{"id":3321,"date":"2015-06-09T11:40:37","date_gmt":"2015-06-09T11:40:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=3321"},"modified":"2015-06-09T12:06:41","modified_gmt":"2015-06-09T12:06:41","slug":"cymwysterau-galwedigaethol-yn-allweddol-i-lwyddiant-y-salon-gwallt-ir-dyfodol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cymwysterau-galwedigaethol-yn-allweddol-i-lwyddiant-y-salon-gwallt-ir-dyfodol\/","title":{"rendered":"Cymwysterau galwedigaethol yn allweddol i lwyddiant y salon gwallt i\u2019r dyfodol"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_6455\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/20.05.25-mh-Spirit-Hair-Team-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6455\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/20.05.25-mh-Spirit-Hair-Team-1-460x307.jpg\" alt=\"Janine O\u2019Callaghan (right) and business partner Donna Friend, joint owners of Spirit Hair Team.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-large wp-image-6455\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6455\" class=\"wp-caption-text\">Janine O\u2019Callaghan (dde) a\u2019i phartner busnes Donna Friend, cyd-berchnogion Spirit Hair Team.<\/p><\/div>\n<p>\u201cBydd ein busnes ond yn ffynnu yn y dyfodol os cadwn ychwanegu gwerth ato trwy hyfforddiant galwedigaethol.\u201d <\/p>\n<p>Dyna oedd geiriau Janine O\u2019Callaghan, cydberchennog y salon gwallt proffesiynol, Spirit Hair Team yn Ystrad Mynach, cwmni sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.<\/p>\n<p>Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a\u2019u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd \u00e2 Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol &#8211; dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr &#8211; a gynhelir ar 10 Mehefin.<\/p>\n<p>Mae gan Janine a\u2019i phartner busnes, Donna Friend, frwdfrydedd mawr am gymwysterau galwedigaethol a datblygiad proffesiynol parhaus i gyflawni gwasanaeth trin gwallt o safon a gwasanaeth proffesiynol i gwsmeriaid. Anogir aelodau\u2019r t\u00eem i gymryd rhan mewn prentisiaethau ac i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a chystadlu.<\/p>\n<p>O gael trafferth recriwtio staff da a medrus pan ddechreuon nhw\u2019r busnes, sefydlon nhw eu rhaglen brentisiaeth eu hunain, gan weithio gyda\u2019r darparwr hyfforddiant ISA Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ysgolion a cholegau lleol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r busnes, a chanddo d\u00eem o 18 o bobl, wedi cymryd 34 prentis dros y 10 mlynedd diwethaf ac yn bwriadu recriwtio mwy fel rhan o raglen i ehangu. Mae Janine yn cyfrifo bod prentisiaid y salon wedi cyfrannu oddeutu \u00a3400,000 at y busnes trwy gyflwyno 1,400 o gleientiaid dros y ddwy flynedd diwethaf.<\/p>\n<p>\u201cNi fyddai gennym fusnes heb gymwysterau galwedigaethol,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n hanfodol ein bod ni\u2019n parhau gyda nhw er mwyn cefnogi\u2019n cynlluniau i arbenigo ac ehangu i wahanol feysydd. <\/p>\n<p>\u201cMae arnom angen aelodau o\u2019r t\u00eem sy\u2019n rhagweithiol ac sydd eisiau cynyddu eu sgiliau ar draws yr ystod, wrth i ni ddatblygu arweinwyr t\u00eem a staff sy\u2019n canolbwyntio ar wasanaethau cwsmeriaid ac sydd wedi\u2019u hyfforddi mewn busnes a rheolaeth. <\/p>\n<p>\u201cDros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi datblygu strwythur i annog datblygiad a llwyddiant ac mae pawb yn cael yr un cyfleoedd i symud i fyny\u2019r ysgol. Rydym wedi creu amgylchedd lle sylweddola\u2019r prentisiaid fod hyfforddiant yn allweddol i\u2019w llwyddiant i\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cHarddwch cymwysterau galwedigaethol yw eu hyblygrwydd a\u2019r cyfleoedd am brofiadau dysgu ychwanegol sy\u2019n cynhyrchu gweithlu sy\u2019n hynod gyflogadwy gyda chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy.\u201d<\/p>\n<p>Y cyflogwyr eraill sydd yn rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ Flwyddyn yw: cynhyrchydd bwyd Dailycer UK o Lannau Dyfrdwy a meithrinfa plant Little Inspirations o Lantrisant. Mae&#8217;r wobr yn cydnabod cyflogwyr sy&#8217;n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud cyfraniad go iawn, o&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;u maint, i wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.<\/p>\n<p>Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James y tri chwmni ysbrydoledig sydd yn y rownd derfynol ac mae hefyd yn canmol yr holl gyflogwyr a oedd wedi cynnig am y Gwobrau VQ eleni.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae\u2019n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,&#8221; meddai. &#8220;Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i&#8217;w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmn\u00efoedd, a chwsmeriaid.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cBydd ein busnes ond yn ffynnu yn y dyfodol os cadwn ychwanegu gwerth ato trwy hyfforddiant galwedigaethol.\u201d Dyna oedd geiriau Janine O\u2019Callaghan, cydberchennog y salon gwallt proffesiynol, Spirit Hair Team yn Ystrad Mynach, cwmni sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cymwysterau-galwedigaethol-yn-allweddol-i-lwyddiant-y-salon-gwallt-ir-dyfodol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-3321","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3321","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3321"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3321\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3321"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3321"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3321"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}