{"id":5033,"date":"2017-08-11T22:25:38","date_gmt":"2017-08-11T22:25:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5033"},"modified":"2017-08-11T22:25:38","modified_gmt":"2017-08-11T22:25:38","slug":"recriwtio-prentisiaid-o-gronfa-ddoniau-ymadawyr-ysgol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/recriwtio-prentisiaid-o-gronfa-ddoniau-ymadawyr-ysgol-cymru\/","title":{"rendered":"Recriwtio prentisiaid o gronfa ddoniau ymadawyr ysgol Cymru"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9224\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/08\/APP-Michael-Kylie-251-Web.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9224\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/08\/APP-Michael-Kylie-251-Web.jpg\" alt=\"Tata Steel\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9224\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9224\" class=\"wp-caption-text\">Tata Steel<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/recruiting-apprentices-from-talent-pool-of-welsh-school-leavers\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/recriwtio-prentisiaid-o-gronfa-ddoniau-ymadawyr-ysgol-cymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae cyflogwyr ledled Cymru sydd eisiau tyfu eu busnesau yn cael eu hannog i ddefnyddio cronfa gyfoethog o ddoniau trwy gynnig prentisiaethau i filoedd o ymadawyr ysgol yr haf hwn.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gorffen eu harholiadau TGAU a Safon Uwch, mae pobl ifanc o bob cwr o Gymru\u2019n wynebu penderfyniadau pwysig am eu llwybr gyrfa i\u2019r dyfodol ac un o\u2019r prif opsiynau yw prentisiaeth.<\/p>\n<p>Ni fydd llawer o bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed yn aros mewn addysg amser llawn a byddant yn mynd allan i\u2019r byd mawr i gael gwaith, sydd yn gyfle i fusnesau gael doniau newydd, ffres.<\/p>\n<p><strong>I gael gwybod sut y gallai eich busnes elwa<\/strong><\/br><br \/>\n<a style=\"font-size: 16px; font-weight: bold; border: none; padding: 3px 6px; color: #fff; background: #d2232a; border-radius: 3px;\" href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau-0\">Cofrestrwch eich diddordeb yma<\/a><\/p>\n<p>Ystadegyn y mae Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sydd yn cynrychioli darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith ledled Cymru, yn awyddus i\u2019w newid yr haf hwn yw nifer y bobl ifanc sydd yn gadael yr ysgol ac yn mynd yn brentisiaid.<\/p>\n<p>Allan o\u2019r garfan o 31,500 o ymadawyr ysgol yng Nghymru rhwng 16 a 19 oed y llynedd, dim ond 401 wnaeth gais i fod yn brentisiaid. Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i dderbyn 1,000 o brentisiaid yr haf hwn fel rhan o\u2019i haddewid i gefnogi isafswm o 100,000 o brentisiaid pob oed o ansawdd uchel.<\/p>\n<p>Mae Cymru\u2019n gartref i ystod o fusnesau mentrus ac arloesol sydd yn cynnig ystod o gyfleoedd prentisiaeth cyffrous a heriol i alluogi pobl ifanc i fynd i mewn i fyd gwaith. Gyda chymaint o gyflogwyr yn chwilio am ymadawyr ysgol deallus, bydd y gystadleuaeth am brentisiaid yn llym, felly cynghorir busnesau i beidio gwastraffu unrhyw amser gyda\u2019u cynlluniau recriwtio. <\/p>\n<p>Bydd ymadawyr ysgol sy\u2019n cael eu derbyn ar raglenni prentisiaeth yn hyfforddi yn y gweithle ar y cyd \u00e2 chyflogwyr profiadol er mwyn datblygu\u2019r sgiliau sydd eu hangen ar eu cyflogwyr i wneud cyfraniad amlwg i lwyddiant y busnes. Mae\u2019r cyflogwyr yn talu eu cyflog ac mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth gyda rhywfaint o\u2019r costau hyfforddi.<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau yn dechrau ar lefel dau \u2013 Prentisiaeth Sylfaen \u2013 ac yn datblygu i lefel tri &#8211; Prentisiaeth. Mae lefel pedwar ac uwch yn Brentisiaethau Uwch ac mae lefel bellach, sef prentisiaeth gradd, gan weithio ar y cyd \u00e2 phrifysgolion, yn cael ei datblygu ar gyfer TGCh, gweithgynhyrchu uwch a pheirianneg.<\/p>\n<p>Mae\u2019r math o brentisiaeth yn cyd-fynd \u00e2 lefel y cymwysterau sy\u2019n ofynnol i wneud swydd. Cyflwynir yr hyfforddiant trwy gyfuniad o weithgareddau yn y swydd ac i ffwrdd o\u2019r gwaith gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy yn gysylltiedig \u00e2 swydd a chymhwysedd y prentis, sydd yn cael ei asesu dros gyfnod y rhaglen. <\/p>\n<p>O 1 Awst, bydd y Rhaglen Cymhelliant Cyflogwr Prentisiaeth yn rhoi cymorth i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) i recriwtio prentisiaid 16-19 oed, gan roi\u2019r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a chyflogwyr yn yr hirdymor ac atal prinder sgiliau.