{"id":12803,"date":"2026-10-05T06:00:31","date_gmt":"2026-10-05T05:00:31","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12803"},"modified":"2026-10-03T13:10:23","modified_gmt":"2026-10-03T12:10:23","slug":"alw-events-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alw-events-26\/","title":{"rendered":"Bron 600 o ddigwyddiadau Wythnos Addysg Oedolion yn dangos grym dysgu gydol oes"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/alw-events-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_12804\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Waterfront-Museum-Swansea-beekeeping-e1791027686586.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12804\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Waterfront-Museum-Swansea-beekeeping-e1791027686586.jpg\" alt=\"Adults wearing protective suits, standing near sunflowers\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"size-full wp-image-12804\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12804\" class=\"wp-caption-text\">Cynhaliodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe gyrsiau cadw gwenyn yn ystod Wythnos Addysg Oedolion.<\/p><\/div>\n<p>Roedd effaith newidiol dysgu gydol oes yn cael sylw cenedlaethol wrth i bron 600 o ddigwyddiadau a chyrsiau gael eu cynnal trwy Gymru yn ystod Wythnos Addysg Oedolion o 21 i 27 Medi.<\/p>\n<p>Trafodwyd addysg oedolion yn y Senedd, amlygwyd stor\u00efau llwyddiant i\u2019ch ysbrydoli gan y cyfryngau a dathlwyd dysgwyr rhagorol yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>Rhoddodd digwyddiadau a gweithgareddau am ddim wyneb yn wyneb ac ar-lein y cyfle i oedolion ddarganfod eu hangerdd am ddysgu, gloywi eu sgiliau, gwella eu hiechyd a\u2019u llesiant, symud eu gyrfa ymlaen, neu gael cyngor a gwybodaeth wedi eu teilwrio am gyllid neu lwybrau gyrfa arbenigol.<\/p>\n<p>Cyfrannodd darparwyr addysg oedolion a sefydliadau cymunedol ar draws Cymru at yr ymgyrch \u2018Paid Stopio Dysgu\u2019 trwy helpu pobl i ddarganfod cyfleoedd newydd. Roedd popeth o lythrennedd digidol, AI a sgiliau hanfodol i goginio, ieithoedd a chaligraffi yn cael eu cynnig.<\/p>\n<p>Trefnir Wythnos Addysg Oedolion gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Genedlaethol, ACT, Agored Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS, a ddaeth i\u2019r Gwobrau Ysbrydoli!:  \u201cMae Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu effaith newidiol dysgu a llwyddiannau oedolion sy\u2019n dysgu ar draws Cymru.<\/strong><\/p>\n<p>\u201cTrwy gannoedd o ddigwyddiadau am ddim a Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion, rydym wedi gweld sut y mae dysgu yn helpu pobl i gynyddu eu hyder, datblygu sgiliau newydd a chreu cyfleoedd newydd.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn ddiolch i ddysgwyr, cyflogwyr, colegau a darparwyr dysgu oedolion trwy Gymru am eu cydweithrediad a\u2019u hymrwymiad i ddysgu gydol oes. Mae eu stor\u00efau ysbrydoledig yn ein hatgoffa, beth bynnag ein hoed neu gefndir, nid yw fyth yn rhy hwyr i ddysgu ac ni ddylem fyth stopio dysgu.\u201d<\/p>\n<p><strong>Roedd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith, wrth ei bodd gyda\u2019r ymateb i ddathliad addysg oedolion eleni.<\/strong><\/p>\n<p>\u201cCynigiodd yr Wythnos Addysg Oedolion gyfle pwysig i ni ddathlu a hyrwyddo effaith dysgu trwy gydol oes,\u201d meddai. \u201cRoeddem mor falch o weld digwyddiadau, cyrsiau a sesiynau blasu yn digwydd ar draws Cymru, gan roi gwybodaeth ac ysbrydoli pobl i fentro ar daith ddysgu newydd.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn gobeithio y bydd y stor\u00efau a rannwyd yn ystod yr wythnos yn dangos bod cyfle i ddysgu allan yna i bawb yn ogystal \u00e2 llawer o gefnogaeth i\u2019ch helpu i lwyddo.<\/p>\n<p>\u201cDiolch i\u2019r rhwydwaith anhygoel o ddarparwyr addysg oedolion, awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, prifysgolion a phartneriaid cymunedol sy\u2019n helpu i wneud yr wythnos bwysig hon yn llwyddiant ac am y gwaith yr ydych yn ei wneud bob dydd i helpu pobl i newid eu bywydau trwy ddysgu.