{"id":12843,"date":"2026-11-06T08:00:45","date_gmt":"2026-11-06T08:00:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12843"},"modified":"2026-11-09T15:54:03","modified_gmt":"2026-11-09T15:54:03","slug":"cambrian-graduation-nov-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-graduation-nov-26\/","title":{"rendered":"Prentisiaid graddedig yw dyfodol diwydiant Cymru meddai darparwr hyfforddiant"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-graduation-nov-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21265\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/Cambrian_Graduation_Nov-26-sml-e1794239028673.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21265\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/Cambrian_Graduation_Nov-26-sml-e1794239028673.jpg\" alt=\"Graduates with managing director Faith O\u2019Brien (seated centre) at Cambrian Training Company\u2019s autumn graduation ceremony held at the Royal Welsh Showground.\" width=\"460\" height=\"213\" class=\"size-full wp-image-21265\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21265\" class=\"wp-caption-text\">Graddedigion gyda\u2019r rheolwr gyfarwyddwr Faith O\u2019Brien yn seremoni raddio Hydref Cwmni Hyfforddiant Cambrian a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.<\/p><\/div>\n<p>Mae un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru wedi dathlu gwaith caled, gwydnwch a chyflawniadau mwy na 100 o raddedigion.<\/p>\n<p>Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng ei seremoni raddio ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt lle disgrifiodd y rheolwr gyfarwyddwr Faith O\u2019Brien y prentisiaid fel \u201cdyfodol diwydiant Cymru\u201d.<\/p>\n<p>\u201cChi yw\u2019r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, gofalwyr, gwneuthurwyr, peirianwyr, crewyr ac arloeswyr,\u201d meddai wrth y graddedigion. \u201cMae\u2019r byd rydych chi\u2019n ymuno angen pobl fel chi &#8211; pobl sy\u2019n barod i ddysgu, g weithio a thyfu.<\/p>\n<p>\u201cNid eich prentisiaeth yw diwedd eich stori &#8211; dyma&#8217;r sylfaen y byddwch chi&#8217;n adeiladu eich dyfodol arni. Parhewch \u00e2\u2019r gwydnwch rydych chi wedi\u2019i ddangos, y balchder rydych chi\u2019n ei deimlo heddiw, a\u2019r gred y gallwch chi gyflawni beth bynnag rydych chi eisiau ei gyflawni.\u201d<\/p>\n<p>Gyda\u2019i bartneriaid, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian arobryn yn darparu prentisiaethau ar gyfer y diwydiannau lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd a diod, arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt a hamdden egn\u00efol. <\/p>\n<p>\u201cFel sefydliad yng Nghanolbarth Cymru, rydym yn falch o gefnogi sectorau sy\u2019n sicrhau bod Cymru\u2019n ffynnu,\u201d ychwanegodd Faith. \u201cMae eleni wedi bod yn un o gynnydd i Gwmni Hyfforddiant Cambrian, gan ein bod wedi cefnogi miloedd o brentisiaid, cryfhau partneriaethau ledled Cymru, buddsoddi mewn offer dysgu digidol a pharhau i hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel.\u201d<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi dathlu cydnabyddiaeth genedlaethol am ragoriaeth mewn cyflwyno prentisiaethau, sy\u2019n adlewyrchu cyflawniadau ein prentisiaid.<\/p>\n<p>\u201cLedled Cymru, mae prentisiaethau yn parhau i gael eu trafod yn eang ac mae un neges yn glir: nid prentisiaethau yw\u2019r llwybrau hawdd. Mae prentisiaid yn cydbwyso dysgu \u00e2 gwaith, bywyd teuluol, pwysau ariannol ac mewn llawer o achosion, cyfrifoldebau gofalu. Mae hyn yn gofyn am gryfder, disgyblaeth a gwydnwch.\u201d<\/p>\n<p><strong>Estynnodd diolch i rwydweithiau cymorth y prentisiaid am eu hanogaeth a\u2019u cefnogaeth, i gyflogwyr am fuddsoddi mewn pobl a staff Cwmni Hyfforddiant Cambrian a\u2019i bartneriaid am eu gwaith diflino. <\/strong><\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae prentisiaethau yn ffynnu pan fydd cyflogwyr yn credu ynddynt, ac mae eich cred wedi siapio\u2019r gweithlu medrus sydd ei angen ar Gymru,\u201d ychwanegodd Faith. \u201cMae eich arweiniad, eich mentora a\u2019ch parodrwydd i ddatblygu talent wedi cael effaith parhaol ac yn cadw prentisiaethau\u2019n fyw, yn berthnasol ac yn ffynnu ledled Cymru.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Yn ddiweddar, cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian Bwrdd Crwn Llais y Dysgwr WorldSkills yn y Trallwng ar y cyd \u00e2 Gr\u0175p Colegau NPTC ar gais y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell. <\/p>\n<p>Mynegodd Faith balchder yn y tri phrentis o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a oedd yn panelwyr yn y digwyddiad ac a oedd hefyd yn enillwyr Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a Sgiliau blynyddol y cwmni yn yr haf.<\/p>\n<p><strong>Mae Adam Pike, uwch gogydd adran yn Pant-yr-Ochain, Gresffordd, a enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn<\/strong>, yn gyn-joci sydd wedi ailhyfforddi fel cogydd. Roedd yn enillydd medal aur yng nghelfyddydau coginio a\u2019r prentis gorau yng Nghanolbarth Cymru yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru eleni. <\/p>\n<p>\u201cMae fy mhrentisiaeth a chystadlu wedi rhoi\u2019r hyder i mi arddangos y sgiliau rydw i wedi\u2019u dysgu a symud ymlaen fel cogydd,\u201d dywedodd Adam wrth y bwrdd crwn. \u201cHeb fy mhrentisiaeth, fyddwn i ddim lle rydw i nawr.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Oliver Addis-Fuller, rheolwr bar a digwyddiadau yng Ngwesty\u2019r Glyn Clydach, Castell-nedd, a oedd yr Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn<\/strong>: \u201cMae fy mhrentisiaeth uwch wedi dysgu popeth sydd angen i mi ei wybod am fy swydd, wedi datblygu fy hyder ac wedi fy helpu i gynllunio digwyddiad ar gyfer 1,000 o bobl. Mae pob diwrnod rydych chi&#8217;n gweithio yn ddiwrnod arall rydych chi&#8217;n dysgu.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Aaron Jones, gweinydd blaen y t\u0177 yn Penycae Inn, Penycae, ger Abertawe, a enillodd gwobr Prentis y Flwyddyn<\/strong>: \u201cMae fy mhrentisiaeth wedi ehangu fy ngorwelion ac rwy\u2019n gobeithio y bydd yn mynd \u00e2 mi i gam nesaf fy ngyrfa fel goruchwylydd. Rydw i mor falch o\u2019r rhwystrau rydw i wedi\u2019u goresgyn fel person sydd \u00e2 niwroamrywiaeth.\u201d<\/p>\n<p>Ymhlith y cyflogwyr a gynrychiolwyd yn y seremoni oedd y Celtic Collection, Whitbread, Voco St David\u2019s Caerydd, McDonald\u2019s, Mytton Food Group (Morrisons Deeside), Aldi, Puffin Produce, Charlies Store Ltd a Compass Group Uk &#038; I. <\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru wedi dathlu gwaith caled, gwydnwch a chyflawniadau mwy na 100 o raddedigion. Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng ei seremoni raddio ar Faes Sioe Frenhinol Cymru &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-graduation-nov-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12843","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12843","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12843"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12843\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12844,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12843\/revisions\/12844"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12843"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12843"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12843"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}