{"id":5010,"date":"2017-07-24T21:10:20","date_gmt":"2017-07-24T20:10:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5010"},"modified":"2022-09-13T10:50:47","modified_gmt":"2022-09-13T09:50:47","slug":"prentisiaethaun-allweddol-i-agenda-sgiliau-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-allweddol-i-agenda-sgiliau-cymru\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau\u2019n allweddol i agenda sgiliau Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeships-are-key-to-the-skills-agenda-in-wales\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-allweddol-i-agenda-sgiliau-cymru\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><strong>Gan Sarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.<\/strong><\/p>\n<p>Er bod llawer iawn o drafod wedi bod yn 2017 ar fater gadael yr Undeb Ewropeaidd, bu tua&#8217;r un faint o drafod ar rywbeth sy\u2019n dychwelyd hefyd \u2013 Prentisiaethau. Gyda dyfodiad Ardoll Brentisiaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill, mae cyflogwyr yng Nghymru\u2019n dangos mwy o ddiddordeb nag erioed mewn cymryd rhan yn y Rhaglen Brentisiaethau.<\/p>\n<p>Daeth Brexit a\u2019r Ardoll Brentisiaethau ar adeg pryd y mae dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei ddatblygiad sef, yn bennaf, proffesiynoli&#8217;r gweithlu.<br \/>\nGyda\u2019r holl bethau hyn mewn cof, roedd ein cynhadledd flynyddol yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf yn gyfle delfrydol am drafodaeth rhwng cyflogwyr, darparwyr a Llywodraeth Cymru. Daeth dros 180 o bobl i\u2019r gynhadledd lwyddiannus gyda\u2019r nod o gydweithio er budd unigolion, cyflogwyr ac economi Cymru yn ehangach.<\/p>\n<p>Cydweithio mewn partneriaeth oedd thema anerchiad cadarnhaol Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru. Roedd yn braf iawn ei bod hi a siaradwyr eraill wedi cydnabod cyfraniad sylweddol yr NTfW at agenda sgiliau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Dewiswyd \u2018Prentisiaethau yng Nghymru \u2013 Sylfaen economi ar gyfer y dyfodol\u2019 yn thema i\u2019r gynhadledd am fod yr Ardoll Brentisiaethau wedi codi ymwybyddiaeth o\u2019r rhaglenni amrywiol sydd ar gael yng Nghymru, eu perthnasedd i weithgarwch sy\u2019n canolbwyntio ar waith a phroffesiynoldeb yr wybodaeth sydd ynddynt.<\/p>\n<p>Fel darparwyr dysgu, rydym yn helpu cyflogwyr i adolygu\u2019r gwaith o gynllunio\u2019r gweithlu, o ganfod gweithwyr y mae angen cynyddu eu sgiliau yn eu swydd bresennol ac o gynllunio gwaith recriwtio gan ddefnyddio\u2019r Rhaglen Brentisiaethau. Mae\u2019r NTfW yn chwarae rhan arweiniol yn cynnig cyngor diduedd ac arweiniad i gyflogwyr.<\/p>\n<p>Wrth edrych ymlaen, mae\u2019n rhaid i ni baratoi at ddyfodol addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 yn dilyn Adolygiad Hazelkorn, sy\u2019n anelu at \u2018\u2026(d)datblygu system addysg \u00f4l-orfodol o\u2019r radd flaenaf\u2019 yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yn chwarae rhan allweddol wrth i ni newid y ddarpariaeth a chydweithio mwy mewn ymateb i flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau a chanfyddiadau&#8217;r tair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol.<\/p>\n<p>Cymerwyd cam sylweddol ymlaen at gydnabod gwaith pwysig ein sector ni ym mis Ebrill pan gafodd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gofrestru am y tro cyntaf fel addysgwyr proffesiynol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.