{"id":5012,"date":"2017-07-25T14:37:13","date_gmt":"2017-07-25T13:37:13","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5012"},"modified":"2022-09-13T10:50:40","modified_gmt":"2022-09-13T09:50:40","slug":"sylw-mawr-i-brentisiaethau-mewn-digwyddiadau-ar-gyfer-cyflogwyr-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sylw-mawr-i-brentisiaethau-mewn-digwyddiadau-ar-gyfer-cyflogwyr-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Sylw mawr i brentisiaethau mewn digwyddiadau ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9048\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Speakers1-e1500805897925.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9048\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Speakers1-e1500805897925.jpg\" alt=\"L-R Jeff Protheroe, Director of Operations NTfW, Sarah John, Chair NTfW, Jason Hyam, Business Manager Arthur J Gallagher  and Samantha Huckle, Head of Apprenticeships, Welsh Government\" width=\"480\" height=\"345\" class=\"size-full wp-image-9048\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9048\" class=\"wp-caption-text\">O\u2019r chwith i\u2019r dde: Jeff Protheroe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau NTfW, Sarah John, Cadeirydd NTfW, Jason Hyam, Rheolwr Busnes Arthur J Gallagher a Samantha Huckle, Pennaeth Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeships-top-the-agenda-at-events-for-welsh-employers\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sylw-mawr-i-brentisiaethau-mewn-digwyddiadau-ar-gyfer-cyflogwyr-yng-nghymru\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Bu cyflogwyr o\u2019r sector cyhoeddus a\u2019r sector preifat yng Nghymru mewn cyfres o dri digwyddiad rhanbarthol a drefnwyd i\u2019w helpu i gymryd rhan yn Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd y ddau ddigwyddiad cyntaf yn Llandudno a Llandrindod ac roedd yr olaf yng Nghaerdydd ddoe (dydd Iau) pan ddaeth dros 80 o bobl i\u2019r Mercure Holland House Hotel.<\/p>\n<p>Llwyddodd y digwyddiadau i ddenu cynrychiolwyr o fusnesau preifat ac uwch reolwyr sy\u2019n gyfrifol am recriwtio a datblygu staff mewn nifer o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, fel awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau\u2019r GIG a\u2019r gwasanaethau brys.  Roedd cyfle iddynt sgwrsio \u00e2 darparwyr dysgu am eu gofynion penodol nhw o ran prentisiaethau a\u2019u hanghenion hyfforddiant ychwanegol.<\/p>\n<p>Trefnwyd y digwyddiadau ar ran Llywodraeth Cymru gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy\u2019n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae cyrff o&#8217;r sectorau cyhoeddus a phreifat a\u2019r trydydd sector sydd \u00e2 bil cyflogau o dros \u00a33 miliwn yn talu Ardoll Brentisiaethau \u2013 0.5% o\u2019u bil cyflogau \u2013 i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cynnal prentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i gefnogi o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel i bobl o bob oed yn ystod tymor y Llywodraeth bresennol. Dywedodd Sam Huckle, Pennaeth Prentisiaethau, bod Llywodraeth Cymru yn targedu sgiliau lefel uwch mewn sectorau, a bennwyd gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a fyddai\u2019n hybu twf yn economi Cymru.<\/p>\n<p>Roeddent yn canolbwyntio ar ddatblygu polis\u00efau cynaliadwy at y dyfodol. Felly, rhoddwyd blaenoriaeth i brentisiaethau mewn sectorau oedd yn cynnig yr adenillion gorau ar fuddsoddiad. Pwysleisiodd sut y byddai\u2019r unigolyn, y cyflogwr a\u2019r economi\u2019n elwa o ddatblygu sgiliau technegol ar lefel uwch. <\/p>\n<p>Datgelodd hefyd bod prentisiaeth benodol yn cael ei datblygu ar gyfer gwasanaethau\u2019r sector cyhoeddus a bod prentisiaethau gradd mewn TGCh, gweithgynhyrchu uwch a pheirianneg wedi\u2019u lansio, gydag eraill i ddilyn, lle\u2019r oedd yn ymarferol.<\/p>\n<p>O\u2019r holl bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a adawodd yr ysgol yng Nghymru y llynedd, datgelodd mai dim ond 401 oedd wedi mynd yn brentisiaid. Roedd Llywodraeth Cymru\u2019n gwneud ei gorau glas i adfer prentisiaethau fel dewis gwerthfawr i bobl sy\u2019n gadael yr ysgol. <\/p>\n<p>Soniodd Sam Huckle am ymgyrch dros yr haf i ddenu 1,000 o bobl ifanc sy\u2019n gadael yr ysgol i wneud prentisiaethau a dywedodd fod prentisiaethau iau\u2019n cael eu cyflwyno ar gyfer myfyrwyr rhwng 14 ac 16 oed.<\/p>\n<p>Dywedodd Sarah John, cadeirydd NTfW, bod prentisiaethau\u2019n ffordd wych o recriwtio pobl ifanc a chynyddu sgiliau gweithluoedd. Roedd Llywodraeth Cymru\u2019n awyddus i weld 40 y cant o weithlu Cymru\u2019n codi eu sgiliau i lefel pedwar ac uwch erbyn 2024.