{"id":4855,"date":"2017-06-07T10:00:17","date_gmt":"2017-06-07T10:00:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=4855"},"modified":"2017-06-10T20:18:07","modified_gmt":"2017-06-10T20:18:07","slug":"cwmni-awyrofod-o-lannau-dyfrdwy-yn-llwyddo-ddwywaith-yng-ngwobrau-vq","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmni-awyrofod-o-lannau-dyfrdwy-yn-llwyddo-ddwywaith-yng-ngwobrau-vq\/","title":{"rendered":"Cwmni awyrofod o Lannau Dyfrdwy yn llwyddo ddwywaith yng Ngwobrau VQ"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_8813\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/vq-winners-2017.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-8813\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/vq-winners-2017-460x264.jpg\" alt=\"VQ Awards winners and finalists 2017\" width=\"460\" height=\"264\" class=\"size-large wp-image-8813\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-8813\" class=\"wp-caption-text\">VQ Awards winners and finalists 2017<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmni-awyrofod-o-lannau-dyfrdwy-yn-llwyddo-ddwywaith-yng-ngwobrau-vq\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/deeside-aerospace-company-succeed-twice-at-vq-awards\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Cafodd Electroimpact UK Ltd, busnes peirianneg awyrofod o Lannau Dyfrdwy, lwyddiant dwbl yn seremoni\u2019r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) neithiwr (nos Fawrth).<\/p>\n<p>Enillodd y cwmni o Benarl\u00e2g wobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn ac enillodd Matthew Booth, ei bennaeth gweithgynhyrchu, wobr Hyfforddwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd, y noson cyn Diwrnod VQ ar Fehefin 7.<\/p>\n<p>Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru a Cymwysterau Cymru sy\u2019n trefnu Gwobrau VQ \u2013 gwobrau sy\u2019n dathlu\u2019r rheini sy\u2019n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i lwyddo. Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop sy\u2019n ariannu\u2019r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Enillydd gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (lefel canolradd) oedd Alys Evans, 18, o Gilfach Goch, myfyrwraig Teisennau a Melysion yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw. Aeth gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (lefel uwch) i Julie Mundy o Seren Cyf, Blaenau Ffestiniog, a enwebwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Mae buddsoddi mewn dysgu seiliedig ar waith wedi helpu Electroimpact UK Ltd i gynyddu maint ei weithdy 50 y cant yn fwy na\u2019r bwriad ac wedi arwain at wobrau cenedlaethol a rhyngwladol i\u2019w brentisiaid medrus.<\/p>\n<p>Bedair blynedd yn \u00f4l penderfynodd y cwmni ymroi yn llwyr i sicrhau bod ei weithwyr yn gallu ennill cymwysterau galwedigaethol. Cwblhaodd Matthew Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth ei hun fel y gallai arwain drwy esiampl cyn cyflwyno\u2019r hyfforddiant i brentisiaid a gweithwyr.<\/p>\n<p>Mae pump o\u2019r 10 gweithiwr yn ystafell beiriannau\u2019r cwmni, sy\u2019n cyflogi 150 o staff, yn gweithio tuag at ennill cymwysterau galwedigaethol.<\/p>\n<p>\u201cMae hyfforddiant galwedigaethol wedi ein galluogi i greu gweithlu hynod fedrus. Mae ein prentisiaid medrus wedi mynd yn eu blaenau i ennill cystadlaethau cenedlaethol ynghyd \u00e2 rhai rhyngwladol wrth gynrychioli ein cwmni a\u2019n gwlad,\u201d ychwanegodd Matthew.<\/p>\n<p>Bu gan Electroimpact UK Ltd brentisiaid yng nghystadlaethau WorldSkills dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ennill dwy fedal aur, un arian ac un efydd. Aeth un prentis i rownd derfynol EuroSkills yn Sweden, gan ennill medaliwn rhagoriaeth.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni wedi gweithio \u00e2\u2019r darparwr hyfforddiant Coleg Cambria i roi ei hyfforddiant. \u201cMae Electroimpact yn fodel o sut y dylai cwmni ddefnyddio hyfforddiant galwedigaethol,\u201d meddai Vicky Barwis, un o gyfarwyddwyr Coleg Cambria.<\/p>\n<p>\u201cEr eu bod yn rhan o gr?p bychan, mae\u2019r prentisiaid yn cael hyfforddiant o\u2019r radd flaenaf a mentora a hyfforddiant ychwanegol er mwyn rhagori mewn cystadlaethau sgiliau yn ogystal \u00e2 sicrhau marciau uchel yn eu cymwysterau.\u201d<\/p>\n<p>Dechreuodd Matthew, o Frymbo ger Wrecsam, ei yrfa fel prentis gwneuthurwr offer 20 mlynedd yn \u00f4l, a dilynodd hyfforddiant wrth ddatblygu ei yrfa. Mae wedi cael ei achrediad EngTech drwy IMechE ac wedi gweithio hefyd gyda SEMTA, corff sy\u2019n hyrwyddo pynciau STEM yn y DU, i ddatblygu cymhwyster Meistr Crefft.<\/p>\n<p>Mae brwdfrydedd a sgiliau Alys Evans wrth bobi ac addurno cacennau wedi ei harwain ar lwybr gyrfa llwyddiannus, a hwnnw wedi mynd \u00e2 hi i Barcelona i wneud profiad gwaith mewn siop deisennau Siapaneaidd\/Catalanaidd.<\/p>\n<p>Mae hi\u2019n gweithio tuag at ennill cymhwyster lefel tri mewn Teisennau a Melysion yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw, ac yn breuddwydio am redeg ei busnes symudol ei hun yn gwerthu cacennau a theisennau bach, ynghyd \u00e2 siop deisennau a becws.<\/p>\n<p>Mae hi wedi ennill llu o wobrau aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, yn ogystal \u00e2 medal aur City &#038; Guilds am gyflawniad rhagorol a medal aur Cake International yn Llundain.