{"id":3325,"date":"2015-06-10T10:01:10","date_gmt":"2015-06-10T10:01:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=3325"},"modified":"2015-06-10T10:01:10","modified_gmt":"2015-06-10T10:01:10","slug":"saer-dawnus-a-pherchennog-meithrinfeydd-ysbrydoledig-yn-ennill-gwobrau-vq","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/saer-dawnus-a-pherchennog-meithrinfeydd-ysbrydoledig-yn-ennill-gwobrau-vq\/","title":{"rendered":"Saer dawnus a pherchennog meithrinfeydd ysbrydoledig yn ennill Gwobrau VQ"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_6481\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/09.06.15-mh-VQ-Awards-129.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6481\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/09.06.15-mh-VQ-Awards-129-460x307.jpg\" alt=\"Enillwyr Gwobrau VQ gyda\u2019r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg. CH-Dde Simon McCall, Julie James AM a Jenine Gill, Little Inspirations\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-large wp-image-6481\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6481\" class=\"wp-caption-text\">Enillwyr Gwobrau VQ gyda\u2019r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg. CH-Dde Simon McCall, Julie James AM a Jenine Gill, Little Inspirations<\/p><\/div>\n<p>Roedd saer o Sgwad Deyrnas Unedig Worldskills a pherchennog ysbrydoledig tair meithrinfa i blant yn dathlu neithiwr (9 Mehefin) ar \u00f4l iddynt ennill y prif Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) yng Nghymru.<\/p>\n<p>Enwyd cyn fyfyriwr Coleg Sir G\u00e2r, <strong style=\"color: #d2232a;\">Simon McCall<\/strong> yn Ddysgwr VQ y Flwyddyn. Mae Simon yn 21 oed ac o Gapel Dewi ger Caerfyrddin, yn enillydd medal arian Ewropeaidd ac fe gafodd le yn Sgwad y DU Worldskills yn gynharach eleni.<\/p>\n<p>Enwyd <strong style=\"color: #d2232a;\">Jenine Gill<\/strong>, sy\u2019n cyflogi 55 aelod o staff ym meithrinfeydd plant Little Inspirations yn Llantrisant, Rhydyfelin a\u2019r Barri, yn Gyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd y Gwobrau VQ, sy\u2019n dathlu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru, ar noswyl Diwrnod VQ ledled y DU.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau, a drefnir gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru, yn helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.<\/p>\n<p>Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, yr enillwyr ysbrydoledig a\u2019r saith a ddaeth yn agos at y brig.<\/p>\n<p>\u201cMae gennym draddodiad hir yng Nghymru o ddatblygu sgiliau trwy lwybrau galwedigaethol,\u201d meddai. \u201cRydym yn parhau\u2019n ymroddedig i helpu pobl ifanc a chyflogwyr i ddatblygu\u2019r sgiliau angenrheidiol i gyfrannu at economi Cymru sy\u2019n tyfu. <\/p>\n<p>\u201cMae Diwrnod VQ yn ein hatgoffa ni faint o gyflogwyr a dysgwyr Cymru sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol pan ddaw hi i ddatblygu eu sgiliau. Dangosodd pob un o\u2019r rhai a enwyd ar gyfer y gwobrau eleni\u2019r hyn y gellir ei gyflawni trwy waith caled ac ymroddiad.<\/p>\n<p>\u201cCymwysterau galwedigaethol yw\u2019r safon aur mewn rhagoriaeth broffesiynol a rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod ochr yn ochr \u00e2 chyraeddiadau academaidd.<\/p>\n<p>Mae cystadleuaeth Ryngwladol WorldSkills, a gynhelir ym Mrasil ym mis Awst, yn rhoi lle amlwg i addysg alwedigaethol a bydd y pedwar cystadleuydd o Gymru sydd yn y sgwad yn tynnu sylw at bwysigrwydd Cymru i gymwysterau galwedigaethol ar lwyfan y byd.\u201d  <\/p>\n<div id=\"attachment_6482\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/09.06.15-mh-VQ-Awards-137.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6482\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/09.06.15-mh-VQ-Awards-137-460x258.jpg\" alt=\"Enillwyr VQ a\u2019r Rownd Derfynol 2015\" width=\"460\" height=\"258\" class=\"size-large wp-image-6482\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6482\" class=\"wp-caption-text\">Enillwyr VQ a\u2019r Rownd Derfynol 2015<\/p><\/div>\n<p>Cwblhaodd Simon McCall brentisiaeth gwaith coed CITB gyda Jones and Johnson, Caerfyrddin, gan astudio yng Ngholeg Sir G\u00e2r. Fe\u2019i hanogwyd i berffeithio\u2019i sgiliau ymhellach trwy gystadlu mewn cystadlaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gan ennill medal aur yn rownd ranbarthol WorldSkills UK\/Rownd Derfynol Cymru&#8217;r llynedd ac arian yn Euroskills yn Lille, Ffrainc.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l sicrhau lle yn Sgwad y Deyrnas Unedig Worldskills, aeth yn hunangyflogedig fis Hydref diwethaf a\u2019i nod yw cyflogi prentis ym mis Medi er mwyn trosglwyddo\u2019i sgiliau a\u2019i brofiad.