u2019r Fro, mae Javier wedi sicrhau lle i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid trywydd eich bywyd.<\/p>\n<p>Enillodd Agri-cation, cwmni budd cymunedol sy\u2019n seiliedig ar fferm waith yn Mangor Is-y-coed ger Wrecsam, Wobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol. Wedi\u2019i sefydlu gan Cheryl ac Andrew Rees, mae\u2019r cwmni yn cyflwyno rhaglenni dysgu sy\u2019n helpu pobl i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a bywyd, gwella llesiant, meithrin hyder a ailgysylltu gyda\u2019u cymunedau.<\/p>\n<p><strong>Daniel Mason o Ferthyr Tydful enillodd y Wobr Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell<\/strong>, a dywedodd fod addysg oedolion wedi ei achub rhag iselder ar \u00f4l iddo golli ei fam. Cafodd ei gyfeirio at Hwb Cymunedol Cwmpawd ym Merthyr Tudful lle mae cwrs Dysgu drwy\u2019r Awyr Agored wedi rhoi angerdd iddo ar gyfer ffotograffiaeth a\u2019r amgylchedd lleol.<\/p>\n<p><strong>Mae Julia Anderson, o Dredegar, enillydd y Wobr Heneiddio\u2019n Dda<\/strong>, hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth Hyb Cymunedol Cwmpawd a\u2019i helpodd i ailadeiladu ei hyder ar \u00f4l i gyflwr awtoimiwnedd cronig prin ddod \u00e2\u2019i gyrfa lewyrchus mewn gofal cymdeithasol i ben yn sydyn. Dywedodd fod cyrsiau crochenwaith a chyrsiau eraill mewn celf a chrefft wedi bod yn rhaff fywyd iddi.<\/p>\n<p><strong>Mae Shelby-Weaver-Slaughter, enillydd y Wobr Sgiliau Hanfodol Bywyd<\/strong>, yn llunio gyrfa sy\u2019n ysbrydoli mewn gofal cymdeithasol, ar \u00f4l dychwelyd i ddysgu gyda phrentisiaeth a gyflwynwyd gan Goleg Penybont. Mae bellach wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch fel Ymarferydd Gwasanethau Cymdeithasol ac yn gobeithio astudio am radd prifysgol.<\/p>\n<p><strong>Aeth gwobr cymeradwyaeth uchel i Georgia Miggins<\/strong>, o Abertawe, sy\u2019n ysbrydoli pobl ifanc eraill sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i gredu yn eu potensial a gwireddu eu huchelgais.<\/p>\n<p>Cafodd Georgia dystysgrif Gradd 5 mewn canu yn ei hymgais i ddod yn athrawes therapi cerdd. Bu\u2019n gynrychiolydd Anabledd Dysgu Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru pan oedd yn 17 oed, mae\u2019n aelod o Gyngor Lleisiau Mencap a hi yw  ymddiriedolydd ieuengaf Anabledd Dysgu Cymru. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol:<\/strong><br \/>\n\u201cMae enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn dangos sut y gall dysgu drawsnewid bywydau.<\/p>\n<p>\u201cDrwy eu penderfyniad a\u2019u hymroddiad, maent wedi datblygu sgiliau newydd, meithrin hyder a chreu cyfleoedd newydd iddynt eu hunain a\u2019u cymunedau. Mae eu straeon yn ysbrydoli ac yn dangos pam fod dysgu gydol oes mor bwysig ar gyfer unigolion, cymunedau a Chymru gyfan.\u201d<\/p>\n<p><strong>Ychwanegodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:<\/strong><br \/>\n\u201cMae dysgu gydol oes yn cynnig cyfleoedd i bawb ohonom, p\u2019un ai yw hynny i symud i yrfa newydd, dysgu sgil newydd, cefnogi ein hiechyd a\u2019n llesiant neu ddim ond gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau.<\/p>\n<p>\u201cGall yr effaith fod yn drawsnewidiol a gallwn weld hynny drwy straeon ein henillwyr gwobrau. Mae ymroddiad enillwyr y gwobrau i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i\u2019w bywydau eu hunain a hefyd fywydau\u2019r rhai o\u2019u cwmpas.<\/p>\n<p>\u201cMae addysg oedolion yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae\u2019n hanfodol cefnogi a dathlu oedolion yng Nghymru sy\u2019n croesawu dysgu, gan weithiau oresgyn heriau personol sylweddol i wneud hynny. Mewn byd sy\u2019n newid yn gyflym, mae neges \u2018paid stopio dysgu\u2019 yn bwysicach nag erioed.\u201d<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/sefydliaddysguagwaith.cymru\/cy\/\">Sefydliad Dysgu a Gwaith<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd llwyddiannau a newidiodd fywydau unigolion a oroesodd heriau a phrosiect cymunedol sy\u2019n rhoi sgiliau newydd ac ailadeiladu hyder dysgwyr eu dathlu yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 neithiwr (nos Fercher). Dathlwyd llwyddiant deg enillydd gwobr ac &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/inspire-awards-winners-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12798","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12798","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12798"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12798\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12799,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12798\/revisions\/12799"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12798"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12798"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12798"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}