<\/p>\n<p>Enillodd wobr o \u00a31,000 hefyd i\u2019w helpu i ddatblygu ei sgiliau pobi ac addurno a pharatoi at yrfa yn y diwydiant yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Dywedodd Lesley Cottrell, hyrwyddwr entrepreneuriaeth Coleg y Cymoedd: \u201cMae Alys yn parhau i\u2019n rhyfeddu. Nid talent pobi yn unig sydd ganddi, ond craffter busnes hefyd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Alys: \u201cRwyf wrth fy modd yn pobi, yn addurno ac yn helpu pobl eraill i wella eu sgiliau, a byddai\u2019n freuddwyd cael rhedeg fy musnes symudol fy hun yn gwerthu cacennau a theisennau bach, ynghyd \u00e2 siop deisennau a becws.\u201d<\/p>\n<p>Mae Julie Mundy, 52, wedi troi\u2019r siom o golli ei swydd yn gyfle i ddilyn gyrfa newydd lewyrchus gyda Seren Cyf, sy\u2019n helpu oedolion sydd ag anableddau dysgu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r fam i dri o Finffordd, ger Porthmadog, yn arweinydd ar d\u00eem o wyth yn yr uned ailgylchu dodrefn a thecstilau a gaiff eu casglu o\u2019r gymuned yn ardal Blaenau Ffestiniog, ac mae ei brwdfrydedd dros ddysgu gydol oes wedi\u2019i harwain i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Systemau a Rheoli Gweithrediadau.<\/p>\n<p>Bum mlynedd yn \u00f4l, pan oedd hi\u2019n un o\u2019r gweithwyr a gollodd eu swyddi yn Gelert ym Mhorthmadog, fe\u2019i gorfodwyd i ddod o hyd i waith newydd. \u201cRoedd yn gyfle i ddod o hyd i rywbeth roeddwn i wir am ei wneud, oherwydd wnes i ddim meddwl go iawn am yrfa wrth fagu fy mhlant,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cRoedd y cyfle i ailgylchu dodrefn yn Seren Cyf yn apelio\u2019n fawr, ac roeddwn i hefyd am helpu pobl sydd ag anawsterau dysgu.\u201d<\/p>\n<p>Mae hi\u2019n falch mai hi yw\u2019r ddysgwraig gyntaf gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gwblhau\u2019r Diploma Lefel 4 mewn Systemau a Rheoli Gweithrediadau, a hithau wedi gwneud hynny mewn llai na dwy flynedd.<\/p>\n<p>Cafodd yr holl enillwyr, ynghyd \u00e2\u2019r rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol, eu llongyfarch gan Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth. \u201cMae cael gwobr VQ \u2013 gwobr yn y maes Cymwysterau Galwedigaethol \u2013 yn symbol o ymroddiad i\u2019ch proffesiwn chi,\u201d meddai. \u201cMae\u2019r gwobrau yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr, dysgwyr a hyfforddwyr yng Nghymru sydd eisoes yn cymryd camau ychwanegol i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.<\/p>\n<p>\u201cOs yw economi Cymru i barhau i dyfu, yna rhaid inni sicrhau bod gweithwyr, unigolion, darparwyr hyfforddiant a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau cywir i sicrhau llwyddiant, a hynny er mwyn rhoi i Gymru weithlu o\u2019r radd flaenaf.<\/p>\n<p>\u201cNi fu cymwysterau galwedigaethol erioed mor bwysig i\u2019r economi ac i unigolion, gan eu bod yn darparu\u2019r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau mor awyddus i\u2019w cael, a chan eu bod hefyd yn sicrhau bod gan unigolion y sgiliau i lwyddo yn y byd addysg a\u2019r byd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Y lleill a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd: Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Canolradd): Jason Hyam, 34, o Gaerdydd, sy\u2019n gweithio i Arthur J. Gallagher, Llantrisant, a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions a Maria Brooks, 29, o\u2019r Ford Motor Company, Pen-y-bont ar Ogwr, a enwebwyd gan Goleg Penybont. Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Uwch): Christine Thomas o adran rheoli gwastraff Cyngor Dinas Casnewydd a enwebwyd gan Safe and Secure Training a Mitchell Rees, 21, o Ferthyr Tudful, a enwebwyd gan Goleg Penybont. Hyfforddwr VQ y Flwyddyn: Gwenno Jones, 28, o Portal Training, Caerdydd a Lisa Winter o Arthur J. Gallagher, Llantrisant, a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions, Casnewydd. Cyflogwr VQ y Flwyddyn: Arthur J. Gallagher, Llantrisant, a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions a Mainetti, Wrecsam, a enwebwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Yn y llun:<br \/>\nEnillwyr a Rhestr fer Gwobrau VQ 2017<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd Electroimpact UK Ltd, busnes peirianneg awyrofod o Lannau Dyfrdwy, lwyddiant dwbl yn seremoni\u2019r Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) neithiwr (nos Fawrth). Enillodd y cwmni o Benarl\u00e2g wobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn ac enillodd Matthew Booth, ei bennaeth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmni-awyrofod-o-lannau-dyfrdwy-yn-llwyddo-ddwywaith-yng-ngwobrau-vq\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"class_list":["post-4855","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwrnod-vq"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4855","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4855"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4855\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4855"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4855"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4855"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}