{"id":4852,"date":"2017-06-06T10:30:48","date_gmt":"2017-06-06T10:30:48","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=4852"},"modified":"2017-06-10T20:20:56","modified_gmt":"2017-06-10T20:20:56","slug":"y-dwsin-sydd-ar-restr-fer-gwobrau-vq-ar-fin-darganfod-eu-ffawd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/y-dwsin-sydd-ar-restr-fer-gwobrau-vq-ar-fin-darganfod-eu-ffawd\/","title":{"rendered":"Y dwsin sydd ar restr fer Gwobrau VQ ar fin darganfod eu ffawd"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_8812\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/09.05.17-mh-VQ-Finalist-Mitchell-Rees-24.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-8812\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/09.05.17-mh-VQ-Finalist-Mitchell-Rees-24-460x284.jpg\" alt=\"Mitchell Rees a finalist for the VQ Learner of the Year (Higher) award.\" width=\"460\" height=\"284\" class=\"size-large wp-image-8812\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-8812\" class=\"wp-caption-text\">Mitchell Rees sydd ar y rhestr fer am y Wobr VQ Dysgwr (Uwch) y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/vq-awards-decision-time-for-12-shortlisted-finalists\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/y-dwsin-sydd-ar-restr-fer-gwobrau-vq-ar-fin-darganfod-eu-ffawd\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Bydd y deuddeg sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn darganfod nos Fawrth (Mehefin 6) a ydynt wedi ennill un o Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) eleni \u2013 gwobrau sy\u2019n dathlu\u2019r rheini o bob rhan o Gymru sy\u2019n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i lwyddo.<\/p>\n<p>Byddant yn cystadlu am y gwobrau mawreddog mewn pedwar categori, a hynny mewn seremoni sydd i\u2019w chynnal yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd, y noson cyn Diwrnod VQ ar Fehefin 7.<\/p>\n<p>Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru a Cymwysterau Cymru sy\u2019n trefnu Gwobrau VQ. Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop sy\u2019n ariannu\u2019r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae Gwobrau Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy\u2019n dangos dilyniant a rhagoriaeth glir mewn dysgu galwedigaethol ac sydd wedi cyflawni\u2019n sylweddol yn eu meysydd.<\/p>\n<p>Y rheini sydd yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (lefel canolradd) \u2013 sef y wobr i ddysgwyr sydd \u00e2 chymwysterau hyd at lefel tri \u2013 yw:<\/p>\n<p><strong>Alys Evans, 18, o Gilfach Goch<\/strong>, sy\u2019n gweithio tuag at ennill cymhwyster lefel tri mewn Teisennau a Melysion yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw, ac yn breuddwydio am redeg ei busnes symudol ei hun yn gwerthu cacennau a theisennau bach, ynghyd \u00e2 siop deisennau a becws. Mae hi wedi ennill llu o wobrau aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, yn ogystal \u00e2 medal aur City &#038; Guilds am gyflawniad rhagorol a medal aur Cake International yn Llundain.<\/p>\n<p>Enwebwyd <strong>Jason Hyam, 34, o Gaerdydd, sy\u2019n gweithio i Arthur J. Gallagher yn Llantrisant<\/strong>, gan Acorn Learning Solutions. Ar \u00f4l cwblhau ei brentisiaeth mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol, mae Jason wedi symud o fod yn weinyddwr cyfrifon llwyddiannus i fod yn rheolwr busnes sy\u2019n delio ag yswiriant masnachol, ac mae bellach yn astudio am Ddiploma mewn Yswiriant.<\/p>\n<p>Mae <strong>Maria Brooks, 29, o\u2019r Ford Motor Company ym Mhen-y-bont ar Ogwr<\/strong>, a enwebwyd gan Goleg Penybont, yn mynd am y dwbl, ar \u00f4l iddi gael ei henwi\u2019n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau y llynedd. Ymunodd \u00e2\u2019r Ford Motor Company yn 2011 ar \u00f4l ei chael yn anodd datblygu gyrfa mewn cemeg fforensig, sef ei phwnc gradd. Ym mis Awst, mae\u2019n disgwyl cwblhau prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw Trydanol, ac ar yr un pryd mae\u2019n dilyn BEng mewn gradd Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu a HENC mewn Peirianneg Drydanol yng Ngholeg Penybont.