<\/p>\n<p>Mae\u2019r NTfW wedi dod yn bell dros y degawd diwethaf ac roedd yn amlwg i bawb a fu yn ein cynhadledd pa mor bwysig yw\u2019r rhwydwaith yn y gwaith o wireddu agenda sgiliau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Rydym wedi cyflwyno dogfen o\u2019r enw \u2018Datrysiadau Creadigol\u2019 i\u2019r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn cynnig syniadau am y ffordd y gall y rhwydwaith greu rhagor o gyfleoedd am brentisiaethau a llwybrau gyrfa mewn sectorau blaenoriaeth, gan adlewyrchu\u2019r sgiliau y mae\u2019r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi nodi y bydd angen amdanynt yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Rydym yn canolbwyntio\u2019n llwyr ar y targed a bennwyd gan Lywodraeth Cymru i ganfod o leiaf 100,000 o brentisiaid o safon uchel o bob oed yn ystod tymor y Llywodraeth bresennol. Dyna pam y buom yn cydweithio \u00e2\u2019r CBI yn y gynhadledd i ehangu ein gweithdai i gynnwys cyfleoedd i gyflogwyr ddysgu mwy am y polisi prentisiaethau.<\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019n cynlluniau \u2018Datrysiadau Creadigol\u2019, rydym yn trafod ymholiadau am brentisiaethau o wefan Busnes Cymru yn awr hefyd. Mae\u2019r NTfW yn ei osod ei hunan fel cyfryngwr, yn rhoi cyngor ac arweiniad i gyflogwyr ac yn cyfeirio darparwyr at gyfleoedd. O fewn pythefnos ar \u00f4l lansio\u2019r gwasanaeth fis diwethaf, cawsom ymholiadau gan dros 70 o gyflogwyr, sy\u2019n arwydd o\u2019r effaith gadarnhaol a gawn.<\/p>\n<p>Yn ogystal, trefnwyd cyfres o dri digwyddiad gwybodaeth rhanbarthol gennym \u2013 yn Llandudno ar 11 Gorffennaf, Llandrindod ar 18 Gorffennaf a Chaerdydd ar 20 Gorffennaf \u2013 ar ran Llywodraeth Cymru i roi gwybod i gyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am yr Ardoll Brentisiaethau a sut i ddechrau cynnig prentisiaethau. <\/p>\n<p>Cymerodd yr NTfW ran hefyd yn yr ymchwiliad i Brentisiaethau a gynhaliwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, pan fu\u2019r aelodau\u2019n ymweld \u00e2 chyflogwyr a phrentisiaid er mwyn deall yn iawn beth yw manteision y Rhaglen Brentisiaethau. Bu hwn yn gynllun llesol iawn a lwyddodd i gadarnhau pwysigrwydd prentisiaethau i economi Cymru.<\/p>\n<p>Bu gennym ran allweddol yn sefydlu gr\u0175p trawsbleidiol ar Brentisiaethau ac fe&#8217;n cynrychiolir ar Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru. Wrth i\u2019r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol barhau i gynghori Llywodraeth Cymru ar baru cyllid ag anghenion cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol, mae\u2019n bwysig ein bod ni\u2019n cyfrannu ar lefel strategol.<\/p>\n<p>Er mwyn ymdopi \u00e2\u2019r holl waith ychwanegol hyn a symud ymlaen \u00e2\u2019n strategaeth ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyfethol pedwar aelod newydd i gryfhau ein bwrdd ac rydym yn gobeithio cyflogi pum aelod newydd o\u2019r staff yn fuan. Mae\u2019n amser prysur, ond cyffrous, i fod yn ymwneud \u00e2 dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Gan Sarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Er bod llawer iawn o drafod wedi bod yn 2017 ar fater gadael yr Undeb Ewropeaidd, bu tua&#8217;r un faint o drafod ar rywbeth sy\u2019n dychwelyd hefyd \u2013 Prentisiaethau. &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-allweddol-i-agenda-sgiliau-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5010","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5010","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5010"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5010\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8801,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5010\/revisions\/8801"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5010"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5010"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5010"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}