{"id":3316,"date":"2015-06-04T22:31:20","date_gmt":"2015-06-04T22:31:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=3316"},"modified":"2015-06-09T12:05:42","modified_gmt":"2015-06-09T12:05:42","slug":"datblygiad-parhaus-yn-allweddol-ir-cyflawnwr-ifanc-paul-syn-arwain-drwy-esiampl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/datblygiad-parhaus-yn-allweddol-ir-cyflawnwr-ifanc-paul-syn-arwain-drwy-esiampl\/","title":{"rendered":"Datblygiad parhaus yn allweddol i\u2019r cyflawnwr ifanc Paul, sy\u2019n arwain drwy esiampl"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_6448\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/21.05.15-mh-VQ-Paul-Wiggins-Newport-4.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6448\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/21.05.15-mh-VQ-Paul-Wiggins-Newport-4-460x307.jpg\" alt=\"Paul Wiggins, insurance broker who leads by example.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-large wp-image-6448\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6448\" class=\"wp-caption-text\">Paul Wiggins, brocer yswiriant sy\u2019n arwin drwy esiampl.<\/p><\/div>\n<p>Cred Paul Wiggins yn gadarn mewn arwain drwy esiampl. Dechreuodd y g\u0175r sy\u2019n gweithio i BPW Insurance  yng Nghasnewydd, ei Brentisiaeth mewn Yswiriant Cyffredinol ym mis Tachwedd 2011, a\u2019i gwblhau ymhen 12 mis, gan basio pob arholiad angenrheidiol y tro cyntaf.<\/p>\n<p>Ond nid dyna oedd diwedd y stori. Nid oedd y ffaith ei fod wedi cyflawni ei brentisiaeth yn golygu ei fod eisiau dod \u00e2\u2019i ddatblygiad proffesiynol i ben.<br \/>\nDim o gwbl. Ei nod nesaf oedd Diploma Uwch mewn Yswiriant a dod yn Frocer Yswiriant Siartredig, a gyflawnodd mewn dwy flynedd yn hytrach na\u2019r pum mlynedd arferol.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n hynod bwysig i mi gyflawni hyd eithaf fy ngallu ac arwain drwy esiampl. Mae datblygiad parhaus yn bwysig ni waeth pa lefel rydych chi arni mewn busnes. Fy marn i yw bod rhaid cadw hogi\u2019r gyllell a chadw mynd ati i wella,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Mae Paul yn cymryd rhan yn helaeth yn ochr reoleiddiol y busnes. \u201cTeimlaf fod cael y cymwysterau a\u2019r profiad perthnasol yn rhoi\u2019r awdurdod i mi ddelio \u00e2\u2019r rheoleiddiwr, gan ddangos fy mod i\u2019n gwybod beth rwy\u2019n ei wneud a beth rwy\u2019n siarad amdano\u201d meddai.<\/p>\n<p>Mae ei daith addysgol wedi ennill lle iddo yn rownd derfynol Gwobrau VQ mawreddog eleni. Mae&#8217;n un o chwech yn y rownd derfynol sy\u2019n cystadlu am y teitl Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin, y noson cyn Diwrnod VQ, yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.<\/p>\n<p>Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a\u2019u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd \u00e2 Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol &#8211; dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr &#8211; a gynhelir ar 10 Mehefin.<\/p>\n<p>Mae Acorn Learning Solutions Ltd yn darparu cymorth hyfforddiant i BPW Insurance ac enwebon nhw Paul am Wobr Dysgwr VQ Ifanc y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Yn 2014\/15, roedd Paul yn llywydd ar gangen Caerdydd \u2018Gr\u0175p Proffesiynolion Ifanc\u2019 y Sefydliad Yswiriant Siartredig. Yn ei r\u00f4l fel llywydd, roedd Paul yn awyddus i hyrwyddo\u2019r angen am ddatblygiad parhaus a chymwysterau galwedigaethol. Mae\u2019n parhau i roi cymorth hefyd i aelodau ifanc eraill yn y gr\u0175p. <\/p>\n<p>Enwyd Paul yn \u2018Gyflawnwr Ifanc y Flwyddyn\u2019 y Sefydliad Yswiriant Siartredig ar gyfer 2014\/15 ac enillodd hefyd un o 10 lle cenedlaethol ar \u2018Raglen Cenhedlaeth Newydd\u2019 y Sefydliad.<\/p>\n<p>Y dysgwyr eraill sydd yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn yw: Casey Coleman, 28, cyfarwyddwr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd; James Pepper, 39, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol ar Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; cyn-ddysgwyr Coleg Penybont Michael Whippey, 23, prif hyfforddwr yng Nghanolfan Farchogaeth Fferm Shardeloes, Amersham; Serena Torrance, cyn ddysgwyr Ngholeg Penybont, 23, o Faesteg sy&#8217;n cymryd gradd troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a&#8217;r cyn ddysgwyr Coleg Sir G\u00e2r Simon McCall, 21, o Capel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.<\/p>\n<p>Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy&#8217;n dangos yn glir dilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi llwyddo&#8217;n sylweddol yn eu maes.<\/p>\n<p>Gan longyfarch Paul a\u2019r pump arall sydd yn rownd derfynol Gwobrau VQ, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae\u2019n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,&#8221; meddai. &#8220;Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i&#8217;w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmn\u00efoedd, a chwsmeriaid.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a\u2019r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.<\/p>\n<p>&#8220;Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae&#8217;n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda&#8217;i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o&#8217;r radd flaenaf.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cred Paul Wiggins yn gadarn mewn arwain drwy esiampl. Dechreuodd y g\u0175r sy\u2019n gweithio i BPW Insurance yng Nghasnewydd, ei Brentisiaeth mewn Yswiriant Cyffredinol ym mis Tachwedd 2011, a\u2019i gwblhau ymhen 12 mis, gan basio pob arholiad angenrheidiol y tro &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/datblygiad-parhaus-yn-allweddol-ir-cyflawnwr-ifanc-paul-syn-arwain-drwy-esiampl\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-3316","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3316","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3316"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3316\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3316"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3316"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3316"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}