{"id":12859,"date":"2026-11-26T13:45:55","date_gmt":"2026-11-26T13:45:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=12859"},"modified":"2026-11-26T13:45:55","modified_gmt":"2026-11-26T13:45:55","slug":"member-event-24-nov-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/member-event-24-nov-26\/","title":{"rendered":"Mae ar Lywodraeth Cymru ddyfodol i bobl ifanc, cyhoeddir mewn digwyddiad rhwydweithio"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"top\"><\/a><br \/>\n<a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/member-event-24-nov-26\">English<\/a> | <span aria-current=\"page\" style=\"font-weight:bold; color:#d2232a;\">Cymraeg<\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_21292\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/24.11.26-mh-NTFW-Pierhead-Event-25-scaled-e1795699932296.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-21292\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/24.11.26-mh-NTFW-Pierhead-Event-25-scaled-e1795699932296.jpg\" alt=\"Speakers from the event standing at the lectern.\" width=\"460\" height=\"292\" class=\"size-full wp-image-21292\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-21292\" class=\"wp-caption-text\">Siaradwyr yn nigwyddiad rhwydweithio aelodau NTFW a gynhaliwyd yn y Pierhead, Bae Caerdydd.<\/p><\/div>\n<p>Mae ar Lywodraeth Cymru ddyfodol i\u2019r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc ac mae&#8217;n rhaid iddynt fuddsoddi mewn sgiliau, clywodd digwyddiad rhwydweithio Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yng Nghaerdydd ddydd Mawrth. <\/p>\n<p>Daeth y digwyddiad, yn y Pierhead, Bae Caerdydd, ar \u00f4l i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf, gyda&#8217;r cynigion yn cynnwys toriadau o \u00a328 miliwn i raglenni cyflogadwyedd a rhewi cyllid prentisiaethau. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cAllwn ni ddim fforddio colli cenhedlaeth arall o dalent \u2013 rhaid inni droi uchelgais yn weithredu gyda\u2019r buddsoddiad, y gydnabyddiaeth a\u2019r cydweithio cywir gan y llywodraeth, cyflogwyr, darparwyr a\u2019r sector ehangach,\u201d <strong>meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW<\/strong>. \u201cMae arnon ni ddyfodol iddynt ac mae hynny\u2019n golygu buddsoddi mewn sgiliau, mewn pobl ac yng Nghymru.<\/p>\n<p> \u201cEin cryfder yw cydweithio, herio lle mae angen, a sicrhau bod sgiliau a phrentisiaethau&#8217;n dal wrth galon dyfodol Cymru.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Diolchodd i Cefin Campbell, Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol Llywodraeth Cymru, am ei ymrwymiad i gydweithio \u00e2\u2019r NTFW ac i ddiogelu cyllid ar gyfer prentisiaethau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. <\/p>\n<p><strong>Wrth annerch y digwyddiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru&#8217;n wynebu penderfyniadau anodd yn ei chyllideb ddrafft.<\/strong><\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">&#8220;Mae&#8217;r digwyddiad rhwydweithio hwn wedi dangos grym partneriaeth i drawsnewid bywydau drwy sgiliau,&#8221; <strong>meddai<\/strong>. &#8220;Wrth i&#8217;r llywodraeth, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gydweithio, rydym yn adeiladu Cymru gryfach a mwy llewyrchus, lle caiff bawb cyfle i ddatblygu&#8217;r sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Daeth y digwyddiad \u00e2 darparwyr dysgu seiliedig ar waith a rhanddeiliaid yn y sector ynghyd i rannu eu barn am oblygiadau datblygiadau cyfredol mewn polisi. Noddwyd y digwyddiad gan Kiera Marshall, Aelod o&#8217;r Senedd dros Blaid Cymru, Caerdydd a Phenarth.