{"id":3881,"date":"2016-03-02T13:40:34","date_gmt":"2016-03-02T13:40:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=3881"},"modified":"2016-03-02T13:45:35","modified_gmt":"2016-03-02T13:45:35","slug":"cyflogwyr-a-dysgwyr-ledled-cymrun-cael-eu-hannog-i-gynnig-am-wobrau-vq","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyflogwyr-a-dysgwyr-ledled-cymrun-cael-eu-hannog-i-gynnig-am-wobrau-vq\/","title":{"rendered":"Cyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru\u2019n cael eu hannog i gynnig am Wobrau VQ"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_6730\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/09\/18.08.15-mh-Nursery-Jenine-Gill-3.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6730\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2015\/09\/18.08.15-mh-Nursery-Jenine-Gill-3-460x307.jpg\" alt=\"Jenine Gill \u2013 memorable, award-winning year for Little Inspirations\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-large wp-image-6730\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6730\" class=\"wp-caption-text\">Jenine Gill o feithrinfeydd plant Little Inspirations, sef enillydd Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn llynedd.<\/p><\/div>\n<p>Mae entrepreneur llwyddiannus a sefydlodd bedair meithrinfa i blant yn Ne Cymru\u2019n annog dysgwyr a chyflogwyr ar draws y wlad i gynnig am y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (Gwobrau VQ) eleni, a lansiodd heddiw (2 Mawrth).<\/p>\n<p>Roedd 2015 yn flwyddyn i\u2019w chofio i Jenine Gill, cyfarwyddwr Little Inspirations yn Llantrisant. Cafodd ei henwi\u2019n Gyflogwr VQ y Flwyddyn. Bu i\u2019w chwmni hefyd ennill gwobr Busnes Gwasanaeth Gorau yn Rhondda Cynon Taf a chyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Ers iddi ennill Gwobr VQ haf diwethaf, mae hi wedi sicrhau contract Dechrau\u2019n Deg i agor ei phedwaredd feithrinfa, a honno yn y Barri, gan greu chwe swydd newydd. Mae\u2019r busnes cyfan yn parhau i dyfu, gan fod ganddi bellach weithlu hyfforddedig o 66 o bobl yn gofalu am hyd at 160 o blant y dydd.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r busnes yn parhau i fynd o nerth i nerth ac rwy\u2019n si\u0175r fod y Wobr VQ wedi ein helpu i ennill contract Dechrau\u2019n Deg,\u201d meddai Jenine. \u201cRydym yn sicr wedi denu cleientiaid newydd o ganlyniad i\u2019r wobr.\u201d<\/p>\n<p>Wrth annog cyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru i wneud cais am y gwobrau eleni, meddai: \u201cDoes gennych chi ddim byd i\u2019w golli a phopeth i\u2019w hennill.  Mae\u2019n gyfle i gael rhywfaint o werthfawrogiad a chydnabyddiaeth am y gwaith caled rydych chi\u2019n ei wneud.<\/p>\n<p>\u201cOs ydy eich cwmni\u2019n buddsoddi mewn pobl ac yn darparu gwasanaethau o\u2019r radd flaenaf, da chi, anfonwch eich enwebiad. Os ydych chi\u2019n ddysgwr a bod gennych stori ysbrydoledig i\u2019w dweud am eich taith ddysgu sydd wedi esgor ar lwyddiant, yna mae\u2019r gwobrau hyn yn addas ar eich cyfer.\u201d<\/p>\n<p>Mae gan Little Inspirations, a sefydlwyd 14 o flynyddoedd yn \u00f4l, feithrinfeydd plant yn Llantrisant, Rhydyfelin a\u2019r Barri. Cydnabuwyd y cwmni yn Fuddsoddwr mewn Pobl, yn ganolfan dysgu gydol oes ac mae meithrinfa Llantrisant wedi\u2019i hadnabod yn un blaenllaw yn y sector gan Estyn.<\/p>\n<p>Mae Jenine, sy\u2019n ddyslecsig ac a adawodd yr ysgol gydag ychydig iawn o gymwysterau TGAU, yn teimlo\u2019n angerddol ynghylch dysgu galwedigaethol fel llwybr i fodloni gwir botensial ei staff i ddarparu\u2019r safon ofal uchaf i\u2019r plant sy\u2019n mynychu\u2019r meithrinfeydd. Mae pob aelod o staff naill ai wedi cwblhau neu\u2019n cymryd rhan mewn Prentisiaeth.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau VQ gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a CholegauCymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p>Rhennir gwobrau eleni\u2019n dri chategori \u2013 cyflogwr y flwyddyn, dysgwr canolradd y flwyddyn a dysgwr lefel uwch y flwyddyn. Mae\u2019r wobr ganolradd ar gyfer dysgwyr gyda chymwysterau hyd at lefel tri, ac mae\u2019r wobr uwch ar gyfer cymwysterau o lefel pedwar ac i fyny.<\/p>\n<p>Mae Gwobrau\u2019r Dysgwyr yn cydnabod dysgwyr sy\u2019n dangos dilyniant a rhagoriaeth glir mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol yn eu maes. Canolbwyntia Gwobr y Cyflogwr ar gyflogwyr sy\u2019n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac sy\u2019n gwneud gwir gyfraniad at wella sgiliau a chystadleugarwch cenedlaethol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau sydd bellach yn eu 9fed blwyddyn yn olynol, yn cyd-daro \u00e2 Diwrnod VQ ar 8 Mehefin, sef dathliad o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dyddiad cau i gyflwyno enwebiadau ar 22 Ebrill.  Bydd tri yn cyrraedd y rhestr fer ym mhob categori &#8211; a gyhoeddir ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar noson 7 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant (St David\u2019s Hotel), Caerdydd, y diwrnod cyn Diwrnod VQ. I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i <a href=\"https:\/\/vqday.wales\/cy\/\">vqday.cymru<\/a><\/p>\n<p>Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: \u201cMae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae\u2019n symbol o ymroddiad tuag at eich proffesiwn dethol.<\/p>\n<p>\u201cDefnyddir rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol ar gyfer staff er mwyn eu galluogi i ddilyn llwybr dysgu i ddiwallu anghenion cwmn\u00efau, cwsmeriaid ac unigolion. Mae gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu\u2019r cyflogwyr a\u2019r dysgwyr hynny yng Nghymru sydd eisoes yn mynd ymhellach o ran datblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.<\/p>\n<p>\u201cRhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru\u2019n cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau iawn ar  gyfer llwyddiant er mwyn darparu gweithlu o safon fyd-eang i Gymru er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu.\u201d<\/p>\n<p>Anogir darparwyr dysgu ledled Cymru i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ ac ymgysylltu gyda dysgwyr o bob oedran. Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod cyn bwysiced i\u2019r economi ac i\u2019r unigolyn, oherwydd maen nhw\u2019n cyflawni\u2019r gweithwyr hyfforddedig, dawnus y mae busnesau\u2019n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i lwyddo ym myd addysg a gwaith.  <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae entrepreneur llwyddiannus a sefydlodd bedair meithrinfa i blant yn Ne Cymru\u2019n annog dysgwyr a chyflogwyr ar draws y wlad i gynnig am y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (Gwobrau VQ) eleni, a lansiodd heddiw (2 Mawrth). Roedd 2015 yn flwyddyn i\u2019w &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyflogwyr-a-dysgwyr-ledled-cymrun-cael-eu-hannog-i-gynnig-am-wobrau-vq\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-3881","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3881","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3881"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3881\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3881"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3881"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3881"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}