\u201d<\/p>\n<p>Denodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ei hun 365 o bobl i ddigwyddiadau polisi a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos. Lansiwyd Teclyn Ymgysylltu \u00e2 Dysgwyr ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac roedd digwyddiadau eraill yn amlygu Addysg Oedolion yng Nghymru, Sgiliau Hanfodol Oedolion a Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion, y daeth 200 o wahoddedigion iddynt.<\/p>\n<p>Ymunodd pump o enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion gyda\u2019r Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd lle cawsant gyfarfod ASau eu hetholaethau a thrafod eu stor\u00efau dysgu ysbrydoledig.<\/p>\n<p>Cyfwelwyd enillwyr gan gynnwys y ddysgwraig Cymraeg Hannah Rowlatt o Gaerdydd, sydd wedi ei chofrestru\u2019n ddall ac yn gweithio fel swyddog polisi ac ymgyrchoedd i\u2019r RNIB, ar sioe frecwast BBC Radio Cymru. Ymddangosodd Hannah hefyd ar raglen Prynhawn Da S4C ddydd Gwener.<\/p>\n<p><strong>Wrth siarad yn y Senedd, talodd Kiera Marshall, AS Plaid Cymru dros Caerdydd Penarth, deyrnged i Hannah a\u2019r holl oedolion sy\u2019n dysgu yng Nghymru.<\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae effaith dysgu oedolion yn newid bywydau ac yn ymestyn ymhell tu hwnt i addysg,\u201d dywedodd. \u201cMae\u2019n gwella iechyd a llesiant ac mae\u2019n sylfaenol i dwf economaidd Cymru. Mae\u2019n galluogi oedolion i uwchsgilio a dysgu sgiliau newydd a gwella eu bywydau mewn ffyrdd na fyddwn ni fyth yn eu deall.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned yn neilltuol yn cynnig llwybr pwysig i bobl at addysg, gan eu cefnogi i gael mynediad at ddysgu mewn lleoliad ac ar gyflymder sy\u2019n iawn iddyn nhw.\u201d<\/p>\n<p>Gan gyfeirio at Hannah a\u2019r 10 enillydd gwobr arall, ychwanegodd. \u201cRwy\u2019n gobeithio y gall y stor\u00efau hyn, a miloedd o rai tebyg ar draws Cymru, annog mwy o bobl i dderbyn neges Wythnos Addysg Oedolion o beidio stopio dysgu.\u201d<\/p>\n<p>Cynhaliodd Gr\u0175p Colegau Castell-nedd Port Talbot ddigwyddiadau gwybodaeth yng Nghanolfan Siopa Aberafan, siop Morrisons yng Nghastell-nedd, siop Tesco yn y Trallwng a Chanolfan Waith Ystradgynlais a gweithgareddau ymgysylltu ar eu campysau.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Fay Harris, Pennaeth marchnata a chyfathrebu Gr\u0175p Colegau Castell-nedd Port Talbot:<\/strong><br \/>\n\u201cTrwy ein gweithgareddau ymgysylltu ar draws Powys a Chastell-nedd Port Talbot, rydym wedi gweld diddordeb cryf mewn cyrsiau yn amrywio o TGAU Saesneg a Mathemateg i\u2019r Gyfraith, Cyllid, Sbaeneg, Cymraeg, Arlwyo, Adeiladu a Gwaith Coed.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r sgyrsiau hyn yn dangos yr awch am ddysgu yn ein cymunedau ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu addysg hygyrch sy\u2019n helpu pobl i ddatblygu sgiliau, rhoi hwb i\u2019w hyder a chyflawni eu nodau.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Gemma Hallett, cyfarwyddwr a sylfaenydd miFuture:<\/strong> \u201cRoedd ein sesiwn Wythnos Addysg Oedolion yn archwilio sut y mae AI yn newid y gweithlu ac amlygodd bwysigrwydd y galluoedd gan bobl y mae cyflogwyr yn parhau i\u2019w gwerthfawrogi. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn helpu pobl i gynyddu eu hyder, ystyried dysgu gydol oes a datblygu\u2019r sgiliau angenrheidiol i ffynnu mewn byd sy\u2019n newid.\u201d<\/p>\n<p>Cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth sesiynau blasu iaith yn ystod yr wythnos. <strong>Dywedodd Elin Mair Mabbutt, pennaeth dysgu gydol oes y brifysgol:<\/strong> \u201cMae sesiynau blasu iaith yn ffordd wych o danio chwilfrydedd, cynyddu hyder ac agor drysau.<\/p>\n<p>\u201cYn ystod Wythnos Addysg Oedolion, fe wnaethant fwrw sylw ar rym dysgu gydol oes i helpu unigolion, cymunedau a chyflogwyr i ddarganfod sut y gall ieithoedd gryfhau cyfathrebu, rhoi hwb i gyfleoedd, cysylltu diwylliannau ac ysbrydoli pobl i ddal i ddysgu.