<\/p>\n<p>Aed ati i ystyried  yr heriau a&#8217;r cyfleoedd sy&#8217;n wynebu darparwyr dysgu, cyflogwyr a dysgwyr mewn cyfnod o newid arwyddocaol i raglenni sgiliau a chyflogadwyedd yng Nghymru. <\/p>\n<p>Roedd yr ystafell yn llawn i gael mewnwelediad i Archwiliad Sgiliau Llywodraeth Cymru, adborth o&#8217;r Uwchgynhadledd Sgiliau a gynhaliwyd yn ddiweddar, a chlywed am y datblygiadau diweddaraf mewn ymgyngoriadau prentisiaethau a llwyddiant T\u00eem Cymru yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK a gynhaliwyd yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf. <\/p>\n<p><strong>Soniodd Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol polisi a buddsoddi, a Heather Davidson, pennaeth prentisiaethau<\/strong>, am y ffordd mae r\u00f4l Medr yn esblygu wrth lunio blaenoriaethau ariannu a&#8217;r rhaglen brentisiaethau ar gyfer y dyfodol. Medr sy&#8217;n ariannu ac yn rheoleiddio&#8217;r sector addysg drydyddol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton fod y digwyddiad yn gyfle gwych i ddod \u00e2 phobl o bob rhan o&#8217;r sector sgiliau a phrentisiaethau ynghyd, er mwyn rhannu profiadau, cael sgyrsiau onest am heriau, ac archwilio&#8217;r cyfleoedd sydd o&#8217;n blaenau. <\/p>\n<p>\u201cO ddathlu talent a chyflawniadau anhygoel ein dysgwyr drwy WorldSkills, i gydnabod r\u00f4l hanfodol prentisiaethau o ran cefnogi cyflogwyr, tyfu ein heconomi a thrawsnewid bywydau, roedd un neges yn glir: allwn ni ddim gwireddu uchelgeisiau Cymru heb fuddsoddi mewn sgiliau a phobl,\u201d meddai. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae prentisiaethau&#8217;n fuddsoddiad yn ein heconomi, ein cymunedau a&#8217;n dyfodol. Rhaid i ni sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd, y gefnogaeth a&#8217;r llwybrau y maen nhw&#8217;n eu haeddu i adeiladu gyrfaoedd ystyrlon yma yng Nghymru.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Siaradodd Matthew Allman, pennaeth prentisiaethau yn Llywodraeth Cymru<\/strong>, am yr ymgynghoriad presennol ar ddyfodol prentisiaethau, a ddaw i ben ar 4 Rhagfyr. <\/p>\n<p>Bwriad Llywodraeth Cymru yw symleiddio prentisiaethau drwy Safonau Prentisiaethau Cymru, gan gryfhau eu perthnasedd i gyflogwyr, mynediad i ddysgwyr, a gweithlu ac economi Cymru. <\/p>\n<p><strong>Soniodd Ioan Matthews, prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol<\/strong>, am gynllun strategol y sefydliad ar gyfer 2027\u201332 \u2013 Prentisiaethau a\u2019r Iaith Gymraeg: Adeiladu Gweithlu Dwyieithog i Gymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynllun yn amlinellu sut y gall addysg drydyddol a hyfforddiant gryfhau&#8217;r defnydd o&#8217;r Gymraeg a datblygu gweithlu dwyieithog i Gymru. Mae\u2019n nodi tair blaenoriaeth: darpariaeth drydyddol, y gweithlu addysg, a theithiau a phrofiadau dysgwyr. <\/p>\n<p>Gweledigaeth hirdymor y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw bod dysgwyr yn defnyddio, cynnal a datblygu eu Cymraeg yn ystod eu haddysg drydyddol neu eu hyfforddiant, gan ategu&#8217;r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu\u2019r defnydd dyddiol o\u2019r iaith erbyn 2050, ochr yn ochr \u00e2 thwf economaidd.<\/p>\n<p><a style=\"text-decoration:underline;\" href=\"#top\">Yn \u00f4l i\u2019r brig<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae ar Lywodraeth Cymru ddyfodol i\u2019r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc ac mae&#8217;n rhaid iddynt fuddsoddi mewn sgiliau, clywodd digwyddiad rhwydweithio Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yng Nghaerdydd ddydd Mawrth. Daeth y digwyddiad, yn y Pierhead, Bae &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/member-event-24-nov-26\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-12859","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12859","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12859"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12859\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12862,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12859\/revisions\/12862"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12859"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12859"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12859"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}