<\/p>\n<p>Y rheini sydd yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (lefel uwch) \u2013 sef y wobr am gymwysterau lefel pedwar ac uwch \u2013 yw:<\/p>\n<p><strong>Christine Thomas, sydd wedi gweithio i adran rheoli gwastraff Cyngor Dinas Casnewydd<\/strong> ers 27 mlynedd, gan ddatblygu o fod yn glerc iau i fod yn rheolwr gorfodi a masnach. Mae hi wedi cwblhau prentisiaeth a phrentisiaeth uwch mewn Systemau a Rheoli Gweithredol gyda\u2019r darparwr hyfforddiant Safe and Secure Training, ac wedi dod yn asesydd. Yn sgil ei brwdfrydedd dros hyfforddiant, mae sawl un o\u2019i chydweithwyr wedi penderfynu dilyn prentisiaethau hefyd.<\/p>\n<p>Mae <strong>Julie Mundy o Seren Cyf, Blaenau Ffestiniog<\/strong>, wedi troi\u2019r siom o golli ei swydd yn gyfle i ddilyn gyrfa newydd lewyrchus gydag elusen yn y gogledd sy\u2019n helpu oedolion sydd ag anableddau dysgu. Mae hi\u2019n arweinydd t\u00eem yn yr uned ailgylchu dodrefn yn Seren Cyf, ac mae ei brwdfrydedd dros ddysgu gydol oes wedi\u2019i harwain i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Systemau a Rheoli Gweithrediadau, a hynny gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Roedd <strong>Mitchell Rees, 21, o Ferthyr Tudful ac a enwebwyd gan Goleg Penybont<\/strong> yn torri cwys newydd wrth astudio yn y maes addysg uwch a mentro i\u2019r byd marchogaeth. Yn hytrach na dilyn llwybr Safon Uwch, canolbwyntiodd ar addysg alwedigaethol, gan astudio am gymwysterau marchogaeth ar lefelau addysg bellach ac addysg uwch. Ar \u00f4l cael Diploma Estynedig Lefel 3 mewn rheoli Ceffylau a HND mewn Astudiaethau Ceffylau, mae bellach yn fyfyriwr TAR.<\/p>\n<p>Y rheini sydd yn y rownd derfynol yng Ngwobr Hyfforddwr VQ y Flwyddyn, sef gwobr sy\u2019n cydnabod hyfforddwyr unigol sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig wrth helpu dysgwyr yn y gweithle i ragori, a hynny gan wella eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth eu hunain ar yr un pryd, yw:<\/p>\n<p><strong>Gwenno Jones, 28, o Portal Training, Caerdydd<\/strong>, sy\u2019n canolbwyntio ar helpu a herio dysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae\u2019r cyn-bennaeth ffiseg mewn ysgol uwchradd bellach yn ysbrydoli pobl eraill i ddysgu, a hithau\u2019n hyfforddwraig prentisiaethau lefel uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheoli. Mae ei dulliau o fentora sy\u2019n unigryw i bob person, ynghyd \u00e2\u2019r cymorth dwyieithog y mae\u2019n ei roi, yn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu hamcanion mewn ffordd sy\u2019n addas iddynt hwy fel unigolion.<\/p>\n<p>Enwebwyd <strong>Lisa Winter, o Arthur J. Gallagher yn Llantrisant<\/strong>, sef cwmni yswiriant a rheoli risg, gan Acorn Learning Solutions, Casnewydd. Cyflawnodd 98% o\u2019i dysgwyr eu fframwaith llawn yn 2015-16. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi ennill pedwar cymhwyster ei hun, gan gynnwys y Diploma Lefel 4 CII a Gwobr Lefel 4 mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol.<\/p>\n<p>Enwebwyd <strong>Matthew Booth, sy\u2019n arwain hyfforddiant galwedigaethol yn Electroimpact UK Ltd, Penarl\u00e2g<\/strong>, gan Goleg Cambria, Wrecsam. Mae\u2019n credu mewn arwain drwy esiampl a dilynodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth cyn disgwyl i uwch brentisiaid yn y cwmni ddilyn cymwysterau galwedigaethol eu hunain. Mae\u2019r rheini wedyn wedi ennill gwobrau am wneud hynny.