{"id":12855,"date":"2026-11-26T06:00:10","date_gmt":"2026-11-26T06:00:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12855"},"modified":"2026-11-25T16:15:52","modified_gmt":"2026-11-25T16:15:52","slug":"talk-training-graduation-nov-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/talk-training-graduation-nov-26\/","title":{"rendered":"Dathlu Llwyddiant: 9fed Seremoni Raddio Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Talk Training"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/talk-training-graduation-nov-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/Talk-Training-Graduation-Nov-26-e1795550424913.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/Talk-Training-Graduation-Nov-26-e1795550424913.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignnone size-full wp-image-21287\" \/><\/a><\/p>\n<p><strong>Diwrnod o ddathlu, cyflawniad ac ysbrydoliaeth yn y Bathdy Brenhinol <\/strong><\/p>\n<p>Ar ddydd Iau 19 Tachwedd 2026, dathlodd Talk Training ei 9fed Seremoni Raddio ILM Lefel 5 gyda balchder yn y Bathdy Brenhinol, gan ddod \u00e2 dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid a chydweithwyr ynghyd i gydnabod cyflawniadau rhagorol y rhai a oedd wedi cwblhau eu cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn llwyddiannus. <\/p>\n<p>Roedd y seremoni yn gyfle gwych i ddathlu&#8217;r gwaith caled, yr ymroddiad a&#8217;r ymrwymiad a ddangoswyd gan ein dysgwyr drwy gydol eu teithiau dysgu. <\/p>\n<p>I lawer, mae ennill cymhwyster ILM yn cynrychioli llawer mwy na chael cymhwyster proffesiynol. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 datblygu hyder, goresgyn heriau, gwella sgiliau arwain ac agor drysau i gyfleoedd newydd. <\/p>\n<p><strong>Cydnabod Cyflawniad a Thwf Personol<\/strong><br \/>\nYn Talk Training, rydym yn cydnabod bod cwblhau cymhwyster ochr yn ochr \u00e2 gwaith ac ymrwymiadau personol yn gofyn am benderfyniad, gwydnwch ac ymroddiad. <\/p>\n<p>Daw ein dysgwyr o ystod eang o sefydliadau a chefndiroedd proffesiynol, pob un yn dod \u00e2&#8217;u profiadau, eu heriau a&#8217;u dyheadau eu hunain. <\/p>\n<p>Rhoddodd y seremoni raddio gyfle i bawb fyfyrio ar eu cyflawniadau unigol a dathlu pa mor bell yr oeddent wedi dod, yn bersonol ac yn broffesiynol. <\/p>\n<p>Un o&#8217;r agweddau mwyaf gwerth chweil ar y diwrnod oedd clywed yn uniongyrchol gan ein graddedigion am yr effaith gadarnhaol a gafodd eu profiadau dysgu ar eu hyder, eu gyrfaoedd a&#8217;u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. <\/p>\n<p><strong>Adborth Ysbrydoledig gan Ein Graddedigion<\/strong><br \/>\nRoeddem wrth ein bodd yn derbyn adborth gwych yn dilyn y seremoni, gan ddangos pa mor ystyrlon oedd yr achlysur i&#8217;r rhai a gymerodd ran. <\/p>\n<p><strong>Rhannodd Zoe Long, a gwblhaodd ei chymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Lefel 4 a Lefel 5 yn llwyddiannus, ar ei phrofiad:<\/strong><br \/>\n&#8220;Mwynheais yn fawr gwblhau fy nghymwysterau ILM Lefel 4 a Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Talk Training. Roedd y cyrsiau yn heriol ar adegau, ond gyda chefnogaeth ac arweiniad fy nhiwtor, Tracy, a th\u00eem ehangach Talk Training, roeddwn yn gallu cwblhau&#8217;r ddau gymhwyster yn llwyddiannus o fewn yr amserlen ofynnol.&#8221; <\/p>\n<p>Rhannodd Zoe hefyd pa mor bwysig oedd y seremoni raddio iddi:<br \/>\n&#8220;Gwnaeth t\u00eem Talk Training ragori ar bob disgwyliad. O&#8217;r croeso cynnes i&#8217;r trefniadaeth ofalus a&#8217;r siaradwyr rhagorol, roedd y diwrnod cyfan yn teimlo&#8217;n wirioneddol arbennig ac yn amlygu popeth y mae pawb dan sylw wedi&#8217;i gyflawni.&#8221; <\/p>\n<p>I Zoe, mae&#8217;r profiad hefyd wedi ei hysbrydoli i ystyried cam nesaf ei datblygiad proffesiynol, gan fynegi diddordeb mewn symud ymlaen i gymhwyster ILM Lefel 6. <\/p>\n<p>Rhannodd graddedig arall, Sam Fussell, fyfyrdod arbennig o deimladwy ar arwyddoc\u00e2d cwblhau cymhwyster a mynychu seremoni raddio.  <\/p>\n<p>&#8220;Fel rhywun na aeth i&#8217;r brifysgol, roedd dechrau&#8217;r cwrs yn teimlo&#8217;n eithaf brawychus i ddechrau. Fodd bynnag, rhoddodd yr anogaeth, yr arweiniad a&#8217;r gefnogaeth a gefais drwy gydol y cyfnod yr hyder i mi barhau a chyflawni rhywbeth yr wyf yn hynod falch ohono.&#8221; <\/p>\n<p><strong>Aeth Sam ymlaen i egluro pam oedd y seremoni raddio yn achlysur mor gofiadwy:<\/strong><br \/>\n&#8220;Roedd mynychu seremoni raddio yn rhywbeth nad oeddwn erioed yn disgwyl y byddwn yn cael y cyfle i&#8217;w brofi, felly roedd gallu dathlu fy nghyflawniad yn y ffordd hon yn golygu llawer iawn i mi. Roedd yn ffordd wirioneddol arbennig a chofiadwy o ddod \u00e2&#8217;m taith ddysgu i ben.&#8221; <\/p>\n<p>Mae&#8217;r sylwadau twymgalon hyn yn ein hatgoffa&#8217;n wych pam rydym yn gwneud yr hyn a wnawn yn Talk Training. Y tu \u00f4l i bob cymhwyster mae taith unigol, ac rydym yn hynod falch o chwarae rhan wrth helpu ein dysgwyr i gyflawni eu nodau. <\/p>\n<p><strong>Diolch Arbennig<\/strong><br \/>\nHoffem estyn ein diolch diffuant i bawb a gyfrannodd at wneud seremoni raddio eleni yn achlysur mor gofiadwy. <\/p>\n<p>Mae diolch arbennig yn mynd i\u2019r Bathdy Brenhinol am gynnal y digwyddiad a darparu lleoliad mor wych ar gyfer ein dathliadau. <\/p>\n<p>Hoffem hefyd gydnabod ein tiwtoriaid, aseswyr a th\u00eem ehangach Talk Training ymroddedig, y mae eu hanogaeth, eu harweiniad a&#8217;u cefnogaeth barhaus yn helpu ein dysgwyr i ennill eu cymwysterau. <\/p>\n<p>Mae ein diolch hefyd yn mynd i&#8217;r cyflogwyr sydd wedi cefnogi eu gweithwyr drwy gydol eu teithiau dysgu, gan gydnabod gwerth buddsoddi mewn datblygiad arweinyddiaeth a rheolaeth. <\/p>\n<p><strong>Llongyfarchiadau i&#8217;n Graddedigion!<\/strong><br \/>\nYn bwysicaf oll, hoffem longyfarch pob un o&#8217;n graddedigion ar eu cyflawniadau gwych. <\/p>\n<p>Mae eich ymrwymiad, eich dyfalbarhad a&#8217;ch penderfyniad yn haeddu cael eu dathlu, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn edrych yn \u00f4l ar eich diwrnod graddio gyda balchder enfawr. <\/p>\n<p>P&#8217;un a yw eich cam nesaf yn cynnwys ymgymryd \u00e2 chyfrifoldebau newydd, datblygu eich gyrfa neu barhau \u00e2&#8217;ch taith ddysgu, dymunwn bob llwyddiant i chi. <\/p>\n<p>Gan bawb yn Talk Training, llongyfarchiadau i Ddosbarth 2026. Rydym yn hynod falch ohonoch! <\/p>\n<p>Oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth? Cysylltwch \u00e2 Talk Training i gael rhagor o wybodaeth am ein <a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.talktraining.co.uk\/management-ilm-apprenticeship\/\">cymwysterau ILM<\/a> a&#8217;n cyfleoedd datblygu pellach.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.talktraining.co.uk\/\">Talk Training<\/a><\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Diwrnod o ddathlu, cyflawniad ac ysbrydoliaeth yn y Bathdy Brenhinol Ar ddydd Iau 19 Tachwedd 2026, dathlodd Talk Training ei 9fed Seremoni Raddio ILM Lefel 5 gyda balchder yn y Bathdy Brenhinol, gan ddod \u00e2 dysgwyr, cyflogwyr, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/talk-training-graduation-nov-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12855","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12855","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12855"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12855\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12858,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12855\/revisions\/12858"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12855"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12855"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12855"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}