{"id":12800,"date":"2026-10-20T10:59:16","date_gmt":"2026-10-20T09:59:16","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12800"},"modified":"2026-10-20T10:59:16","modified_gmt":"2026-10-20T09:59:16","slug":"investing-in-people-monmouthshire","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/investing-in-people-monmouthshire\/","title":{"rendered":"Buddsoddi mewn pobl: adeiladu gweithlu cryfach ar gyfer y dyfodol"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/investing-in-people-monmouthshire\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21221\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Educ8-training-session-sml-e1791214941894.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21221\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Educ8-training-session-sml-e1791214941894.jpg\" alt=\"A tutor at the front of the class with learners\" width=\"460\" height=\"258\" class=\"size-full wp-image-21221\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21221\" class=\"wp-caption-text\">Sesiwn hyfforddiant Educ8 Training ar y gweill<\/p><\/div>\n<p>Yn y gweithle sy\u2019n newid yn gyflym heddiw, y sefydliadau sy\u2019n buddsoddi yn eu pobl sydd yn y sefyllfa orau i ffynnu. Wrth i dechnoleg ddatblygu, disgwyliadau cwsmeriaid newid a gofynion sgiliau newydd ddod i\u2019r amlwg, ni ellir bellach ystyried datblygu\u2019r gweithlu yn weithgaredd un-tro. Rhaid iddo fod yn fuddsoddiad parhaus mewn pobl, sgiliau a dilyniant.<\/p>\n<p>Dyma lle gall cydweithio rhwng cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant chwarae rhan bwysig. Mae dysgu yn y gwaith yn rhoi cyfle i weithwyr ennill sgiliau newydd a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, wrth barhau yn eu rolau presennol, gan eu galluogi i ddefnyddio gwybodaeth newydd yn uniongyrchol yn eu cyfrifoldebau o ddydd i ddydd.<\/p>\n<p>I gyflogwyr, gall y dull hwn helpu i feithrin gallu o fewn y sefydliad, cefnogi cadw talent a chreu llwybrau dilyniant cliriach. I unigolion, gall ddarparu\u2019r hyder a\u2019r sgiliau sydd eu hangen i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa.<\/p>\n<p>Mae datblygu\u2019r gweithlu\u2019n effeithiol yn seiliedig ar greu diwylliant lle mae dysgu\u2019n cael ei annog, ei gefnogi a\u2019i gysylltu \u00e2 nodau ehangach y sefydliad. Pan fydd pobl yn teimlo bod eu datblygiad yn cael ei werthfawrogi, gall dysgu ddod yn rhan o ddiwylliant sefydliad yn hytrach na rhywbeth sy\u2019n digwydd ochr yn ochr \u00e2 gwaith.<\/p>\n<p>Rydym yn gweld effaith hyn drwy ein gwaith gyda chyflogwyr ledled Cymru, ac mae\u2019r partneriaethau mwyaf effeithiol yn aml yn rhai lle mae\u2019r cyflogwr a\u2019r darparwr hyfforddiant yn rhannu ymrwymiad gwirioneddol i ddatblygu eu gweithlu.<\/p>\n<p>Mae ein partneriaeth \u00e2 Monmouthshire Building Society yn un enghraifft o\u2019r dull hwn ar waith. Mae Monmouthshire Building Society wedi hyrwyddo diwylliant lle mae datblygiad personol a phroffesiynol yn cael ei annog yn weithredol, gyda mentrau fel Academi Gymunedol y Gymdeithas yn agor cyfleoedd ar gyfer dysgu, datblygu a dilyniant gyrfaol o fewn cymunedau lleol.<\/p>\n<p>I lawer o ddysgwyr, mae prentisiaethau yn cynnig llawer mwy na chymhwyster, gan gynyddu hyder, cynnig safbwyntiau newydd a rhoi cyfle i gyflawni uchelgeisiau a allai fod wedi ymddangos y tu hwnt i\u2019w cyrraedd ar un adeg.<\/p>\n<p><strong>Fel yr eglura Katrina Stewart, Partner Talent a Dysgu yn Monmouthshire Building Society:<\/strong><br \/>\n\u2018Ar \u00f4l cael trafferth yn yr ysgol fy hun, mae prentisiaethau wedi dod yn un o\u2019m hoff feysydd. Rwy\u2019n deall o brofiad uniongyrchol yr effaith gadarnhaol y gallant ei chael ar hyder, gwybodaeth a dilyniant gyrfa rhywun. Fe wnaeth fy nhaith ddysgu fy hun fy ysbrydoli i ddod yn Asesydd, ac mae\u2019n parhau i fod yn fraint cefnogi eraill i gyflawni eu potensial.<\/p>\n<p>Mae\u2019r angerdd hwnnw wedi parhau i dyfu drwy fy ngwaith gyda dysgwyr ein Hacademi ar gyfer cydweithwyr, lle rwyf wedi gweld pobl yn datblygu sgiliau a gwybodaeth werthfawr y gallant eu defnyddio yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Fel Partner Talent a Dysgu, rwy\u2019n falch o gefnogi cydweithwyr gyda\u2019u dyheadau, beth bynnag y boent.