<\/p>\n<p>Y rheini sydd yn y rownd derfynol yng Ngwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn, sef gwobr sy\u2019n canolbwyntio ar gyflogwyr sy\u2019n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud gwir gyfraniad tuag at wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol, yw:<\/p>\n<p><strong>Arthur J. Gallagher, Llantrisant,<\/strong> a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions, Casnewydd. Mae twf mawr yn y cwmni yswiriant a rheoli risg hwn dros y pum mlynedd ddiwethaf \u2013 cwmni sydd wedi ennill llu o wobrau \u2013 wedi\u2019i sbarduno gan raglen brentisiaethau. Mae 75 o weithwyr wedi cwblhau prentisiaethau yn ystod y cyfnod hwnnw ac mae 37 arall ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ennill cymwysterau. Mae refeniw\u2019r cwmni wedi cynyddu o \u00a33.56 miliwn yn 2012 i \u00a38.4 miliwn a nifer y staff wedi codi o 68 i 155, a hynny yn ei safleoedd yn Llantrisant, Caerdydd, Casnewydd a Thonysguboriau.<\/p>\n<p>Enwebwyd <strong>Electroimpact UK Ltd, Penarl\u00e2g<\/strong> gan Goleg Cambria. Ers i\u2019r cwmni peirianneg awyrofod hwn ymroi\u2019n llwyr i gymwysterau galwedigaethol bedair blynedd yn \u00f4l, mae wedi tyfu\u2019n sylweddol, ac mae\u2019n dweud mai\u2019r hyfforddiant a roddwyd i\u2019w staff sy\u2019n uniongyrchol gyfrifol am hynny. Mae gweithdy\u2019r cwmni wedi cynyddu yn ei faint 50 y cant yn fwy na\u2019r cynllun gwreiddiol. Mae prentisiaid y cwmni hefyd wedi ennill gwobrau aur, arian ac efydd yng nghystadlaethau WorldSkills a medaliwn rhagoriaeth yn EuroSkills.<\/p>\n<p>Enwebwyd <strong>Mainetti, Wrecsam<\/strong>, gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian. Ers lansio rhaglen brentisiaethau yn y cwmni ailgylchu hwn bedair blynedd yn \u00f4l, mae cynhyrchiant wedi gwella. Mae\u2019r cyfan hefyd wedi rhoi hwb i ysbryd y gweithwyr, a\u2019r trosiant ymhlith staff wedi gostwng. Mae gan y cwmni weithlu o 230 sy\u2019n dod o sawl cenedl wahanol, a\u2019i waith yw ailgylchu ac ailddosbarthu bachau hongian dillad i siopau mawr. Mae cynhyrchiant wedi cynyddu 20 y cant ers i\u2019r cwmni gyflwyno ei raglen brentisiaethau.<\/p>\n<p>Dyma\u2019r ddegfed flwyddyn yn olynol i\u2019r gwobrau gael eu cynnal, ac maent yn cyd-fynd \u00e2 Diwrnod VQ ar 7 Mehefin, diwrnod sy\u2019n dathlu cymwysterau galwedigaethol ymhlith dysgwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr. Anogir colegau a darparwyr dysgu drwy Gymru i drefnu digwyddiadau lleol i ddathlu Diwrnod VQ ac i sicrhau bod dysgwyr o bob oed yn rhan o\u2019r rheini.<\/p>\n<p>Meddai Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth: \u201cMae Diwrnod VQ yn dathlu cymwysterau galwedigaethol sy\u2019n agor y drws i ddysgwyr i\u2019r diwydiant y maent am weithio ynddo. Mae\u2019r cymwysterau hyn hefyd yn eu paratoi at astudiaethau galwedigaethol neu\u2019r brifysgol. Rhaid i\u2019r hyfforddiant adlewyrchu anghenion y diwydiant ac ymateb i\u2019r rheini os yw am fod o fudd i gyflogwyr a busnesau.<\/p>\n<p>\u201cMae sector busnes cryf, economi gryf a chyflogwyr cryf yn hanfodol er mwyn cael sector addysg galwedigaethol cryf. Felly, nod Diwrnod VQ a\u2019r gwobrau hyn yw cydnabod yr hyn y mae\u2019r sector yn ei wneud a rhoi\u2019r cyfle i ymwneud \u00e2 dysgwyr o bob oed.<\/p>\n<p>\u201cNi fu cymwysterau galwedigaethol erioed mor bwysig i\u2019r economi ac i unigolion, gan eu bod yn darparu\u2019r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau mor awyddus i\u2019w cael, a chan eu bod hefyd yn sicrhau bod gan unigolion y sgiliau i lwyddo yn y byd addysg a\u2019r byd gwaith.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bydd y deuddeg sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn darganfod nos Fawrth (Mehefin 6) a ydynt wedi ennill un o Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) eleni \u2013 gwobrau sy\u2019n dathlu\u2019r rheini o bob rhan o Gymru sy\u2019n &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/y-dwsin-sydd-ar-restr-fer-gwobrau-vq-ar-fin-darganfod-eu-ffawd\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-4852","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4852","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4852"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4852\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4852"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4852"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4852"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}