{"id":12835,"date":"2026-11-09T14:32:56","date_gmt":"2026-11-09T14:32:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12835"},"modified":"2026-11-09T14:32:56","modified_gmt":"2026-11-09T14:32:56","slug":"act-emma-griffin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-emma-griffin\/","title":{"rendered":"Ymgynghorydd hyfforddiant o ACT yn dathlu statws siartredig ar \u00f4l degawd o ddysgu seiliedig ar waith"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-emma-griffin\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21253\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/Emma-Griffin_ACT-e1794234356150.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21253\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/Emma-Griffin_ACT-e1794234356150.png\" alt=\"Emma Griffin holding her certificate\" width=\"460\" height=\"365\" class=\"size-full wp-image-21253\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21253\" class=\"wp-caption-text\">Emma Griffin, Ymgynghorydd Hyfforddiant, ACT<\/p><\/div>\n<p>Yn ddiweddar, enillodd cynghorydd hyfforddiant statws Brocer Yswiriant Siartredig ar \u00f4l deng mlynedd o hyfforddiant yn y sector.<\/p>\n<p>Dechreuodd Emma Griffin ei gyrfa ym maes yswiriant yn 2016 pan oedd hi&#8217;n chwilio am her newydd a chyfle i adeiladu ei gwybodaeth dechnegol. Trwy gydol ei thaith, a\u2019i gwelodd yn teithio i San Steffan fel graddedig diweddar y cymhwyster yr wythnos ddiwethaf, mae wedi symud o fod yn ddysgwr i gynghorydd. Mae&#8217;r profiad hwn o ddysgu wrth ei gwaith yn parhau i fod yn ganolog i&#8217;r ffordd y mae&#8217;n cefnogi dysgwyr heddiw.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l blynyddoedd lawer yn gweithio mewn rolau rheoli ar draws lletygarwch a manwerthu, dechreuodd Emma yrfa newydd fel brocer yswiriant ym mis Ebrill 2016.<\/p>\n<p>&#8220;Bryd hynny roeddwn i&#8217;n gyffrous am yr her newydd, gan amsugno pob darn o wybodaeth a rannodd fy hyfforddwyr a gofyn llawer gormod o gwestiynau er mwyn datblygu fy nealltwriaeth fy hun,&#8221; esboniodd Emma. &#8220;Cefais gynnig y cyfle i ymgymryd \u00e2 hyfforddiant technegol a chymhwyster, ac rwy&#8217;n credu taw cael fy meithrin fel hyn ar y dechrau oedd y rheswm y gwnes i wirioni ar yswiriant.&#8221;<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ymuno \u00e2&#8217;r diwydiant yn ddiweddarach yn ei gyrfa, roedd Emma am ennill cymhwyster cydnabyddedig a fyddai&#8217;n dangos ei gwybodaeth dechnegol a rhoi hyder i gleientiaid yn y cyngor yr oedd yn darparu.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">&#8220;Roedd gweithio ac astudio ar yr un pryd yn addas iawn i fi oherwydd gallwn ddysgu rhywbeth trwy fy nghymwysterau ac yna gweld sut roedd yn berthnasol yn ymarferol,&#8221; meddai.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>&#8220;Yn yr un modd, roedd sefyllfaoedd oedd yn codi yn y gwaith yn rhoi cyd-destun i&#8217;r hyn roeddwn i&#8217;n ei astudio. Datblygais ddealltwriaeth dechnegol llawer ehangach a dod yn fwy hyderus yn fy marn a&#8217;m penderfyniadau fy hun.&#8221;<\/p>\n<p>Helpodd y cyfuniad hwn o theori a phrofiad ymarferol i Emma symud ymlaen i r\u00f4l Trefnydd Cyfrifon Corfforaethol wrth iddi barhau \u00e2&#8217;i datblygiad proffesiynol trwy gymwysterau cynyddol uwch.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r daith o fy arholiad cyntaf mewn Yswiriant, Cyfraith a Rheoleiddio hyd at gwblhau fy arholiad olaf ar Noswyl Nadolig yn gyflawniad aruthrol,&#8221; meddai Emma.<\/p>\n<p>Roedd ei hastudiaethau\u2019n cwmpasu cyfraith yswiriant, uwch hawliadau, tanysgrifio, brocio yswiriant, marchnata cynhyrchion a gwasanaethau yswiriant, a rheoli risg. Ochr yn ochr \u00e2&#8217;i harholiadau, cwblhaodd Emma aseiniadau gyda chyfanswm o dros 50,000 o eiriau.