\u201d<\/p>\n<p>Trefnodd Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Fynwy sesiynau blasu i oedolion o bob gallu gan gynnwys gwersi git\u00e2r ac ukulele, Almaeneg i ddechreuwyr, darlunio botanegol, plethu helyg, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, celf, ffeltio, coginio a gweithdai bomiau bath.<\/p>\n<p>\u201cMae ein sesiynau blasu wedi cefnogi dysgwyr i barhau eu taith ddysgu, ennill sgiliau newydd a gwella hyder a llesiant,\u201d <strong>dywedodd Chloe Kitchen o Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Fynwy.<\/strong> \u201cRoedd yn gyfle gwych i amlygu llwyddiannau ein dysgwyr a\u2019n tiwtoriaid.\u201d<\/p>\n<p>Cynhaliodd Canolfan Weithredu Dysgu Glynebwy 16 o gyrsiau blasu mewn pedair canolfan, un yn cynnwys dosbarth coginio amlddiwylliannol gyda 12 o ddysgwyr y cyfan o gefndiroedd ethnig gwahanol. O\u2019r 50 o ddysgwyr a gymerodd ran yn y cyrsiau mae 20 wedi ymuno \u00e2 chyrsiau rhan-amser.<\/p>\n<div id=\"attachment_12805\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Peg-loom-weaving-1-e1791027886982.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12805\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Peg-loom-weaving-1-e1791027886982.jpg\" alt=\"Adults standing outside buildings holding their weaved articles.\" width=\"460\" height=\"221\" class=\"size-full wp-image-12805\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12805\" class=\"wp-caption-text\">Pobl a fu mewn gweithdy gwehyddu ar w\u0177dd pegiau yn Amgueddfa Wl\u00e2n Cymru yn ystod Wythnos Addysg Oedolion.<\/p><\/div>\n<p>\u201cGwerth Wythnos Addysg Oedolion yw ei bod yn annog oedolion i ddal ati i ddysgu trwy gydol eu hoes,\u201d <strong>meddai Michelle Seabourne, rheolwr arweiniol gweithredol dysgu oedolion yn y gymuned<\/strong>.<\/p>\n<p>\u201cGall dysgu gynyddu hyder, gwella llesiant, helpu pobl i gael sgiliau a chymwysterau newydd, cyfarfod pobl newydd a gwella eu cyfle o gael swydd. Mae hefyd yn rhoi ail gyfle mewn bywyd i bobl.\u201d<\/p>\n<p>Trefnodd amgueddfeydd ar draws Cymru hefyd gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod yr wythnos. Am dros chwe blynedd mae Amgueddfa Cymru wedi darparu rhaglen amrywiol a difyr dros Wythnos Addysg Oedolion ar draws ein teulu o saith amgueddfa,\u201d <strong>meddai Loveday Williams, yr uwch swyddog dysgu, cyfranogiad a dehongli<\/strong>.<\/p>\n<p>\u201cTrwy bartneriaethau cryf a chyfleoedd dysgu amrywiol, mae ein rhaglen yn 2026 wedi ymgysylltu \u00e2 dros 2,000 o bobl ar draws Cymru, gan gefnogi llesiant, cynhwysiant, ymgysylltu ystyrlon ag etifeddiaeth a chysylltiad cymunedol.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru:<\/strong>  \u201cRoedd Caffi Trwsio Cymru wrth ein bodd o gael cynnal gweithdy gwn\u00efo i ddechreuwyr mewn partneriaeth \u00e2 Phrifysgol De Cymru ar gyfer dysgwyr yng Nghaerdydd. Gadawodd pawb y dosbarth yn teimlo\u2019u bod wedi&#8217;u grymuso ac yn fwy hyderus yn eu gallu i ddysgu sgiliau newydd.\u201d<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/sefydliaddysguagwaith.cymru\/cy\/\">Sefydliad Dysgu a Gwaith<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Roedd effaith newidiol dysgu gydol oes yn cael sylw cenedlaethol wrth i bron 600 o ddigwyddiadau a chyrsiau gael eu cynnal trwy Gymru yn ystod Wythnos Addysg Oedolion o 21 i 27 Medi. Trafodwyd addysg oedolion yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alw-events-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[],"class_list":["post-12803","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12803","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12803"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12803\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12809,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12803\/revisions\/12809"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12803"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12803"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12803"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}