{"id":12853,"date":"2026-11-22T15:45:50","date_gmt":"2026-11-22T15:45:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12853"},"modified":"2026-11-22T15:45:50","modified_gmt":"2026-11-22T15:45:50","slug":"budget-cuts-nov-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/budget-cuts-nov-26\/","title":{"rendered":"Beirniadu llym ar doriadau&#8217;r gyllideb i raglenni cyflogadwyedd a phrentisiaethau yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/budget-cuts-nov-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_19055\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/06.03.25-mh-NTFW-conf-39-scaled-e1742826772101.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-19055\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/06.03.25-mh-NTFW-conf-39-scaled-e1742826772101.jpg\" alt=\"Lisa Mytton, NTFW Strategic Director portrait shot.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-19055\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-19055\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW.<\/p><\/div>\n<p>Cwestiynwyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ostwng nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru, pan gyhoeddwyd bwriad i roi \u00a328 miliwn yn llai o gyllid i raglenni cyflogadwyedd ac i rewi cyllideb prentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r toriadau brawychus hyn \u2013 a gafodd eu cyfrifo gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy&#8217;n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith \u2013 wedi\u2019u seilio ar ffigurau\u2019r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddoe (dydd Mawrth). <\/p>\n<p><strong>Bydd cyllid ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd, yn cynnwys Twf Swyddi Cymru Plws, yn gostwng o \u00a363 miliwn i \u00a339.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2027-28; a dywed yr NTFW fod y gyllideb arfaethedig o \u00a3151.3 miliwn ar gyfer prentisiaethau yn ostyngiad mewn termau real. <\/strong><\/p>\n<p>Daeth y cyhoeddiad am y gyllideb ddrafft ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Alan Milburn ei adolygiad hirddisgwyliedig o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn y DU \u2013 adolygiad sy&#8217;n blaenoriaethu prentisiaethau.<\/p>\n<p>Yn awr, mae&#8217;r NTFW  yn ceisio cefnogaeth Aelodau o&#8217;r Senedd a phleidiau gwleidyddol i annog Plaid Cymru i ailystyried y toriadau y mae wedi&#8217;u cynnig. Disgrifir y toriadau hyn fel rhai \u201cdifrifol\u201d ar adeg pan fo&#8217;r galw am raglenni cyflogadwyedd yn fwy o lawer na&#8217;r hyn sydd ar gael. <\/p>\n<p>Dywed Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol yr NTFW, nad yw&#8217;n rhy hwyr yn y broses o bennu&#8217;r gyllideb i Lywodraeth Cymru ailystyried ei buddsoddiad er mwyn cyflawni uchelgeisiau economaidd Cymru, ac meddai: \u201cMae arnom ni ddyfodol i\u2019n pobl ifanc.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r NTFW yn galw am fynd ati mewn ffordd \u201csydd wedi&#8217;i hariannu&#8217;n briodol ac sy&#8217;n cysylltu cyflogadwyedd, dysgu galwedigaethol, darpariaeth cyn-brentisiaeth, prentisiaethau a symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy.\u201d<\/p>\n<p> \u201cNi all Cymru gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd, cynhyrchiant, llai o anweithgarwch economaidd a gweithlu cryfach heb fuddsoddi yn y sgiliau a&#8217;r bobl a fydd yn gwneud hynny&#8217;n bosibl,\u201d meddai Lisa.<\/p>\n<p> \u201cMae\u2019r NTFW a&#8217;i aelodau yn barod i gydweithio&#8217;n adeiladol \u00e2 Llywodraeth Cymru, pob plaid wleidyddol a phob Aelod o&#8217;r Senedd i ddatblygu atebion sy&#8217;n ymateb i&#8217;r heriau hyn.<\/p>\n<p> \u201cByddai cyllideb wedi\u2019i rhewi ar \u00a3151.3 miliwn yn prynu llai o hyfforddiant, yn cefnogi llai o ddysgwyr ac yn rhoi mwy o bwysau ar ddarparwyr.