<\/p>\n<p>Dywedodd Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW, mai yn y sector gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd yr oedd un rhan o dair o\u2019r 45,000 o brentisiaethau yng Nghymru yn 2015-16.<\/p>\n<p>O&#8217;r holl brentisiaethau a gyflenwyd, roedd 46 y cant o&#8217;r prentisiaid yn 25 oed a throsodd a 24 y cant ar lefel pedwar ac uwch, o&#8217;i gymharu \u00e2 chwech y cant yn 2012-13. <\/p>\n<p>\u201cDros gyfnod byr, rydym wedi gweld symudiad sylweddol tuag at brentisiaethau uwch,\u201d meddai Mr Protheroe, gan annog cyflogwyr i s\u00f4n wrth yr NTfW os nad oedd y ddarpariaeth bresennol yn bodloni anghenion eu busnes.<\/p>\n<p>\u201cEr mwyn gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddenu rhagor o bobl ifanc a chyflenwi sgiliau lefel uwch, bydd angen i\u2019r llywodraeth gyfan gymryd rhan. Mae angen i gyflogwyr greu galw am lefydd i brentisiaid a bydd hynny\u2019n denu\u2019r bobl ifanc ddisgleiriaf sy&#8217;n gadael ein hysgolion.\u201d<\/p>\n<p>Cyrhaeddodd Jason Hyam, o gwmni broceriaid yswiriant Arthur J. Gallagher, Llantrisant, rownd derfynol y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol eleni a soniodd am ei daith o fod yn brentis i fod yn rheolwr busnes yn gofalu am d\u00eem o saith.<\/p>\n<p>Roedd y brentisiaeth wedi rhoi hwb fawr i\u2019w yrfa ac wedi cynyddu ei hyder, ei wybodaeth am y maes a\u2019i sgiliau. Roedd yn argymell i gyflogwyr gynnig prentisiaethau a dywedodd y byddai\u2019r manteision yn treiddio trwy\u2019r sefydliad cyfan.<\/p>\n<p>Dywedodd Emma Cowley, rheolwr dysgu ym maes prentisiaethau gydag Amazon, fod yr achlysur yn \u201cddefnyddiol\u201d er mwyn deall y newidiadau sy\u2019n digwydd ym maes prentisiaethau yng Nghymru. <\/p>\n<p>Datgelodd y byddai Amazon yn recriwtio cant o brentisiaid yn Lloegr ym mis Medi ac yna\u2019n bwriadu recriwtio yng Nghymru a\u2019r Alban, ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, mae\u2019n debyg. \u201cBydd 2018 yn flwyddyn fawr i brentisiaid yn y busnes,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Roedd Rhys Owen, cynghorydd datblygu\u2019r sefydliad gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd \u00e2 gweithlu o ryw 1,600, wrth ei fodd yn rhwydweithio gydag eraill o\u2019r sector cyhoeddus yng Nghymru. <\/p>\n<p>Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru\u2019n lansio rhaglen brentisiaethau ym mis Hydref ar gyfer pum prentis ym maes gweinyddu busnes ac mae\u2019n bwriadu cynnwys cymwysterau eraill, technegol a phwrpasol, yn y dyfodol. Mae cymhwyster ym maes iechyd y cyhoedd yn cael ei gyflwyno yn Lloegr a gellid ei ddefnyddio yng Nghymru hefyd.<\/p>\n<p>Dywedodd Carys Samuel, arweinydd prentisiaethau gyda\u2019r DVLA, bod ganddyn nhw raglen brentisiaethau lwyddiannus eisoes gyda 165 o brentisiaid a\u2019u bod wrthi\u2019n recriwtio rhagor. <\/p>\n<p>Mwynhaodd gyfarfod \u00e2 chyflogwyr eraill a chlywed sut yr oeddent yn gweithredu eu strategaeth brentisiaethau mewn ymateb i\u2019r Ardoll Brentisiaethau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. <\/p>\n<p>Yn \u00f4l David Morgan, gwerthuswr ymchwil gyda Heddlu Dyfed Powys, roedd yr achlysur yn \u201ceithriadol o fuddiol\u201d a dywedodd ei fod yn gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg i hyrwyddo agenda prentisiaethau yn yr heddlu.<\/p>\n<p>Roedd ef o blaid newid i ddiwylliant o ddysgu seiliedig ar waith gyda staff yn cael eu hyfforddi a\u2019u mentora yn y gweithle yn hytrach nag ar gyrsiau mewn ystafell ddosbarth.<\/p>\n<p>Gall cyflogwyr fynegi diddordeb yn y Rhaglen Brentisiaethau trwy lenwi ffurflen \u2018Mynegi Diddordeb\u2019 ym Mhorth Sgiliau Busnes Cymru &#8211; https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau-0  \u2013 sy\u2019n cael ei rannu \u00e2 Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bu cyflogwyr o\u2019r sector cyhoeddus a\u2019r sector preifat yng Nghymru mewn cyfres o dri digwyddiad rhanbarthol a drefnwyd i\u2019w helpu i gymryd rhan yn Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y ddau ddigwyddiad cyntaf yn Llandudno a Llandrindod &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sylw-mawr-i-brentisiaethau-mewn-digwyddiadau-ar-gyfer-cyflogwyr-yng-nghymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5012","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5012","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5012"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5012\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8800,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5012\/revisions\/8800"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5012"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5012"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5012"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}