{"id":3339,"date":"2015-06-10T14:56:37","date_gmt":"2015-06-10T14:56:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=3339"},"modified":"2015-06-10T15:16:13","modified_gmt":"2015-06-10T15:16:13","slug":"y-dirprwy-weinidog-yn-ffocws-yn-ystod-ymweliad-diwrnod-vq-a-chanolfan-dechnoleg-sony-uk","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/y-dirprwy-weinidog-yn-ffocws-yn-ystod-ymweliad-diwrnod-vq-a-chanolfan-dechnoleg-sony-uk\/","title":{"rendered":"Y Dirprwy Weinidog yn ffocws yn ystod ymweliad Diwrnod VQ \u00e2 Chanolfan Dechnoleg Sony UK"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_6486\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/10.06.14-mh-VQ-Day-Sony-8.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6486\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/06\/10.06.14-mh-VQ-Day-Sony-8-460x307.jpg\" alt=\"Deputy Minister in focus during VQ Day visit to Sony UK Technology Centre\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-large wp-image-6486\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6486\" class=\"wp-caption-text\">Dyma Julie James, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, gyda gweithwyr Sony, Jane Cumming a Sian Thomas, sy\u2019n dilyn cymwysterau galwedigaethol yn yr academi hyfforddiant newydd at Sony UK Technology Centre<\/p><\/div>\n<p>Roedd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, mewn ffocws wrth iddi ddechrau Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol (Diwrnod VQ) gydag ymweliad bore i gawr dechnoleg fyd-eang, Canolfan Dechnoleg Sony UK (UKTEC), ym Mhencoed, Pen-y-bont-ar-Ogwr, lle mae camer\u00e2u proffesiynol a darlledu yn cael eu gwneud.<\/p>\n<p>Yn ystod ei thaith o gwmpas y ffatri 30,000 metr sgw\u00e2r arobryn a agorwyd gan y Frenhines yn 1993, cyfarfu staff sy&#8217;n cymryd cymwysterau galwedigaethol a, gan mai Diwrnod VQ ydoedd, derbyniodd wahoddiad i helpu cydosod rhan o gamera.<\/p>\n<p>Roedd hi&#8217;n ymweld \u00e2 Sony UKTEC i glywed sut mae cefnogaeth y cwmni am hyfforddiant a datblygiant ei weithlu medrus wedi creu enw da am ragoriaeth gweithgynhyrchu. Yn ogystal \u00e2 rhedeg ei academi hyfforddi ei hun, mae gan y cwmni 12 o raddedigion, pum prentis a 27 o weithwyr sy&#8217;n cymryd cymwysterau galwedigaethol mewn pynciau fel peirianneg a rheoli busnes.<\/p>\n<p>Dathliad ledled y DU yw Diwrnod VQ o gymwysterau galwedigaethol i brentisiaid, myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr. Neithiwr (nos Fawrth), fel rhan o ddathliadau Diwrnod VQ, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog y Gwobrau VQ Cymru i&#8217;r Cyflogwr a Dysgwr y Flwyddyn mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae Sony, sydd wedi bod yng Nghymru ers 1973, yn cyflogi 350 o staff yn UKTEC ac 250 ychwanegol yn rhan o Canolfan Deori Busnes unigryw y cwmni, sydd bellach yn cartrefi 31o fusnesau cysylltiedig sy&#8217;n gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol.<\/p>\n<p>Wedi ei goroni&#8217;n Ffatri Orau Prydain yn 2013, mae Sony UKTEC hefyd wedi derbyn pedwar Gwobr y Frenhines am Allforio, Gwobr y Frenhines am yr Amgylchedd, ac yn enillydd blaenorol o Gwobr Ansawdd Prydeinig.<\/p>\n<p>Swyddogaeth fusnes craidd y safle ym Mhencoed yw gweithgynhyrchu systemau darlledu a chamerau proffesiynol uchel-diffiniad (HD) o ansawdd a gwerth uchel, a systemau camera sy&#8217;n cael eu cynhyrchu ar gyfer marchnadoedd ledled y byd. Unig safle Sony yn Ewrop ydyw sy&#8217;n cynhyrchu camerau llawn, ac mae yn un o ddim ond tri chyfleuster gweithgynhyrchu ledled y byd.