<\/p>\n<p><strong>&#8220;Mae&#8217;n achos pryder neilltuol na chyhoeddwyd dim buddsoddiad ychwanegol o gwbl ar yr union ddiwrnod y mae Adolygiad Milburn wedi tanlinellu pwysigrwydd hanfodol sgiliau, cyfleoedd a symudedd cymdeithasol i sbarduno twf economaidd, sicrhau bod ystod ehangach o bobl mewn gwaith a llunio dyfodol llewyrchus i Gymru. <\/strong><\/p>\n<p>&#8220;Er bod y gyllideb brentisiaethau yn ddigyfnewid ar \u00a3151.3 miliwn, mae&#8217;r gyllideb ddrafft yn awgrymu gostyngiad o fwy na \u00a328 miliwn yn Twf Swyddi Cymru Plws a darpariaeth ehangach.ym maes cyflogadwyedd. <\/p>\n<p>&#8220;O&#8217;u cymryd gyda&#8217;i gilydd, mae perygl i&#8217;r cynigion hyn wanhau&#8217;r llwybrau y mae llawer o bobl ifanc yn dibynnu arnynt i fyd gwaith ac i symud ymlaen i brentisiaethau. <\/p>\n<p>&#8220;Mae Adolygiad Milburn yn herio llywodraethau i wneud mwy i fynd i&#8217;r afael ag anweithgarwch economaidd a diweithdra ymhlith pobl ifanc drwy ymyrryd yn gynt a gosod llwybrau cadarnach i fyd gwaith. <\/p>\n<p>&#8220;Felly mae&#8217;n anodd cysoni&#8217;r uchelgeisiau hynny \u00e2 chynigion sy&#8217;n rhewi&#8217;r buddsoddiad mewn prentisiaethau mewn termau real ac yn lleihau cyllid ar gyfer cymorth cyflogadwyedd.<\/p>\n<p> \u201cMae Twf Swyddi Cymru Plws yn cefnogi llawer o&#8217;r bobl ifanc sydd bellaf o&#8217;r farchnad lafur, yn cynnwys nifer fawr sydd o gefndiroedd difreintiedig a dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn aml, y rhaglenni hyn yw\u2019r cam cyntaf tuag at brentisiaethau, dysgu pellach a chyflogaeth gynaliadwy.<\/p>\n<p> \u201cCredwn fod achos cryf dros fuddsoddi mwy wrth i broses y gyllideb symud ymlaen. Ni ddylid cyfyngu\u2019r buddsoddiad hwnnw i brentisiaethau yn unig. <\/p>\n<p> \u201cMae ar Gymru angen ffrwd sgiliau sydd wedi\u2019i hariannu\u2019n briodol ac sy\u2019n cefnogi pobl ifanc o raglenni cyflogadwyedd cychwynnol ymlaen at ddysgu galwedigaethol, prentisiaethau a chyflogaeth gynaliadwy.\u201d <\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am y toriadau i raglenni cyflogadwyedd, dywedodd bod perygl i Lywodraeth Cymru gefnu ar \u201crai o\u2019n cymunedau mwyaf difreintiedig a\u2019r bobl ifanc sydd bellaf o\u2019r farchnad lafur\u201d.<\/p>\n<p> \u201cGallai lleihau&#8217;r ddarpariaeth gael canlyniadau difrifol, nid yn unig i unigolion, ond hefyd i gymunedau, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru, gan fod arnyn nhw angen i&#8217;r bobl ifanc hyn gael cyfleoedd er mwyn llwyddo,\u201d pwysleisodd.<\/p>\n<p> \u201cDylai negeseuon canolog Adolygiad Milburn ynghylch camau ataliol, ymyrryd yn gynnar, taclo anweithgarwch economaidd a chreu llwybrau gwirioneddol i gyflogaeth brocio pawb sy&#8217;n ymwneud ag addysg, sgiliau, cyflogadwyedd a datblygiad economaidd i weithredu.<\/p>\n<p> \u201cEto i gyd, ar yr union adeg y dylem fod yn cryfhau ein hymateb, mae perygl y bydd y gostyngiadau a gynigir mewn cyllid cyflogadwyedd, ochr yn ochr \u00e2 chyllideb brentisiaethau ddigyfnewid, yn tanseilio&#8217;r union ddarpariaeth sy&#8217;n angenrheidiol i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r heriau hyn yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cwestiynwyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ostwng nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru, pan gyhoeddwyd bwriad i roi \u00a328 miliwn yn llai o gyllid i raglenni cyflogadwyedd ac i rewi &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/budget-cuts-nov-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12853","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12853","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12853"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12853\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12854,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12853\/revisions\/12854"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12853"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12853"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12853"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}