<\/p>\n<ul>\n<li>Mae\u2019r cymhelliant ond ar gael i BBaCh sydd yn newydd i brentisiaethau neu sydd heb recriwtio prentis yn y 30 mis diwethaf<\/li>\n<li>Bydd cymorth yn cael ei roi i uchafswm o dri phrentis fesul cyflogwr<\/li>\n<li>Bydd cymorth ar gael waeth beth yw lefel y brentisiaeth<\/li>\n<li>Cynnig taliad o \u00a33,500 (fesul dysgwr) ar gyfer prentisiaid sy\u2019n cael eu recriwtio yn ystod Gorffennaf-Medi a thaliad o \u00a32,500 (fesul dysgwr) ar gyfer prentisiaid sy\u2019n cael eu recriwtio yn ystod pob adeg arall o\u2019r flwyddyn<\/li>\n<li>Gwneir y taliad llawn ar \u00f4l i\u2019r prentis fod wedi ei gyflogi am wyth mis<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n rhaid i gyflogwyr gymryd sawl cam tuag at fod yn brentis:<\/p>\n<ul>\n<li>Dewis fframwaith neu safon prentisiaeth ar gyfer prentisiaeth yn eich diwydiant ac ar lefel addas<\/li>\n<li>Dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant ar gyfer y fframwaith neu\u2019r safon prentisiaeth a ddewiswyd<\/li>\n<li>Gwirio pa gyllid sydd ar gael<\/li>\n<li>Hysbysebu eich prentisiaeth \u2013 gall eich sefydliad hyfforddi eich cynorthwyo i wneud hyn trwy\u2019r Gwasanaeth Paru Prentisiaeth<\/li>\n<li>Dewis eich prentis a ffurfio cytundeb prentisiaeth gyda nhw<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>I ganfod mwy am gyflogi prentisiaid a Rhaglen Cymhelliant Cyflogwr Prentisiaeth Busnesau Bach, llenwch y ffurflen \u2018Mynegi Diddordeb\u2019 ym <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">Mhorth Sgiliau Busnes Cymru<\/a> &#8211; a rennir gyda NTfW.<\/strong><\/p>\n<p>Er mwyn dwyn economi Cymru yn ei blaen a darparu\u2019r sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i sgiliau lefel tri ac uwch mewn sectorau sydd \u00e2\u2019r potensial mwyaf ar gyfer twf.<\/p>\n<p>Yn dilyn cyflwyno\u2019r Ardoll Brentisiaethau yn Ebrill, mae cyflogwyr mawr ledled Cymru sydd \u00e2 chyflogres o fwy na \u00a33 miliwn, bellach yn talu 0.5% o\u2019u bil cyflogau i gefnogi prentisiaethau. Felly, mae mwy o gyfleoedd am brentisiaethau yn cael eu creu ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a\u2019r trydydd sector.<\/p>\n<p>Cynghorir ymadawyr ysgol sydd yn chwilio am brentisiaethau i edrych ar Wasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru ar-lein yn <a href=\"https:\/\/ams.careerswales.com\/Public\/Default.aspx?mode=vacancy&#038;timenow=130012&#038;outputLang=Tr1\">https:\/\/ams.careerswales.com<\/a><\/p>\n<p>Mae Sarah John, cadeirydd NTfW, yn annog cyflogwyr i siarad \u00e2\u2019r NTfW os nad yw eu hanghenion busnes yn cael eu bodloni gan ddarpariaeth bresennol prentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn sylweddoli, er mwyn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu mwy o bobl ifanc a chyflwyno sgiliau lefel uwch, bydd angen ymagwedd llywodraeth gyfan,\u201d dywedodd. \u201cMae angen i ni gael cyflogwyr i greu galw am swyddi prentisiaeth fydd yn denu\u2019r ymadawyr ysgol mwyaf deallus.<\/p>\n<p>\u201cMae darparwyr prentisiaethau yng Nghymru, fel rhan o rwydwaith NTfW, yn y sefyllfa orau i roi\u2019r cyngor a\u2019r arweiniad sydd ei angen ar gyflogwyr i elwa fwyaf ar y rhaglen flaenllaw hon.\u201d <\/p>\n<p>Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyflogwyr ledled Cymru sydd eisiau tyfu eu busnesau yn cael eu hannog i ddefnyddio cronfa gyfoethog o ddoniau trwy gynnig prentisiaethau i filoedd o ymadawyr ysgol yr haf hwn. Ar \u00f4l gorffen eu harholiadau TGAU a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/recriwtio-prentisiaid-o-gronfa-ddoniau-ymadawyr-ysgol-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5033","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5033","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5033"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5033\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5033"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5033"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5033"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}