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Nid yw gyrfaoedd yn dilyn llwybr syml bob amser, a gall datblygiad personol fod yr un mor unigryw. Mae taith pawb yn wahanol, ond gyda\u2019r gefnogaeth a\u2019r gred gywir, gallwch gyflawni mwy nag y gallech feddwl. Eich llwybr chi fydd yr un sy\u2019n iawn i chi, felly peidiwch \u00e2 gadael i neb ddweud wrthych na allwch wneud rhywbeth. Rhowch gynnig arni \u2013 efallai y byddwch yn darganfod eich bod wrth eich bodd \u00e2\u2019r daith ddysgu.\u2019<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae profiad Katrina yn adlewyrchu pwynt ehangach: nid yw datblygiad pobl yn dilyn un llwybr penodol. Mae angen i ddatblygu\u2019r gweithlu\u2019n effeithiol gydnabod gwahanol uchelgeisiau, mannau cychwyn a chamau gyrfa, gan roi\u2019r gefnogaeth a\u2019r anogaeth i bobl barhau i ddysgu.<\/p>\n<p>Dyma pam nad yw cydweithio ar draws diwydiant erioed wedi bod yn bwysicach. Wrth i sefydliadau wynebu technolegau sy\u2019n esblygu, disgwyliadau cwsmeriaid sy\u2019n newid a gofynion sgiliau newydd, rhaid i ddatblygu\u2019r gweithlu fod yn fuddsoddiad parhaus. Mae partneriaethau strategol rhwng cyflogwyr a darparwyr dysgu yn galluogi sefydliadau i feithrin gallu o fewn y sefydliad, cadw talent a chreu llwybrau dilyniant i staff.<\/p>\n<p>Mae budd ehangach hefyd. Pan fydd cyflogwyr yn buddsoddi yn eu pobl, gall yr effaith ymestyn y tu hwnt i\u2019r gweithle. Mae dysgwyr yn ennill hyder, cymwysterau a chyfleoedd gyrfa. Mae cyflogwyr yn datblygu gweithlu medrus a brwdfrydig. Mae cymunedau\u2019n elwa ar sefydliadau lleol cryfach sydd wedi ymrwymo i dwf a datblygiad.<\/p>\n<p>Yn y pen draw, mae buddsoddi mewn pobl yn ymwneud \u00e2 chydnabod bod sefydliad llwyddiannus a gweithlu llwyddiannus yn agos gysylltiedig. Mae gan ddarparwyr hyfforddiant r\u00f4l i\u2019w chwarae, ond felly hefyd cyflogwyr, rheolwyr ac unigolion eu hunain. Pan fydd y gwahanol rannau hyn yn gweithio gyda\u2019i gilydd, gall dysgu ddod yn sbardun gwirioneddol i ddatblygiad personol, sefydliadol ac economaidd ehangach.<\/p>\n<p>Mae\u2019r bartneriaeth rhwng Educ8 Training a Monmouthshire Building Society yn un enghraifft o sut y gall hyn edrych yn ymarferol. Ond y cyfle ehangach yw i sefydliadau ledled Cymru weld datblygu\u2019r gweithlu nid fel menter un-tro, ond fel buddsoddiad parhaus yn y bobl a fydd yn siapio eu dyfodol.<\/p>\n<div id=\"attachment_21240\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Ann-Nicholas-extended-sml-e1792054480859.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21240\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Ann-Nicholas-extended-sml-e1792054480859.jpg\" alt=\"Head and shoulder photograph of Ann Nicholas\" width=\"460\" height=\"276\" class=\"size-full wp-image-21240\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21240\" class=\"wp-caption-text\">Ann Nicholas, Cyfarwyddwr Cyfrifon Cwsmeriaid Educ8 Training<\/p><\/div>\n<p><strong>Gan Ann Nicholas, Cyfarwyddwr Cyfrifon Cwsmeriaid Educ8 Training<\/strong><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/cy\/\">Edcu8<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn y gweithle sy\u2019n newid yn gyflym heddiw, y sefydliadau sy\u2019n buddsoddi yn eu pobl sydd yn y sefyllfa orau i ffynnu. Wrth i dechnoleg ddatblygu, disgwyliadau cwsmeriaid newid a gofynion sgiliau newydd ddod i\u2019r amlwg, ni &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/investing-in-people-monmouthshire\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12800","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12800","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12800"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12800\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12825,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12800\/revisions\/12825"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12800"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12800"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12800"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}