{"id":3314,"date":"2015-06-04T22:29:09","date_gmt":"2015-06-04T22:29:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=3314"},"modified":"2015-06-09T12:05:06","modified_gmt":"2015-06-09T12:05:06","slug":"michael-yn-cymryd-yr-awenau-wrth-weithio-gyda-cheffylau-yng-ngyrfa-ei-freuddwydion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/michael-yn-cymryd-yr-awenau-wrth-weithio-gyda-cheffylau-yng-ngyrfa-ei-freuddwydion\/","title":{"rendered":"Michael yn cymryd yr awenau wrth weithio gyda cheffylau yng ngyrfa ei freuddwydion"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_6445\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/MichaelWhippey-141.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6445\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/MichaelWhippey-141-460x306.jpg\" alt=\"Michael Whippey at work with horses.\" width=\"460\" height=\"306\" class=\"size-large wp-image-6445\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6445\" class=\"wp-caption-text\">Michael Whippey wrth ei waith gyda cheffylau.<\/p><\/div>\n<p>Mae cariad Michael Whippey at geffylau wedi mynd ag ef o\u2019i gartref yn Aberd\u00e2r trwy ysgol farchogaeth fyd-enwog i ganolfan geffylau yn Swydd Buckingham lle mae newydd gael ei ddyrchafu\u2019n brif hyfforddwr.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyn ddysgwr yng Ngholeg Penybont wedi casglu llu o gymwysterau galwedigaethol ar hyd y ffordd, a\u2019i obaith un diwrnod y byddant yn ei helpu i sefydlu ei ysgol hyfforddiant ceffylau ei hun.<\/p>\n<p>Mae ei daith addysgol wedi ennill lle iddo yn rownd derfynol Gwobrau VQ mawreddog eleni. Mae&#8217;n un o chwech yn y rownd derfynol sy\u2019n cystadlu am y teitl Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin, y noson cyn Diwrnod VQ, yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.<\/p>\n<p>Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a\u2019u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd \u00e2 Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol &#8211; dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr &#8211; a gynhelir ar 10 Mehefin.<\/p>\n<p>Dechreuodd cariad Michael at geffylau pan ddechreuodd farchogaeth yn bum mlwydd oed a phenderfynodd ddilyn llwybr gyrfa gyda cheffylau wedi iddo \u201cbeidio \u00e2 gwneud cystal \u00e2 hynny\u201d yn ei arholiadau safon UG yn Ysgol Gyfun i Fechgyn Aberd\u00e2r. Roedd ei ffocws i gyd ar weithio gyda cheffylau.<\/p>\n<p>Cafodd BTEC Diploma Cenedlaethol mewn rheoli ceffylau gydag anrhydedd triphlyg a thystysgrif hyfforddwr cynorthwyol Cymdeithas Geffylau Prydain ar Gampws Pencoed Coleg Penybont. Helpodd y cymwysterau iddo sicrhau swydd yn y Talland School of Equitation fyd-enwog, lle cyflawnodd dystysgrif hyfforddwr canolradd BHS a daeth yn rheolwr iard.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill mwy o brofiad mewn iardiau cystadlu yn Suffolk, ymunodd \u00e2 Chanolfan Geffylau Shardeloes Farm, Amersham lle rhedodd yr iard hydrotherapi cyn iddo gael ei ddyrchafu\u2019n brif hyfforddwr ym mis Chwefror.<\/p>\n<p>Bu rhaid iddo aros nes iddo droi\u2019n 22 llynedd i wneud arholiad Marchogaeth Uwch BHS y llwyddodd ynddo am y tro cyntaf a bydd yn dod yn un o\u2019r hyfforddwyr cymwys ieuengaf yn y wlad os bydd yn pasio arholiadau Hyfforddi terfynol BHS fis hwn.<\/p>\n<p>\u201cFy nghyngor i unrhyw un sy\u2019n gadael yr ysgol ac sy\u2019n dewis gyrfa yw eu bod yn gwneud rhywbeth maen nhw\u2019n caru ei wneud,\u201d meddai Michael, 23 oed. \u201cDydw i byth yn teimlo fy mod i\u2019n mynd i\u2019r gwaith. Mae\u2019n fwy o ffordd o fyw ac yn angerdd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Sarah Allen, rheolwraig y cwricwlwm yng Ngholeg Penybont, a\u2019i henwebodd am y wobr: \u201cYr hyn sy\u2019n gwbl eithriadol am Michael yw\u2019r lefel y mae wedi\u2019i gyflawni yn ddim ond 23 oed.<\/p>\n<p>Y dysgwyr eraill sydd yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn yw: Casey Coleman, 28, cyfarwyddwr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd; James Pepper, 39, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol ar Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; Paul Wiggins, 35, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yn Insurance Services BPW, Casnewydd; Serena Torrance, cyn ddysgwyr Ngholeg Penybont, 23, o Faesteg sy&#8217;n cymryd gradd troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a&#8217;r cyn ddysgwyr Coleg Sir G\u00e2r Simon McCall, 21, o Capel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.<\/p>\n<p>Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy&#8217;n dangos yn glir dilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi llwyddo&#8217;n sylweddol yn eu maes.<\/p>\n<p>Gan longyfarch Michael a\u2019r pump arall sydd yn rownd derfynol Gwobrau VQ, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae\u2019n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,&#8221; meddai. &#8220;Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i&#8217;w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmn\u00efoedd, a chwsmeriaid.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a\u2019r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.<\/p>\n<p>&#8220;Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae&#8217;n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda&#8217;i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o&#8217;r radd flaenaf.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cariad Michael Whippey at geffylau wedi mynd ag ef o\u2019i gartref yn Aberd\u00e2r trwy ysgol farchogaeth fyd-enwog i ganolfan geffylau yn Swydd Buckingham lle mae newydd gael ei ddyrchafu\u2019n brif hyfforddwr. Mae\u2019r cyn ddysgwr yng Ngholeg Penybont wedi casglu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/michael-yn-cymryd-yr-awenau-wrth-weithio-gyda-cheffylau-yng-ngyrfa-ei-freuddwydion\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-3314","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3314","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3314"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3314\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3314"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3314"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3314"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}