{"id":5222,"date":"2017-09-22T19:45:06","date_gmt":"2017-09-22T19:45:06","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5222"},"modified":"2017-09-30T21:00:54","modified_gmt":"2017-09-30T21:00:54","slug":"pwyslais-meithrinfa-o-gasnewydd-ar-ddatblygur-staff-ar-plant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pwyslais-meithrinfa-o-gasnewydd-ar-ddatblygur-staff-ar-plant\/","title":{"rendered":"Pwyslais meithrinfa o Gasnewydd ar ddatblygu\u2019r staff a\u2019r plant"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/newport-nursery-focused-on-developing-staff-and-children\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pwyslais-meithrinfa-o-gasnewydd-ar-ddatblygur-staff-ar-plant\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_9333\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/09\/13.09.17-mh-Archway-Nursery-Newport-12.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9333\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/09\/13.09.17-mh-Archway-Nursery-Newport-12-e1506105897703.jpg\" alt=\"Archway Court Nursery owner Gill Jones (front) with manager Chloe Yates with staff members  Hayley Edwards, Philippa Evans.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9333\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9333\" class=\"wp-caption-text\">Perchennog meithrinfa Archway Court, Gill Jones (yn y blaen) gyda\u2019r rheolwr, Chloe Yates ac aelodau o\u2019r staff, Hayley Edwards a Philippa Evans.<\/p><\/div>\n<p>Mae meithrinfa lwyddiannus o Gasnewydd yn defnyddio Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad ei staff a\u2019r plant y mae\u2019n gofalu amdanynt.<\/p>\n<p>Sefydlwyd meithrinfa Archway Court yn 1993 ac mae\u2019n cyflogi 37 aelod o staff, llawn amser a rhan amser, gan gynnig swyddi hyblyg sy\u2019n addas ar gyfer amgylchiadau personol y gweithwyr. Mae\u2019r feithrinfa\u2019n gofalu am rhwng 60 a 70 o blant bob dydd.<\/p>\n<p>Ers iddi ddechrau cynnig prentisiaethau yn 2014, mae\u2019r feithrinfa wedi cofrestru 17 aelod o staff ar y rhaglen. Mae\u2019r hyfforddiant yn amrywio o Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Chwarae i Brentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Gofal, Datblygiad ac Addysg Plant, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant Itec Skills and Employment. <\/p>\n<p>Mae\u2019r feithrinfa wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a bydd yn cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd, ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae meithrinfa Archway Court yn arbenigo mewn dull dysgu ymarferol, gyda\u2019r prentisiaid yn cael profiad yn y gweithle. Cefnogir y prentisiaid gan aseswyr medrus ac maent yn datblygu\u2019n ymarferwyr o safon uchel sy\u2019n cyfoethogi profiad dysgu\u2019r plant.<\/p>\n<p>Caiff rhaglenni hyfforddi eu haddasu ar gyfer dull dysgu\u2019r unigolyn a rhoddir amser penodol i gwblhau&#8217;r gwaith heb ymyrryd \u00e2 bywyd personol y gweithiwr. Rhoddir cymorth parhaus i sichrau nad yw&#8217;r llwyth gwaith yn ormodol a&#8217;i fod yn addas ar gyfer sefyllfa&#8217;r gweithiwr a dewisir dysgwyr sy&#8217;n rhagori yn ystod eu prentisiaeth i symud ymlaen yn eu gyrfa. <\/p>\n<p>Mae pobl dros 25 oed sy\u2019n dymuno newid gyrfa neu nad oedd yn rhagori yn yr ysgol yn cael cyfle i ddysgu a disgleirio yn y feithrinfa.<\/p>\n<p>Dywedodd David Clissitt, pennaeth prentiaethau yn Itec Skills and Employment: \u201cMae Archway Court yn defnyddio\u2019r Rhaglen Brentisiaethau i dynnu\u2019r gorau o bob dysgwr ac, fel busnes, maen nhw bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella.\u201d<\/p>\n<p>Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Archway Court ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae meithrinfa lwyddiannus o Gasnewydd yn defnyddio Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad ei staff a\u2019r plant y mae\u2019n gofalu amdanynt. Sefydlwyd meithrinfa Archway Court yn 1993 ac mae\u2019n cyflogi 37 aelod o staff, llawn amser &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pwyslais-meithrinfa-o-gasnewydd-ar-ddatblygur-staff-ar-plant\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5222","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5222"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5222\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}