{"id":3312,"date":"2015-06-04T22:27:55","date_gmt":"2015-06-04T22:27:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=3312"},"modified":"2015-06-09T12:04:26","modified_gmt":"2015-06-09T12:04:26","slug":"jenine-yn-canolbwyntio-ar-gyflwynor-gofal-gorau-ym-meithrinfeydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jenine-yn-canolbwyntio-ar-gyflwynor-gofal-gorau-ym-meithrinfeydd\/","title":{"rendered":"Jenine yn canolbwyntio ar gyflwyno\u2019r gofal gorau ym meithrinfeydd"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_6442\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/19.05.15-mh-VQ-Jenine-Gill-7.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6442\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/19.05.15-mh-VQ-Jenine-Gill-7-460x307.jpg\" alt=\"Little Inspirations nurseries owner Jenine Gill.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-large wp-image-6442\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6442\" class=\"wp-caption-text\">Perchennog Little Inspirations, Jenine Gill.<\/p><\/div>\n<p>Hanner stori fyddai dweud bod Jenine Gill yn arwain trwy esiampl. Mae hithau ei hunan, sy\u2019n berchennog ar feithrinfeydd Little Inspirations, gyda 55 aelod o staff dan ei harweiniad yn ogystal \u00e2 bod yn fam i ddau o blant, wedi cwblhau Uwch Brentisiaeth mewn Gofal Plant ac NVQ lefel 3 mewn Rheolaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.<\/p>\n<p>Mae Jenine yn parhau i ddod o hyd i\u2019r amser i gymryd rhan ymarferol yn y feithrinfa er bod ei thair meithrinfa yn Llantrisant, Rhydyfelin a\u2019r Barri\u2019n swydd rheoli amser llawn.<\/p>\n<p>\u201cMae gweithio gyda\u2019r plant yn cadw fy nhraed ar y ddaear\u201d, meddai. Mae\u2019n helpu hefyd i mi werthfawrogi\u2019r hyn sydd gan fy nh\u00eem i\u2019w gyflawni a\u2019r heriau a wynebant. Yn Little Inspirations, anogir y staff i ddysgu ar hyd eu gyrfaoedd i sicrhau bod ein plant yn cael y gofal gorau a\u2019n bod ni\u2019n perfformio i\u2019r lefel uchaf.\u201d <\/p>\n<p>Mae ei hymrwymiad i gymwysterau galwedigaethol bellach wedi cael ei gydnabod. Mae e\u2019n un o dri yn y rownd derfynol sydd \u00e2 gobaith i gael ei enwi\u2019n Gyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.<\/p>\n<p>Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a\u2019u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd \u00e2 Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol &#8211; dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr &#8211; a gynhelir ar 10 Mehefin.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni, a sefydlwyd yn 2003, wedi bod yn gweithio gyda\u2019r darparwr hyfforddiant Educ8 Ltd dros yr wyth mlynedd diwethaf, gyda chyrsiau mewn gofal cwsmeriaid, gofal plant, sgiliau hanfodol, gwaith chwarae a hyfforddiant rheoli\u2019n cael eu cyflwyno yn y meithrinfeydd.<br \/>\nCynigia Little Inspirations ystod o gyfarpar, adnoddau a chynrychiolydd prentisiaethau dynodedig i\u2019w brentisiaid.<\/p>\n<p>Fel rhan o raglen estyn allan, mae\u2019r prentisiaid yn mynd i mewn i\u2019r gymuned i ymarfer sgiliau cyfweld a siarad mewn ysgolion ynghylch gyrfaoedd mewn gofal plant.<\/p>\n<p>Mae dros 50 o aelodau staff Little Inspirations wedi\u2019u hyfforddi, sydd wedi arwain at lefel uchel o barhad a throsiant staff isel iawn. Ariennir y rhaglenni prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p>\u201cMesurir ein holl hyfforddiant ac wrth i\u2019r staff gwblhau eu rhaglenni, edrychwn iddynt ddod \u00e2 thri syniad yn \u00f4l i\u2019r feithrinfa. Helpa ein hymrwymiad i hyfforddiant i ni gadw a gwerthfawrogi staff a fydd, o ganlyniad, yn uchel eu cymhelliant i ddysgu a datblygu yn y busnes,\u201d meddai Jenine.<\/p>\n<p>Y cyflogwyr eraill sydd yn rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ Flwyddyn yw: salon gwallt proffesiynol, Spirit Hair Team o Ystrad Mynach a cynhyrchydd bwyd Dailycer UK o Lannau Dyfrdwy. Mae&#8217;r wobr yn cydnabod cyflogwyr sy&#8217;n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud cyfraniad go iawn, o&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;u maint, i wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.<\/p>\n<p>Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James y tri chwmni ysbrydoledig sydd yn y rownd derfynol ac mae hefyd yn canmol yr holl gyflogwyr a oedd wedi cynnig am y Gwobrau VQ eleni.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae\u2019n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,&#8221; meddai. &#8220;Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i&#8217;w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmn\u00efoedd, a chwsmeriaid.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a\u2019r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.<\/p>\n<p>&#8220;Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae&#8217;n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda&#8217;i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o&#8217;r radd flaenaf.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hanner stori fyddai dweud bod Jenine Gill yn arwain trwy esiampl. Mae hithau ei hunan, sy\u2019n berchennog ar feithrinfeydd Little Inspirations, gyda 55 aelod o staff dan ei harweiniad yn ogystal \u00e2 bod yn fam i ddau o blant, wedi &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jenine-yn-canolbwyntio-ar-gyflwynor-gofal-gorau-ym-meithrinfeydd\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-3312","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3312","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3312"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3312\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3312"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3312"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3312"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}