<\/p>\n<p>Ymunodd Emma ag ALS, sydd bellach yn rhan o ACT, ar \u00f4l gweithio fel rheolwr llinell mewn busnes gwasanaethau yswiriant, lle&#8217;r oedd eisoes wedi bod yn cefnogi dysgwyr. <\/p>\n<p>Rhoddodd symud i hyfforddiant a datblygu cyfle iddi ddod \u00e2&#8217;i phrofiad \u00e2&#8217;i brwdfrydedd dros helpu eraill i lwyddo ynghyd.<\/p>\n<p>&#8220;Rwy&#8217;n hoffi sut mae pethau wedi dod yn gylch llawn yn y degawd diwethaf a gallaf nawr roi yn \u00f4l. Rwy&#8217;n hoffi cefnogi pobl eraill i gyflawni eu huchelgais gyrfa ac adeiladu ar eu sgiliau presennol,&#8221; meddai.<\/p>\n<p>Roedd pontio o ddysgwr i Ymgynghorydd Hyfforddi yn golygu datblygu sgiliau newydd, gan gynnwys cyflawni ei chymhwyster TAQA ar gyfer elfen asesu ei r\u00f4l wrth gwblhau modiwlau terfynol ei diploma uwch.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">&#8220;Roedd symud o fod yn ddysgwr i gefnogi dysgwyr yn teimlo fel dilyniant naturiol. Roeddwn bellach yn gallu rhoi fy ngwybodaeth dechnegol mewn cyflwyniadau gweithdai a fy mhrofiad uniongyrchol i asesu meini prawf galwedigaethol.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Ac ar \u00f4l profi dysgu seiliedig ar waith yn uniongyrchol, mae Emma yn deall y pwysau y gall dysgwyr eu hwynebu wrth gydbwyso eu hastudiaethau \u00e2 bywydau gwaith prysur.<\/p>\n<p>&#8220;Rydw i wedi bod yn rheolwr llinell mewn gwahanol sectorau ac wedi gweld bod gen i well dealltwriaeth o&#8217;r hyn rydw i&#8217;n gofyn gan eraill os ydw i hefyd wedi bod i lawr yr un llwybr.<\/p>\n<p>&#8220;Ar \u00f4l profi dysgu seiliedig ar waith fy hun, gallaf adnabod pan fydd amseroedd yn anodd, adnoddau&#8217;n dynn, llwyth gwaith yn drwm a gallaf arwain y dysgwyr at y buddugoliaethau bychain a&#8217;u hargyhoeddi y byddant yn llwyddo.&#8221;<\/p>\n<p>Yn gynharach y mis hwn, daeth gwaith caled Emma i ben mewn seremoni raddio yn San Steffan, yn dathlu ei chyflawniad o ennill statws Brocer Yswiriant Siartredig.<\/p>\n<p>&#8220;Roedd yn garreg filltir bersonol a phroffesiynol enfawr,&#8221; esboniodd. &#8220;Rhoddodd gyfle i fi fyfyrio ar ba mor bell rydw i wedi dod.&#8221;<\/p>\n<p>Pan ofynnwyd iddi a oedd ganddi unrhyw gyngor i unrhyw un sy&#8217;n ystyried cymhwyster seiliedig ar waith, dywedodd Emma: <\/p>\n<p>&#8220;Byddwn i&#8217;n dweud ewch amdani. Mae cymhwyster seiliedig ar waith yn brofiad gwerth chweil; mae&#8217;n dyst nad yw dysgu yn digwydd mewn ystafell ddosbarth neu lyfrau yn unig. Mae&#8217;r theori yn wych ar gyfer gwybodaeth dechnegol, a\u2019i rhoi ar waith sy\u2019n caniat\u00e1u i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth a hyder.&#8221;<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn ddiweddar, enillodd cynghorydd hyfforddiant statws Brocer Yswiriant Siartredig ar \u00f4l deng mlynedd o hyfforddiant yn y sector. Dechreuodd Emma Griffin ei gyrfa ym maes yswiriant yn 2016 pan oedd hi&#8217;n chwilio am her newydd a chyfle &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-emma-griffin\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12835","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12835","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12835"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12835\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12837,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12835\/revisions\/12837"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12835"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12835"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12835"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}