<\/p>\n<p>Mae angen ar gyflogeion sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o&#8217;r prosesau gweithgynhyrchu diweddaraf er mwyn sicrhau bod y cynhyrchion cymhleth a hynod fanwl hyn yn cael eu gwneud yn fanwl gywir, ac eu bod o&#8217;r ansawdd uchaf.<\/p>\n<p>Mae rhannau eraill o&#8217;r busnes yn cynnwys prif Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid Ewropeaidd Sony yn y DU a&#8217;i Ganolfan Deori Busnes. Mae&#8217;r safle hefyd yn cynnig gweithgynhyrchu contract trydydd parti lle mae cynhyrchion megis y Raspberry Pi, cyfrifiadur maint cerdyn credyd mini, yn cael eu gwneud.<\/p>\n<p>Croesawyd y Dirprwy Weinidog gan Gerald Kelly, rheolwr cyffredinol Sony UKTEC, a Nabila Elisa, rheolwr prosiect, ac aeth ymlaen i gwrdd \u00e2 Jane Cummings a Julie Thomas, sy&#8217;n cymryd cymhwyster galwedigaethol.<\/p>\n<p>&#8220;Mae enw da Sony ar gyfer gweithgynhyrchu rhagorol ei danategu gan ymrwymiad y cwmni i hyfforddi a datblygu ei weithlu hynod fedrus,&#8221; dywedodd y Dirprwy Weinidog. &#8220;Roeddwn wrth fy modd, ar Ddiwrnod VQ, i glywed am raglenni&#8217;r cwmni i raddedigion a phrentisiaid a&#8217;i angerdd am wella sgiliau gweithwyr.<\/p>\n<p>&#8220;Os bydd economi Cymru i barhau i dyfu, yna mae&#8217;n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr fel Sony, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda&#8217;i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o&#8217;r radd flaenaf.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Diwrnod VQ yn ein hatgoffa o gynifer y cyflogwyr a dysgwyr yng Nghymru sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol pan ddaw i ddatblygu eu sgiliau. Safon aur rhagoriaeth proffesiynol yw cymwysterau galwedigaethol a rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod ochr yn ochr \u00e2 chyflawniadau academaidd. &#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Mr Kelly: &#8220;Croesawn y Gweinidog i&#8217;n safle ar Ddiwrnod Cymwysterau Galwedigaethol. Yr ydym yn angerddol am wella sgiliau ein gweithwyr ac mae&#8217;n bwysig ein bod yn rhoi iddynt y cyfleoedd ar gyfer datblygu.<\/p>\n<p>&#8220;Gall cyrsiau megis cymwysterau galwedigaethol roi&#8217;r cyfle i unigolion talentog a brwdfrydig i ddilyn gyrfaoedd mewn peirianneg, gweithgynhyrchu a rheoli busnes. Yn ogystal, maent yn ffordd wych o ddatblygu ac ennill sgiliau newydd, gwybodaeth busnes a hyfforddiant ymarferol.<\/p>\n<p>&#8220;Y llynedd b\u00fbm inni lansio yn llwyddiannus ein rhaglenni prentisiaethau a graddedigion er mwyn datblygu&#8217;r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, arloeswyr ac arweinwyr busnes Sony. Yn ystod y cyfnod hwn gwelsom ein gweithwyr yn magu hunanhyder a dangos sgiliau arwain a fydd yn helpu i lunio dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru. &#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, mewn ffocws wrth iddi ddechrau Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol (Diwrnod VQ) gydag ymweliad bore i gawr dechnoleg fyd-eang, Canolfan Dechnoleg Sony UK (UKTEC), ym Mhencoed, Pen-y-bont-ar-Ogwr, lle mae camer\u00e2u proffesiynol a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/y-dirprwy-weinidog-yn-ffocws-yn-ystod-ymweliad-diwrnod-vq-a-chanolfan-dechnoleg-sony-uk\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-3339","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3339","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3339"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3339\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3339"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3339"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3339"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}