<\/p>\n<p>Bythefnos yn \u00f4l yn rownd derfynol dewis T\u00eem Deyrnas Unedig Worldskills, y cyd-Gymro Owain Jones oedd yr unig un i sicrhau lle yn y gystadleuaeth gwaith coed ar gyfer Worldskills Brasil 2015.Mae Simon wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi ei gydwladwr wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol, sy\u2019n dyst i haelioni ei gymeriad.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n cymryd cryn dipyn o ymroddiad ond nid llawer o bobl all ddweud eu bod ym meddiant medal Ewropeaidd a\u2019u bod yn Sgwad y DU ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol Worldskills,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Hanner stori fyddai dweud bod Jenine Gill yn arwain trwy esiampl. Mae\u2019r fam i ddau o blant wedi cwblhau Uwch Brentisiaeth mewn Gofal Plant ac NVQ lefel 3 mewn Rheolaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. <\/p>\n<p>Sefydlodd Little Inspirations yn 2003, ac mae wedi bod yn gweithio gyda\u2019r darparwr hyfforddiant Educ8 Ltd dros yr wyth mlynedd diwethaf \u2013 sef darparwr sy\u2019n cyflwyno cyrsiau mewn gofal cwsmeriaid, gofal plant, sgiliau hanfodol, gwaith chwarae a hyfforddiant rheoli.<\/p>\n<p>Mae dros 50 o aelodau staff wedi\u2019u hyfforddi, sydd wedi arwain at lefel uchel o barhad a throsiant staff isel iawn. Ariennir y rhaglenni prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p>\u201cAnogir y staff yn Little Inspirations i ddysgu ar hyd eu gyrfaoedd er mwyn sicrhau bod ein plant yn cael y gofal gorau a\u2019n bod ni\u2019n perfformio ar y lefel uchaf,\u201d meddai. \u201cMesurir ein holl hyfforddiant ac wrth i\u2019r staff gwblhau eu rhaglenni, edrychwn iddynt ddod \u00e2 thri syniad yn \u00f4l i\u2019r feithrinfa. <\/p>\n<p>\u201cHelpa ein hymrwymiad i hyfforddiant i ni gadw a gwerthfawrogi staff a fydd, o ganlyniad, yn uchel eu cymhelliant i ddysgu a datblygu yn y busnes.\u201d<\/p>\n<p>Y rhai nesaf at y brig ar gyfer Cyflogwr VQ y Flwyddyn oedd y cynhyrchwyr bwyd <strong style=\"color: #d2232a;\">Dailycer UK<\/strong> yng Nglannau Dyfrdwy, y mae eu twf yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cyd-daro \u00e2 chydweithrediad hyfforddi staff llwyddiannus gyda Choleg Cambria a\u2019r salon gwallt proffesiynol <strong style=\"color: #d2232a;\">Spirit Hair Team<\/strong> o Ystrad Mynach, sy\u2019n dweud bod cymwysterau galwedigaethol a datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol i\u2019r busnes ffyniannus.<\/p>\n<p>Ymhlith y rhai nesaf at y brig yng ngwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn oedd <strong style=\"color: #d2232a;\">Casey Coleman<\/strong>, 28 oed, cyfarwyddwyr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd a gafodd eu hyfforddi yng Ngholeg G\u0175yr Abertawe, <strong style=\"color: #d2232a;\">James Pepper<\/strong>, 39 oed, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd a <strong style=\"color: #d2232a;\">Paul Wiggins<\/strong>, 35 oed, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yn BPW Insurance Services, Casnewydd a gafodd ei hyfforddi gan Acorn Learning Solutions a\u2019r cynfyfyrwyr o Goleg Penybont <strong style=\"color: #d2232a;\">Michael Whippey<\/strong>, 23 oed, y prif hyfforddwr yng Nghanolfan Geffylau Shardeloes Farm, Amersham a <strong style=\"color: #d2232a;\">Serena Torrance<\/strong>, 23 oed, o Faesteg sy\u2019n dilyn gradd Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Er mwyn dathlu Diwrnod VQ yng Nghymru, bydd y Dirprwy Weinidog yn ymweld \u00e2\u2019r cwmni technoleg mawr Sony\u2019s UK Technology Centre (UKTEC) ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr ar fore Mercher. Bydd hi\u2019n teithio\u2019r ffatri ac yn clywed sut mae cefnogaeth y cwmni i hyfforddi a datblygu ei weithlu medrus wedi creu enw gwych am ragoriaeth cynhyrchu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd saer o Sgwad Deyrnas Unedig Worldskills a pherchennog ysbrydoledig tair meithrinfa i blant yn dathlu neithiwr (9 Mehefin) ar \u00f4l iddynt ennill y prif Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) yng Nghymru. Enwyd cyn fyfyriwr Coleg Sir G\u00e2r, Simon McCall yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/saer-dawnus-a-pherchennog-meithrinfeydd-ysbrydoledig-yn-ennill-gwobrau-vq\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-3325","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3325","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3325"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3325\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3325"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3325"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3325"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}